Dim ond gweithwyr sy’n ennill mwy nag £10,000 y flwyddyn – ac sydd rhwng 22 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth – gaiff eu ymrestru’n awtomatig i bensiwn gweithle gan eu cyflogwyr. Ond os ydych yn ennill llai, mae gennych hawl o hyd i ymuno â phensiwn gweithle. Efallai y byddwch yn gymwys am gyfraniadau pensiwn gan eich cyflogwr hefyd.
Os ydych yn ennill llai na £6,240
Ni chewch eich ymrestru’n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle’ch cyflogwr.
A ydych o leiaf 16 oed ac o dan 75 oed? Yna gallwch ofyn i’ch cyflogwr roi mynediad i chi at bensiwn y gallwch gynilo iddo. Mae rhaid iddynt wneud hyn – a threfnu i chi ymuno. Ond nid oes rhaid iddynt gyfrannu iddo.
Os ydych yn ennill rhwng £6,240 ac £10,000 (yn gynhwysol)
Ni chewch eich ymrestru’n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle’ch cyflogwr. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i ymuno.
Os ymunwch â’r cynllun, – cyhyd â’ch bod rhwng 16 a 74 oed – byddwch yn gymwys am isafswm lefel cyfraniadau cyflogwr hefyd.
Trothwy enillion
Y ‘trothwy enillion’ yw £10,000 y flwyddyn – ond cewch eich asesu ar gyfer cymhwysedd ym mhob cyfnod tâl.
Bydd y trothwy enillion yn gymesur. Mae hyn yn golygu y bydd y gwir drothwy enillion yn wahanol os ydych yn cael eich talu'n fisol, bob pedair wythnos, bob pythefnos neu bob wythnos.
Gan eich bod yn cael eich asesu ar gyfer cymhwysedd ym mhob cyfnod tâl, efallai y byddwch wedi'ch ymrestru'n awtomatig os bydd eich enillion yn cynyddu – hyd yn oed ond am gyfnod byr.
Er enghraifft, os ydych yn cael eich talu'n fisol, byddwch yn cael eich ystyried eich bod yn cwrdd â'r trothwy enillion os yw'ch enillion misol yn cyrraedd o leiaf £833. Os ydych yn cael eich talu'n wythnosol, byddwch yn cael eich ystyried eich bod yn cwrdd â'r trothwy enillion os yw'ch enillion wythnosol yn cyrraedd o leiaf £192.
Sut mae trothwyon enillion yn newid yn dibynnu ar pryd rydych yn cael eich talu
Yn anffodus ni allwch yn ond rhannu eich cyflog blynyddol yn ôl pa mor aml y cewch eich talu i ganfod a ydych yn gymwys. Mae hyn oherwydd mae’r trothwyon yn amrywio rhyw fymryn yn ddibynnol ar a gewch eich talu’n wythnosol, bob pythefnos, bob pedair wythnos neu’n fisol.
Asesir enillion yn y cyfnod rheolaidd y cewch eich talu– a elwir yn “gyfnod cyfeirnod talu”. Dangosir y trothwyon perthnasol yn y tabl isod:
Trothwyon enillion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol (cyn enillion treth)
2024-25 | Blynyddol | bob wythnos | bob pythefnos | Bob pedair wythnos | bob mis |
---|---|---|---|---|---|
Lefel is o enillion cymwys |
£6,240 |
£120 |
£240 |
£480 |
£520 |
Sbardun enillion ar gyfer ymrestru awtomatig |
£10,000 |
£192 |
£384 |
£768 |
£833 |
Os ydych yn ennill o dan y lefel is o enillion cymwys, ni fyddwch yn cael eich ymrestru yn awtomatig. Fe allech ymuno os ydych eisiau, ond ni fydd eich cyflogwr yn gorfod cyfrannu.
Os ydych yn ennill ar neu'n uwch na'r lefel sbarduno, byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig. Os ydych yn ennill islaw'r lefel hon ond yn uwch na lefel enillion is cymwys, ni fyddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig. Ond gallwch ymuno os ydych eisiau, a bydd rhaid i'ch cyflogwr dalu i mewn hefyd.
Os yw'ch cyflog yn agos iawn at y trothwy, neu'n amrywio o ddiwrnod cyflog i ddiwrnod cyflog, siaradwch â'ch cyflogwr i weld pa gategori rydych yn perthyn iddo.
Beth sy'n digwydd pan fydd fy enillion neu fy oedran yn newid?
Dylai eich cyflogwr fod wedi eich asesu ar y dyddiad y cychwynnodd ei ddyletswyddau ymrestru awtomatig neu pan wnaethoch ymuno â'r cwmni. Os nad ydych wedi cael eich ymrestru'n awtomatig, cewch eich ailasesu ar bob cyfnod tâl pellach. Felly mae'n bosibl efallai na fyddwch wedi'ch ymrestru'n awtomatig i ddechrau. Ond gallai cynnydd mewn enillion yn ddiweddarach arwain at eich ymrestru'n awtomatig.
Os oeddech o dan 22 oed pan wnaethoch ymuno â'r cwmni, byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig pan gyrhaeddwch yr oedran hwn, os yw eich ennillion ar neu'n uwch na'r trothwy enillion o £10,000 y flwyddyn.