Sut i arbed arian ar filiau cartref

Lleihau eich bil ffôn cartref a band eang

Mae llawer o gyflenwyr i’w cael ac mae'n hawdd torri eich biliau ffôn a band eang misol.

Dechreuwch trwy ddilyn yr awgrymiadau syml hyn:

  • Gofynnwch i’ch cyflenwr am bris gwell
  • Defnyddiwch wefannau cymharu prisiau i ddod o hyd i fargen ratach
  • Parwch eich contract â'ch ffordd o fyw - er enghraifft, os ydych yn defnyddio llawer o ddata a chodir tâl ychwanegol arnoch pan fyddwch yn mynd drosodd, gallai cynnig â mwy o ddata fod yn rhatach.

A dylech gael rhent llinell a band eang gyda’i gilydd?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen llinell dir arnoch i gael band eang.

Ystyriwch eich costau llinell dir wrth edrych ar gostau band eang - gan fod nifer o fargeinion sy’n ymddangos yn rhad yn gwneud i chi gymryd rhent llinell ddrud.

Mae gan MoneySavingExpert ragor o awgrymiadau ar sut i arbed arian ar fargeinion ffôn a band eang.Yn agor mewn ffenestr newyddYn agor mewn ffenestr newydd

Newid eich ffôn cartref a band eang

Ni fu erioed yn haws i newid eich darparwr ffôn cartref a band eang. A gallwch arbed cannoedd o bunnoedd i’ch hun ar eich biliau.

Dyma rhai awgrymiadau:

  • Defnyddiwch fwy nag un wefan cymharu. Nid ydynt i gyd yn dangos yr un bargeinion a darparwyr, felly'r mwy rydych yn gwirio, y mwy tebygol rydych o ddod o hyd i fargen ratach.
  • Edrychwch ar y costau misol a blynyddol yn y manylion. Gwybod beth rydych yn ei brynu, er mwyn osgoi unrhyw syndod annisgwyl pan ddaw’ch bil.
  • Cadwch lygaid allan am gynnyrch hyrwyddedig. Mae nifer o wefannau cymharu yn cymryd comisiwn pan rydych yn newid trwyddynt, sy’n golygu efallai y byddent yn eich annog i ddewis un cynnyrch dros un arall, hyd yn oed os nid hynny yw’r fargen orau.
  • Darganfyddwch a ydych yn gymwys am dariffau cymdeithasol. Efallai y gallwch gael band eang a gwasanaethau ffôn rhatach os ydych yn cael budd-daliadau penodol
  • Darganfyddwch pa ddarparwr yw’r gorau. Mae gan Ofcom y graddfeydd boddhad cwsmeriaid diweddaraf ar gyfer darparwyr mawr
  • Cyn gadael contract yn gynnar, darganfyddwch a oes ffi am wneud hynny. Os oes, gwnewch yn siwr ei gynnwys wrth gymharu costau. Dylai'r arian a arbedwch gyda chontract newydd fod yn fwy na'r hyn y mae'n ei gostio i ddod â'ch un presennol i ben.

Sicrhewch fil ffôn symudol rhatach

A yw eich contract ffôn symudol yn dod i ben? A ydych yn ceisio dod o hyd i'r ffordd rataf o gael y ffôn ddiweddaraf?

Dyma ychydig o awgrymiadau i gadw'ch biliau'n isel:

  • Defnyddiwch offer ar-lein i ddadansoddi'ch biliau ac argymell contract
  • Trafodwch gyda chyflenwyr - cofiwch mai chi sydd wrth y llyw
  • Defnyddiwch wefannau cymharu prisiau i ddod o hyd i'r cynnig gorau i chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol. I’ch helpu i reoli eich arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd ei ddefnyddio am ddim.

Torri cost eich bil dŵr

Mae'r bil dŵr blynyddol ar gyfartaledd am 2023 yng Nghymru a Lloegr yn £448, yn ôl Water UK. Ac er na allwch newid cyflenwr dŵr, mae yna ffyrdd o arbed arian ar filiau.

Er enghraifft, gallech:

  • osod mesurydd dŵr am ddim
  • cael llai o faths a newid i gawodydd
  • newid i ben cawod mwy effeithlon.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau dŵr.

Help gan y llywodraeth i leihau eich biliau ynni

Mae prisiau ynni’n uchel iawn. Ar hyn o bryd, mae’n debygol cyfradd tariff diofyn safonol eich darparwr yw’r gyfradd rataf sydd ar gael. Sicrhewch eich bod yn cadw llygaid ar brisiau a byddwch yn barod i newid i fargen well cyn gynted â phosibl os yw’n bosibl gwneud hynny.

Mae yna hefyd sawl cynllun y gallwch wneud cais iddynt a all eich helpu i dorri biliau.

Gostyngiad Cartref Cynnes

Mae’r cynllun Gostyngiad Cartref CynnesYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cartrefi incwm isel gostyngiad o £150 i helpu gyda biliau ynni. Mae’r cynllun ar agor am geisiadau rhwng mis Hydref a mis Mawrth pob blwyddyn, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’ch darparwr ynni.

Cynlluniau eraill y llywodraeth i’ch helpu yn 2023/24

Mae’r ymgyrch Help for Households yn rhoi manylion o gefnogaeth y llywodraeth i’ch helpu gyda biliau a chostau byw.Yn agor mewn ffenestr newydd

Help i bensiynwyr gyda biliau ynni

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni y gaeaf hwn (2023-24), efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ychwanegol. Y rhain tw:

  • Taliad Tanwydd GaeafYn agor mewn ffenestr newydd rhwng £100 a £300 os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Dylai hwn gael ei dalu i chi yn awtomatig o fis Tachwedd bob blwyddyn
  • Taliad Costau Byw Pensiynwr o £300 i gartrefi sy'n derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf. Mae hyn yn ychwanegiad i'ch Taliad Tanwydd GaeafYn agor mewn ffenestr newydd ym mis Tachwedd
  • Taliad Costau Byw o £900 i gartrefi ar fudd-daliadau prawf modd, fel Credyd Pensiwn a Chredyd Cynhwysol
  • Taliad Costau Byw Anabledd o £150 i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau anabledd, fel Lwfans Gweini.

Am fwy o gymorth ariannol a ffyrdd o wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, gweler ein canllaw Sut i leihau eich biliau ynni.

A ydych yn talu gormod o Dreth Cyngor?

Yn ôl MoneySavingExpert, mae hyd at 400,000 o gartrefi yn y band Treth Cyngor anghywir. Felly, mae’n werth sicrhau nad ydych yn gordalu.

Ni ddylai gymryd mwy na deg munud i ddarganfod. Ac efallai gallwch arbed cannoedd o bunnoedd a chael ad-daliad.

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, efallai byddwch yn gymwys i gael Gostyngiad Treth Cyngor.

Hefyd gwiriwch a ydych yn gymwys am ostyngiad o hyd at 50% o’ch bil Treth Cyngor, os ydych:

  • yn byw ar eich pen eich hun
  • ond yn byw gyda phlant o dan 18 oed, neu 
  • mae gennych amgylchiadau arbennig eraill.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian.

Tori costau gyrru a thrafnidiaeth gyhoeddus

P'un a ydych yn gyrru, neu'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n debyg bod costau teithio yn cyfrif am lawer o'ch gwariant misol.

Fodd bynnag, mae digon o ffyrdd o dorri costau teithio. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • dod o hyd i yswiriant car rhatach
  • prynu tanwydd rhatach
  • archebu tocynnau trên ymlaen llaw.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cwtogi ar gostau car a theithio.

Talwch eich biliau mewn pryd

Gall ffioedd talu hwyr ddileu arbedion, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn talu'ch biliau mewn pryd.

Dyma rai awgrymiadau i helpu i aros ar ben eich biliau:

  • talu am filiau rheolaidd yn fisol trwy Debyd Uniongyrchol.
  • siarad â'r bobl y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael trafferth.

Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chefnogaeth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.