Mae ymrestru awtomatig ond yn gymwys i weithwyr 22 oed neu drosodd. Ond os ydych chi’n iau, ar yr amod eich bod yn ennill £6,240 neu fwy (yn y flwyddyn dreth 2024/25) - gallwch ddal eithrio i mewn ac elwa o arian ychwanegol gan eich cyflogwr.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Dechreuwch yn gynnar os gallwch chi
Os ydych o dan 22 oed, ni chewch eich ymrestru’n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle’ch cyflogwr gyda’ch cydweithwyr hŷn.
Ond os ydych yn ennill mwy na £6,240 y flwyddyn (blwyddyn dreth 2024/25), bydd gennych yr hawl i eithrio i mewn i’r cynllun.
Os eithriwch i mewn, bydd gennych yr hawl i isafswm lefel cyfraniadau cyflogwr.
Ydych chi’n ennill llai na £6,240? Yna gallwch ofyn i’ch cyflogwr roi mynediad i bensiwn i chi gynilo iddo. Mae’n rhaid iddynt wneud hyn – a threfnu i chi ymuno. Ond nid oes rhaid iddynt gyfrannu ato.
Rydych yn bell o oed ymddeol, ond mae cynilo’n arfer gwych i’w ddysgu. Ac os byddwch yn cynilo i bensiwn gweithle, gallech gael arian ychwanegol gan eich cyflogwr, yn ogystal â hwb gan y llywodraeth trwy rhyddhad treth.