Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r tâl lleiaf fesul yr awr y mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU hawl cyfreithiol iddo.

Mae’r swm yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed ac a ydych yn brentis.

O 1 Ebrill 2024, mae'n rhaid talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i weithwyr 21 oed neu’n hŷn. Dyma’r cyfradd uchaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer 2023/24

Oedran Isafswm cyfradd fesul awr 2023/24 Isafswm cyfradd fesul awr 2024/25

23 oed a hŷn

£10.42

£11.44

21 i 22

£10.18

£11.44

18 i 20

£7.49

£8.60

16 i 17

£5.28

£6.40

Prentis

£5.28

£6.40

Prentisiaid a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan brentisiaid hawl i gael y gyfradd brentisiaeth o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydynt un ai:

  • dan 19 oed
  • yn 19 oed neu’n hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth.

Mae gan brentisiaid sy’n hŷn na 19 oed ac sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth hawl i gael yr Isafwm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoed.

A oes gennyf hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Mae gan bron pob gweithiwr hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys:

  • gweithwyr achlysurol
  • gweithwyr dros dro
  • gweithwyr rhan amser.

Ond os ydych yn hunangyflogedig neu’n gyfarwyddwr cwmni, ni allwch hawlio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae rhai mathau eraill o weithwyr hefyd nad ydynt yn gymwys.

Mae rhaid i chi fod o leiaf oedran gadael ysgol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Oedran gadael ysgol yw'r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol rydych yn cyrraedd 16 oed.

Sut cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol

Didyniadau o’ch cyflog cyn y cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

A ydych wedi talu am rai pethau sy’n gysylltiedig â’ch swydd allan o’ch cyflog? Dylai’ch cyflogwr ddidynnu’r taliadau hyn cyn cyfrifo a ydych wedi cael y taliad isafswm cyflog cywir.

Mae’r taliadau hyn ar gyfer:

  • defnydd neu fudd personol y cyflogwr – er enghraifft, os ydych wedi talu am deithio rhwng safleoedd gwaith
  • pethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwaith ond ni chewch ad-daliad ar eu cyfer – fel teclynnau, gwisg neu offer.

Dylai pob taliad arall a dynnir o’ch cyflog, fel treth neu Yswiriant Gwladol, gael eu cynnwys pan fydd eich cyflogwr yn cyfrifo a yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi’i dalu i chi.

Isafswm cyflog am wahanol fathau o waith – a beth sy’n cael ei gynnwys fel amser gwaith

Cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel cyfradd fesul awr, ond mae’n berthnasol hyd yn oed os nad ydych yn cael eich talu fesul yr awr. 

Llety a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

A yw’ch cyflogwr yn darparu llety? Gall ystyried gwerth hynny wrth gyfrifo’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Nid oes yr un budd cwmni arall – fel talebau gofal plant, prydau bwyd, neu gar - yn cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Pethau nad ydynt yn cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gallech gael eich talu ar gyfradd uwch na’ch cyfradd tâl arferol ar gyfer peth o’r gwaith a wnewch. Er enghraifft am weithio:

  • goramser, ar benwythnos neu sifftiau nos
  • ar wyliau banc
  • mwy na nifer penodol o oriau.

Os felly, nid yw’r ‘elfen bremiwm cyflog’, nid yw'n cyfrif tuag at eich isafswm cyflog. Elfen bremiwm cyflog yw'r swm y mae'r gyfradd gyflog uwch yn fwy na'ch cyfradd sylfaenol.

Yn ogystal, ni all eich cyflogwr ystyried y canlynol i’w cyfrif tuag at eich isafswm tâl cyflog:

  • tipiau neu arian rhodd
  • taliadau gwasanaeth
  • ffioedd gan gwsmeriaid.

Fodd bynnag, gall eich cyflogwr gynnwys taliadau ysgogiad neu fonws fel rhan o’ch cyflog sylfaenol.

Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir

Os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir ar gyfer eich oedran, siaradwch â’ch cyflogwr.

Os na fydd hynny’n datrys y broblem, gallwch ofyn i gael gweld cofnodion eich taliadau a gwneud copïau ohonynt.

Neu, am gyngor cyfrinachol am ddim i'ch helpu i ddatrys eich anghydfod talu, gallwch gysylltu ag un o'r gwasanaethau cynghori hyn yn y gweithle:

Gallwch hefyd wneud cwyn i Gyllid a Thollau EF am eich cyflogwr.

Os yw CThEF yn canfod eich bod wedi cael eich talu’n anghywir, mae rhaid i’ch cyflogwr dalu unrhyw symiau sy’n ddyledus i chi a thalu dirwy i CThEF am dalu’n is na’r isafswm cyflog.

Beth yw’r Cyflog Byw?

Pennir y Cyflog Byw gan Sefydliad y Cyflog Byw. Ceir cyfradd y DU a chyfradd Llundain. Nid yw'r un peth â'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Mae Cyflog Byw y DU yn £10.90 yr awr ac mae Cyflog Byw Llundain yn £11.95 yr awr ar gyfer 2023/24.

Mae’r Cyflog Byw yn seiliedig ar gostau byw.

Mae'r Resolution Foundation yn felin drafod sy'n ceisio gwella safonau byw teuluoedd incwm isel a chanolig. Maent yn cyfrifo'r cyfraddau, ac yn cael eu goruchwylio gan y Sefydliad y Cyflog Byw, sefydliad sy'n ymgyrchu i gyflogwyr dalu'r Cyflog Byw.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw?

Y Cyflog Byw Cenedlaethol:

  • yw cyfradd uchaf yr isafswm cyflog cenedlaethol (£10.42 yr awr ar gyfer 2023/24).
  • caiff ei bennu gan y llywodraeth
  • mae rhaid ei dalu i bob gweithiwr dros 23 oed. O 1 Ebrill 2024, bydd hwn yn berthnasol i weithwyr dros 21 oed.

Y Cyflog Byw:

  • caiff ei bennu gan Sefydliad y Cyflog Byw
  • mae’n berthnasol i bob gweithiwr dros 18 oed
  • mae’n wirfoddol – gall cyflogwyr ddewis a ydynt am ei dalu
  • mae dwy gyfradd iddo – ceir cyfradd y DU (£10.90 yr awr) a chyfradd Llundain (£11.95 yr awr).
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.