Mae pawb yn dweud wrthym ei bod hi’n syniad da i gynilo, ond ar gyfer beth yn union yr ydych yn ei gynilo ac ymhle y dylech chi gynilo? Darganfyddwch pam ei bod hi’n syniad da i gynilo’n rheolaidd beth bynnag yw’ch oedran yn ogystal â’r dewisiadau cynilo sydd ar gael i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam cynilo?
Mae tri phrif reswm pam y dylid cynilo’n rheolaidd:
- Ar gyfer argyfwng: i sicrhau bod arian ar gael petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd, fel eich car yn torri i lawr. Darganfyddwch fwy am gynilion ar gyfer argyfwng.
- I dalu am bethau moethus: gallai hyn gynnwys priodas, blaendal ar gyfer eich cartref cyntaf neu bethau fel gwyliau neu gar newydd.
- I fyw’n gyfforddus yn y dyfodol: er bod hyn yn ymddangos yn bell i ffwrdd, unwaith y byddwch yn rhoi’r gorau i weithio bydd eich incwm yn gostwng ac mae’n debyg y bydd angen i chi ddibynnu ar arian yr ydych wedi ei gynilo er mwyn parhau â’ch safon byw.
Sut i gynilo
Os fydd gennych arian dros ben ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis, nad oes ei angen ar gyfer pethau hanfodol, ceisiwch ei gynilo.
Ystyriwch gynilo unwaith y byddwch wedi talu’ch prif filiau.
Os darganfyddwch ei bod hi’n bosibl gwneud hyn, yna ceisiwch roi rhywfaint o’ch incwm misol o’r neilltu i gyfrif cynilo.
Lle i gynilo
Os ydych yn talu’ch arian i mewn i fanc neu gymdeithas adeiladu, byddant yn talu llog i chi – ystyriwch hyn fel rhyw fath o wobr am ganiatáu iddynt edrych ar ôl eich arian.
Mae gan bob banc neu gymdeithas adeiladu ystod o wahanol gynnyrch cynilo ac mae pob un ohonynt yn talu cyfraddau llog gwahanol.
Y ddau gynnyrch cynilo mwyaf poblogaidd yw Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) a chyfrifon cynilo.
ISA (Cyfrif Cynilo Unigol)
Mae’r rhain yn boblogaidd iawn gan eu bod yn ffordd ddi-dreth o gynilo neu fuddsoddi. Nid oes unrhyw Dreth Incwm na Threth ar Enillion Cyfalaf yn daladwy ar arian a gynilir mewn ISA.
Ar nifer o gynnyrch cynilo eraill byddech yn talu treth ar yr incwm a gewch. A gallech orfod talu Treth ar Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw o fuddsoddiadau.
Gallwch gynilo £20,000 hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth bresennol ym mis Ebrill 2024.
Gallwch gynilo mewn arian parod, buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau, neu gymysgedd o’r ddau.
Darganfyddwch fwy am wahanol fathau o ISAs, yn cynnwys ISAs i Bobl Iau ac ISAs Oes y gallwch ei ddefnyddio i roi eich cynilion i mewn ynddo, yn ein canllaw Cyfrifon ISA a ffyrdd eraill sy'n effeithlon o ran treth i gynilo neu fuddsoddi
Cyfrifon cynilo
Mae bron pob banc a chymdeithasau adeiladu’n cynnig cyfrifon cynilo sy’n talu peth llog, a bydd nodweddion ychydig yn wahanol yn perthyn i bob un.
Fel arfer nid oes trothwy wedi ei osod ar faint y gallwch gynilo yn y cyfrifon hyn bob blwyddyn. Ac yn aml po fwyaf o arian a rowch i mewn, yr uchaf fydd y gyfradd llog a gewch.
Os ydych wedi cynilo hyd at drothwy eich ISA, efallai yr hoffech agor cyfrif cynilo ar gyfer unrhyw arian ychwanegol y gallwch ei gynilo.
Sut i ddod o hyd i’r cyfrif cynilo gorau
Mae nifer o bethau i’w hystyried ar gyfer cyfrif cynilo i sicrhau ei fod yn cwrdd â’ch anghenion. Mae’r rhain yn cynnwys:
- faint o log a delir
- pa mor sydyn y cewch chi dynnu eich arian allan os bydd angen
- yr isafswm o arian sydd yn rhaid i chi ei roi i mewn (un ai i agor y cyfrif, neu bob mis).