Os ydych yn hunangyflogedig, yn gweithio ar gontract dim oriau neu’n hawlio Credyd Cynhwysol, efallai bydd eich incwm yn amrywio bob mis. Darganfyddwch fwy am sut i gyllidebu’n dda pan fydd eich incwm misol yn amrywio.
Cyllidebu ar gyfer eich cyflog misol isaf
Os yw eich incwm yn amrywio, gall fod yn demtasiwn i gyllidebu fel petai bob mis yn un da. Ond gallai hwn eich gadael heb ddigon os ydych yn cael mis gwael.
Awgrym da yw cyllidebu ar gyfer eich incwm misol isaf – drwy wneud hynny, bydd y prif gostau wedi’u talu gennych bob tro. Yna, os cewch fis da, gallwch addasu’ch cyllideb fisol a’i gynyddu neu roi mwy i’ch cynilion.
Neu, cyfrifwch gyfanswm eich alldaliadau dros y flwyddyn ddiwethaf a’i rannu â 12. Bydd hyn yn rhoi cyfartaledd misol o’ch incwm.
I’ch helpu i reoli eich arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, am ddim.
Cyllidebu ar gyfer eich alldaliadau
Efallai na fyddwch yn gwybod faint o arian sydd gennych yn dod i mewn bob mis, ond dylech fod yn gwybod faint sy’n cael ei wario – a dyma le da felly i gychwyn arni.
Gwnewch restr o’ch holl wariant rheolaidd pwysig. Bydd hyn yn cynnwys:
- rhent neu forgais
- costau teithio
- ffôn symudol
- trydan a nwy
- yswiriant
- Treth Gyngor
- bwyd.
Efallai nad yw hynny’n ddull perffaith, ond os gwyddoch faint a warir bob mis gallwch gyllidebu – yn seiliedig ar faint o arian sy’n dod i mewn.
Mae hyn yn ffordd dda o nodi ffyrdd y gallwch dorri’n ôl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rheoli eich arian
Sicrhewch y gallwch fforddio i dalu biliau rheolaidd
Ar ôl i chi gyfrifo faint o wariant sydd gennych, bydd angen i chi sicrhau y gallwch fforddio’r costau hynny bob mis. Os na wnewch, gallech yn rhwydd iawn wynebu costau am fynd i mewn i’ch gorddrafft, neu wynebu mynd i ddyled.
Os ydych yn poeni am ddefnyddio’r arian sydd ar gyfer y biliau hynny, efallai y byddai’n syniad da sefydlu cyfrif ar wahân ar gyfer eich gwariant rheolaidd. Gallwch ychwanegu ato pan gewch fis o incwm uwch na’r arfer. Drwy wneud hynny, cewch sicrwydd y bydd arian ar gael yno i dalu am unrhyw wariant hanfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rheoli eich arian trwy ddefnyddio'r potiau cynilo, potiau jam a chadw-mi-gei
Meddyliwch ymlaen
Mae’n bwysig ystyried newidiadau tymhorol mewn incwm, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig. Mewn rhai diwydiannau mae’r Nadolig yn gyfnod llewyrchus. Ond i eraill mae’n gyfnod anodd gan fod yr incwm yn isel iawn.
Bydd angen i chi gofio hefyd y bydd yna rai adegau pan fydd eich gwariant yn uwch. Er enghraifft, yn ystod cyfnod y Nadolig, neu pan fydd angen dathlu pen-blwyddi, neu pan wynebwch filiau blynyddol fel yswiriant car.
Darganfyddwch fwy am gyllidebu ar gyfer y Nadolig ar ein blog Mae angen i ni siarad am y Nadolig
Adeiladwch gronfa argyfwng
Os cewch fis da, neu fis lle rydych yn gwario llai na’r disgwyl, osgowch y temtasiwn i wario’r arian ychwanegol.
Ceisiwch adeiladu cronfa argyfwng i dalu am gostau annisgwyl er mwyn i chi allu ymdopi â chyfnodau pan allai’ch incwm fod yn is.
Mae’n syniad da sicrhau bod gwerth tri mis o wariant hanfodol ar gael gennych. Ond bydd cael hyd yn oed gwerth un mis o incwm yn unig wrth gefn yn eich diogelu yn erbyn sioc incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng – faint sy’n ddigon?
Cyllidebu ar Gredyd Cynhwysol gydag incwm afreolaidd
Mae'r swm o arian a gewch am Gredyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion ar gyfer y mis calendr cyn i chi gael eich taliad. Gelwir hyn yn gyfnod asesu.
Os ydych chi'n gweithio llawer mwy o oriau nag arfer un mis, mae'n bosibl y byddech yn ennill mwy nag ydych yn gymwys i gael o Gredyd Cynhwysol.
Os bydd hyn yn digwydd, gallai eich taliadau Credyd Cynhwysol ddod i ben ac efallai y bydd yn rhaid i chi ailymgeisio amdano eto.
Gall hyn ddigwydd hefyd os cewch eich talu'n wythnosol, bob pythefnos neu bedair wythnos, a’n cael mis gyda mwy o ddiwrnodau cyflog ynddo. Mae'n bwysig eich bod chi'n edrych ar eich calendr i wirio'ch diwrnodau cyflog a dweud wrth eich anogwr gwaith am unrhyw newidiadau.
Mae gan Gov.uk ragor o wybodaeth am sut mae'ch enillion yn effeithio ar eich taliadauYn agor mewn ffenestr newydd
Cyllidebu am fisoedd cost uchel
Mae’n bwysig ystyried newidiadau tymhorol i’ch incwm, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig.
Mae hefyd angen i chi fod yn ymwybodol o amseroedd pan gall eich alldaliadau fod yn uwch. Er enghraifft, o gwmpas y Nadolig, neu yn y misoedd lle mae penblwyddi neu mae biliau blynyddol yn ddyledus, fel yswiriant car.