Mae cael rhywfaint o gynilion argyfwng yn ffordd wych i baratoi ar gyfer treuliau annisgwyl, yn enwedig pan fydd pethau'n mynd o chwith, fel peiriant golchi neu foeler yn torri. Byddwn yn esbonio sut i gronni byffer cynilion argyfwng a faint i'w gynilo.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut i gronni eich cronfa
Er ei bod yn syniad da sefydlu'ch cronfa argyfwng cyn gynted â phosibl, mae'n well cadw at yr hyn y gallwch ei fforddio a cheisio cynilo'n rheolaidd.
Yn aml mae cynilo symiau llai, rheolaidd yn fwy effeithiol na chynilo symiau mawr yn achlysurol. Mae hyn oherwydd eich bod yn dod i’r arfer o gynilo, a ddim yn ymrwymo gormod o arian. Mae hefyd yn gadael i chi gyllidebu eich gwariant o wythnos i wythnos neu fis i fis yn fwy effeithiol.
Os nad yw hyn yn bosibl, cynilwch beth gallwch mor rheolaidd â phosibl. Mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Yn yr un ffordd ag y byddech yn cynilo ar gyfer priodas neu gar newydd, cyfrifwch faint sydd ei angen arnoch, a threfnwch archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol am y swm priodol.
Bydd dychmygu eich nod derfynol - p’un a ydych yn paratoi eich hun ar gyfer car yn torri i lawr neu gyfnewid eitem ddrud fel popty neu beiriant golchi - yn eich helpu i gadw ffocws ac ar y trywydd iawn hefyd. Gall cadw trywydd â siart ar y wal yn helpu hefyd.
Os oes gennych ddyledion, dylech hefyd benderfynu os byddai’n well eu had-dalu’n gyntaf, neu gynilo a’u talu yn ôl ar yr un pryd .
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A ddylech gynilo neu dalu benthyciadau a chardiau
Os yw arian yn dynn ac nad ydych yn siŵr a allwch gynilo, gweler ein canllawiau:
- Sut i arbed arian ar filiau'r cartref
- Byw ar incwm gwasgedig
- adolygu eich incwm a gwariant gyda’n Cynlluniwr cyllideb
- os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, gallwch hefyd ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Gynilo sy’n rhoi bonws o 50% (hanner) i chi ar gynilion a delir i mewn i gyfrif Cymorth i Gynilo.
Ar ôl i chi gyrraedd eich swm targed ar gyfer y gronfa argyfwng, efallai yr hoffech barhau â'r swm cynilo rheolaidd i ariannu nodau cynilo eraill.
Dechreuwch nawr, gwelwch ein canllaw Sut i bennu nod cynilo
Faint dylwn ei gynilo ?
Bydd eisiau i chi allu talu am waith trwsio annisgwyl, ond hefyd, mae’n bwysig cael digon o arian am o leiaf tri mis mewn sefyllfa anodd.
Er enghraifft, petaech yn colli eich swydd neu petaech chi a’ch partner yn gwahanu a bod angen amser arnoch i adfer – bydd angen ychydig yn fwy na chost boeler neu beiriant golchi newydd arnoch.
Synnwyr y fawd
Cofiwch
Bydd unrhyw swm a gynilir yn eich helpu os oes rhaid i chi dalu am rywbeth annisgwyl.
Fel rheol, mae’n syniad da i roi clustog ariannol gadarn i chi’ch hun i sicrhau bod gennych o leiaf tri mis o wariant ar gyfer eitemau hanfodol ar gael mewn cyfrif cynilo dim rhybudd.
Felly, os ydych yn gwario £1,000 y mis ar forgais neu rent, bwyd, biliau gwresogi a phethau eraill na allwch fyw hebddynt, dylech anelu at sicrhau bod gennych £3,000 i £6,000 mewn cynilion ar gyfer argyfwng.
Ffyrdd eraill o ddelio â chostau annisgwyl
Mae yswiriant yn ffordd arall o dalu costau annisgwyl.
Talu dyledion â blaenoriaeth cyn cynilo ar gyfer argyfyngau
Mae’n wych eich bod yn dechrau cronni eich cronfa argyfwng, ond cyn i chi bentyrru’ch holl arian sbâr iddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod.
Os oes gennych:
- dyled cerdyn credyd
- gorddrafft anawdurdodedig
- Benthyciadau diwrnod tâl
- Benthyg o ddrws i ddrws neu gredyd cartref
- ôl-ddyledion ar eich ad-daliadau morgais.
Byddai’n rhatach yn y pen draw i dalu’r rhain yn gyntaf.
Ond os ydych yn cadw i fyny ag ad-daliadau morgais a bod unrhyw gredyd arall sydd gennych yn gost isel, dros dro neu dan reolaeth, mae’n syniad da i ychwanegu at eich cronfa argyfwng.