Eich cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol wrth rentu

Wrth rentu eiddo, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau ariannol a chyfreithiol i'r landlord. Fel arall, rydych mewn perygl o golli'ch blaendal pan fyddwch yn symud allan ac efallai y byddwch hyd yn oed yn wynebu cael eich troi allan.

Darllenwch eich cytundeb tenantiaeth yn ofalus

Cyn i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth, gwnewch yn siŵr ei ddarllen yn llawn, gan gynnwys yr holl brint mân.

Bydd yn rhestru'ch rhwymedigaethau fel tenant. Bydd y rhain yn cynnwys pethau fel cynnal a chadw'r ardd, cadw'r eiddo'n daclus a'i lanhau'n broffesiynol cyn symud allan.

Bydd hefyd yn cynnwys pa filiau, heblaw rhent, y byddwch yn gyfrifol am eu talu. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Treth Gyngor
  • taliadau gwasanaeth a rhent daear
  • biliau cyfleustodau (nwy, trydan, band eang)
  • Trwydded Deledu.

Os ydych yn gyfrifol am eu talu, mae'n bwysig cofio bod Treth Gyngor a'r Drwydded Deledu yn filiau â blaenoriaeth ac y gall peidio â'u talu arwain at wŷs llys. 

Cofiwch bydd eisiau cael eich blaendal yn ôl ar ddiwedd eich tenantiaeth i helpu i dalu'r blaendal ar eich eiddo rhent nesaf – peidiwch â gwneud unrhyw beth i beryglu ei gael yn ôl.

Efallai y bydd angen geirda arnoch hefyd gan eich landlord ar gyfer unrhyw le newydd rydych yn ei rentu, neu am forgais os ydych eisiau prynu yn rhywle yn yn y dyfodol.

Sut i osgoi costau annisgwyl nawr neu yn y dyfodol

  • Sicrhewch eich bod 100% yn glir ynghylch pa filiau rydych yn gyfrifol am eu talu – os ydych yn ansicr, gofynnwch.
  • Gwnewch gofnod ysgrifenedig neu ffotograffig o unrhyw ddifrod sydd eisoes yn yr eiddo pan fyddwch yn symud i mewn a chael y landlord neu'r asiant i gydnabod hyn.
  • Os yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu, gwiriwch y rhestr eiddo yn erbyn yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y fflat fel nad ydych yn ddiweddarach yn gyfrifol am unrhyw eitemau coll nad ydynt yno i ddechrau.
  • Tynnwch sylw at yr agweddau allweddol ar eich cytundeb tenantiaeth y bydd angen i chi eu cofio cyn i chi adael yr eiddo – gwiriwch eich bod wedi eu cyflawni erbyn i chi adael.
  • Arbedwch neu neilltuwch bot o arian y gallwch ei ddefnyddio i dalu'ch treuliau symud allan pan fyddwch yn gadael yr eiddo.

Eich cytundeb tenantiaeth – unig-denantiaid neu gyd-denantiaid

Os ydych yn rhannu eiddo ag eraill, mae'n bwysig sefydlu ai cyd-denantiaid ydych, neu ai chi yw’r unig denant ac mae unrhyw rai eraill sy'n byw yno yn westeion i chi i bob pwrpas – ac felly’n gyfrifoldeb i chi.

Os ydych yn gyd-denantiaid

Bydd dau neu fwy ohonoch yn cael eich rhestru ar y cytundeb tenantiaeth.

  • Mae pawb a enwir ar y cytundeb yn atebol i dalu'r rhent a chyflawni'r holl rwymedigaethau i'r landlord a nodir yn y cytundeb tenantiaeth.
  • Os bydd un ohonoch yn symud allan, mae'r person hwnnw'n dal i fod yn atebol i dalu ei gyfran o'r rhent nes bod y cytundeb tenantiaeth wedi'i newid – ond os yw telerau'r cytundeb tenantiaeth yn cynnwys 'atebolrwydd ar y cyd a sawl atebolrwydd' am dalu rhent a nad yw rhywun y mae ei enw ar y brydles yn talu, mae gan y landlord yr hawl i fynd ar ôl y tenant/tenantiaid sy'n weddill am y swm coll.

Os mai chi yw'r unig denant

  • Nid oes neb heblaw amdanoch wedi eu rhestru ar y cytundeb tenantiaeth.
  • Rydych chi yn unig yn atebol am y rhent a'r biliau cyfan.
  • Os ydych yn rhannu'r rhent a'r biliau â phartner neu gyd-letywyr ar hyn o bryd a'u bod yn symud allan, bydd rhaid i chi dalu'r holl gostau hyn eich hun.
  • Nid oes gan eich partner neu gyd-letywr hawl gyfreithiol i feddiannu'r eiddo os bydd eich trefniant neu'ch perthynas yn chwalu – bydd angen iddynt ddod o hyd i lety arall. Fodd bynnag, byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddifrod y gallent ei achosi i'r eiddo.

Mae'n syniad da i bob un ohonoch gynilo hyd at fis o rent, felly mae gennych gronfa argyfwng y gallwch ddibynnu arno yn y sefyllfa hon.

Beth yw gwarantwr rhent?

Os ydych yn ifanc iawn, yn ddi-waith neu'n astudio, neu'n rhentu am y tro cyntaf - efallai y bydd eich landlord yn eich ystyried yn fwy o risg na thenantiaid eraill.

O ganlyniad, efallai y byddant yn gofyn i chi ofyn i rywun (rhiant yn nodweddiadol) weithredu fel ‘gwarantwr’ – i ddarparu gwarant y telir y rhent.

Mae hyn yn golygu os byddwch yn methu â thalu'r rhent un mis, gall y landlord alw yn gyfreithiol ar eich gwarantwr i dalu yn lle chi.

Mae hyn yn arbennig o werth cofio os yw'r eiddo'n cael ei rannu, oherwydd yn yr achos hwn gallai'r gwarantwr fod yn atebol am unrhyw fethiant yn y rhent gan denantiaid eraill – nid dim ond eu plentyn eu hunain.

Unwaith eto, mae'n werth adeiladu pot cynilo brys fel na fyddwch yn gadael y baich ariannol o dalu'ch rhent i'ch rhieni os byddwch yn colli'ch swydd neu'n mynd yn sâl.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.