Cyn rhentu cartref, sicrhewch eich bod yn gallu fforddio’r holl gostau – gan gynnwys biliau, Treth Cyngor, rhent a blaendal. Dyma sut mae’n gweithio.
Adiwch bopeth y bydd angen i chi ei dalu
Dim ond un o’r pethau y bydd angen i chi ei dalu yw rhent – fel arfer mae llawer o daliadau eraill hefyd.
Mae ein Cynlluniwr cyllideb yn eich tywys trwyddo, ond dyma ddadansoddiad o gostau cartref cyffredin:
1. Rhent a chostau ymlaen llaw – fel y blaendal
Fel arfer gallwch ddod o hyd i'r rhain ar yr hysbyseb eiddo:
- rhent
- y blaendal rhent, a all fod yn:
- hyd at bump wythnos o rent yng Nghymru neu Loegr (hyd at chwe wythnos os yw eich rhent dros £50,000 y flwyddyn)
- hyd at fis o rent yng Ngogledd Iwerddon
- hyd at ddau fis o rent yn yr Alban.
Efallai y gofynnir i chi dalu blaendal cadw ad-daladwy i gadw'r eiddo tra bod gwiriadau'n cael eu gwneud, fel gwiriad credyd.
Yn yr Alban, mae’r holl ffioedd wedi’u gwahardd felly ni fyddwch yn talu hwn. Yng Nghymru a Lloegr, gall hyn fod yn uchafswm o wythnos o rent. Ni chaniateir ffioedd ymlaen llaw am bethau eraill, gan gynnwys yng Ngogledd Iwerddon.
Yna cewch ddyfynbrisiau lleol ar gyfer:
- costau symud – megis llogi fan neu gwmni proffesiynol
- prynu dodrefn neu eitemau cartref – os nad yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu.
2. Unrhyw filiau y bydd angen i chi eu talu – fel Treth Cyngor, dŵr, Trwydded Deledu ac ynni
Gofynnwch i’r asiantaeth, landlord neu denant blaenorol roi amcangyfrifon ar gyfer y biliau hyn pan fyddwch yn edrych o gwmpas yr eiddo:
- ynni (nwy a/neu drydan)
- dŵr
Defnyddiwch wefannau cymharu neu'r dolenni isod i ddod o hyd i'r costau hyn:
- Treth Cyngor – gwiriwch hefyd a ydych yn gymwys i gael gostyngiad Treth Cyngor neu ArdrethiYn agor mewn ffenestr newydd
- rhyngrwyd
- Trwydded DeleduYn agor mewn ffenestr newydd (os ydych chi'n gwylio teledu byw)
- yswiriant cynnwys
- Teledu lloeren neu danysgrifiadau eraill – os hoffech dalu am sianeli penodol.
Os oes ‘biliau wedi’u cynnwys’ yn eich cytundeb tenantiaeth, mae hyn yn golygu y gallai eich taliad rhent gynnwys rhai o’r rhain. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’r landlord neu’r asiant gosod tai pa filiau y byddai angen i chi eu talu eich hun.
3. Costau byw eraill – fel teithio, bwyd ac adloniant
Mae ein Cynlluniwr Cyllideb yn rhestru’r holl bethau y gallech dalu amdanynt, ond gallai gynnwys eich:
- siopa bwyd
- ffôn symudol, a
- costau teithio – fel petrol, trafnidiaeth gyhoeddus ac yswiriant car.
Siopwch o gwmpas am y bargeinion gorau
Gall llawer arbed arian drwy newid darparwr neu gael y tariff gorau ar gyfer eu hanghenion. Ac nid yw'n wahanol os ydych chi'n rhentu.
Oni bai bod rhywun arall yn gofalu am rai biliau, fel contract ‘biliau wedi’u cynnwys’, rydych chi’n rhydd i ddewis eich darparwyr eich hun. Fel arfer nid oes angen caniatâd eich landlord i newid oni bai bod gennych unrhyw beth wedi’i osod yn gorfforol, fel cysylltiad band eang ffeibr newydd.
Gweler Sut i arbed arian ar filiau cartref am ragor o help.
Cymharwch gyfanswm eich costau â'ch incwm i ddod o hyd i'ch cyllideb
Unwaith y byddwch wedi rhestru'ch holl gostau disgwyliedig, gwiriwch a fyddwch chi'n gallu fforddio popeth. Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb i weld faint o arian parod fydd gennych ar ôl.
Sicrhewch fod gennych chi arian parod dros ben o hyd
Ni all hyd yn oed y gyllideb fwyaf manwl gynnwys gwariant brys, fel newid teiar car, neu ostyngiad mewn incwm, a allai ddigwydd os bydddwch yn colli eich swydd neu gael eich oriau wedi eu torri.
Felly mae'n well adeiladu a chynnal cronfa argyfwng. Yn ddelfrydol dylai hyn fod yn ddigon i dalu eich holl gostau am o leiaf tri mis.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion brys – faint yw digon?
Cymorth os na allwch ddod o hyd i rent fforddiadwy
Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i dŷ fforddiadwy, mae help ar gael. Dyma sut i wirio am gyllid ychwanegol a thorri eich costau eraill.
Gweld a allwch gael tŷ cyngor neu awdurdod lleol
Bydd gan bob cyngor neu awdurdod lleol eu meini prawf eu hunain, ond fel arfer bydd angen i chi wneud cais ac ymuno â rhestr aros. Mae’r cartrefi sydd ar gael fel arfer yn cael eu rhoi i’r rhai sydd â’r flaenoriaeth uchaf, felly nid oes sicrwydd y byddwch chi’n cael un.
Gweler sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau a grantiau
Gallai cynyddu eich incwm olygu y gallwch ddod o hyd i rent preifat fforddiadwy.
Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, a all gynnwys elfen costau tai – dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd.
Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ond nid yw’n ddigon i dalu’ch rhent, gwiriwch a allwch wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP).
Os ydych yn rhentu yn: | Gweler sut i wneud cais am DHP ar: |
---|---|
Lloegr neu Gymru |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
Ar yr amod eich bod yn gallu fforddio’r rhent, ni all landlordiaid wahaniaethu yn eich erbyn am dderbyn budd-daliadau.
Os ydych wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau penodol eraill ers o leiaf chwe mis, efallai y gallwch wneud cais am fenthyciad di-log. Gweler Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw am fwy o wybodaeth.
Gwiriwch am grantiau a chyllid elusennau
Defnyddiwch Chwiliad Grantiau Turn2USYn agor mewn ffenestr newydd i weld a allwch chi wneud cais am unrhyw gyllid elusennol na fydd angen i chi ei dalu’n ôl.
Os na allwch fforddio’r blaendal rhent neu’r rhent ymlaen llaw, mae gan y gwefannau isod fwy o help.
Os ydych yn rhentu yn: | Gweler help os na allwch fforddio blaendal: |
---|---|
Lloegr |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
Gweld a allwch chi dorri unrhyw gostau eraill
Ffordd arall o gynyddu eich incwm yw torri eich gwariant. Efallai na fydd hyn yn bosibl, ond dyma bethau i roi cynnig arnynt:
- canslo tanysgrifiadau neu wasanaethau nad ydych yn eu defnyddio, neu y gallech fyw hebddynt
- gweld a ydych yn gymwys i gael tariffau cymdeithasol incwm isel rhatach ar gyfer nwy a thrydan
- gwirio a ydych yn gymwys i gael gostyngiad Treth Cyngor neu ArdrethiYn agor mewn ffenestr newydd
- gwirio a allwch arbed drwy newid darparwr, gan gynnwys:
- rhyngrwyd
- ffôn symudol
- nwy a thrydan
- yswiriant cartref a char.
- os ydych yn talu llog cerdyn credyd, ystyriwch ei symud i gerdyn trosglwyddo balans di-log
- gweld a allwch chi gael biliau dŵr rhatach gyda mesurydd dŵr (yng Nghymru a Lloegr)
- gwnewch eich siopa bwyd mewn archfarchnad ratach, neu prynwch frandiau rhatach.
Wrth ganslo, gwiriwch delerau ac amodau eich cytundeb bob amser oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i adael yn gynnar. Er mwyn helpu i nodi pethau y gallwch dorri i lawr arnynt, defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb.
Gwiriwch a allai cartrefi eraill gynnig rhent rhatach
Os gallwch chi, efallai y gallwch ystyried eiddo llai neu un y tu allan i'ch ardal ddelfrydol.
Gallai fod yn werth ystyried hefyd:
- tŷ neu fflat a rennir, yn hytrach nag eiddo llawn
- dod o hyd i rywun arall i fyw a rhannu'r rhent gyda nhw, neu
- byw gyda theulu neu ffrindiau.
Os gallwch fod yn hyblyg, gallech ddod yn warcheidwad eiddo. Dyma lle rydych chi’n gofalu am adeilad yn gyfnewid am rent rhad, ond mae’n bell o fod yn syml. Gweler hawliau gwarcheidwad eiddo yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd a MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd i gael mwy o wybodaeth.
Help os yw eich rhent presennol yn cynyddu neu os ydych yn cael trafferth talu
Os ydych eisoes yn rhentu eiddo ac yn poeni am sut y byddwch yn talu, gweler ein canllaw llawn Help gyda chodiadau rhent, ôl-ddyledion ac os ydych yn cael trafferth talu.
Mae hyn yn cwmpasu eich hawliau a chamau ymarferol, fel gwirio am grantiau a defnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau.