Bondiau cynilo cyfradd sefydlog

A yw bond cynilo cyfradd sefydlog yn iawn i chi?

Gallai bond cynilo cyfradd sefydlog fod yn addas ar eich cyfer os:

  • oes gennych £100 neu fwy mewn arian parod nid oes angen mynediad ar unwaith arnoch am o leiaf chwe mis neu gyfnod y bond
  • ydych am gael adenillion uwch o bosibl na’r adenillion ar eich cyfrif cynilo rheolaidd
  • nad ydych am fentro colli unrhyw gyfran o’ch arian (fel y gallwch â buddsoddiadau).

Pa fathau o fondiau cynilo cyfradd sefydlog sydd ar gael?

Mae Bondiau Cynilo Cyfradd Sefydlog yn gwarantu cyfradd llog benodedig dros dymor penodol – mae’r rhan fwyaf o fondiau cynilo yn talu llog sefydlog.

Mae bondiau yn talu llog yn flynyddol fel arfer, ond bydd rhai cyfrifon yn talu’r llog hwn yn chwarterol neu fisol. Yn aml, gallwch enwi cyfrif banc gwahanol er mwyn talu’r llog iddo.

Mae Bondiau Olrhain yn olrhain mynegai neu gyfradd benodol – er enghraifft chwyddiant neu gyfradd sylfaen Banc Lloegr – dros gyfnod penodedig. Gall hyn fod rhwng chwe mis a phum mlynedd.

Er mai £1 yw’r isafswm y gellir ei fuddsoddi ar gyfer rhai cyfrifon cynilo, fel arfer £100 yw’r isafswm adnau, ag uchafswm nodweddiadol o £1,000,000. Weithiau cynigir cyfraddau llog mewn haenau yn ôl y swm y byddwch yn ei roi fel adnau. Serch hynny, nid yw bondiau cyfradd sefydlog yn caniatau i chi ychwanegu arian ychwanegol unwaith i chi wneud eich adnau cychwynnol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth rydych yn ei brynu.

Risg ac elw o’r bondiau cynilo cyfradd sefydlog

  • Byddwch yn cael eich cyfalaf gwreiddiol yn ôl ar ddiwedd y tymor ynghyd â’r llog cronedig.
  • Mae’r cynhyrchion hyn yn tueddu i gynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon dim rhybudd. Po hwyaf y gallwch fforddio gadael eich arian mewn un o’r cyfrifon yma, po fwyaf bydd y gyfradd llog tebygol i fod.
  • Gyda bondiau cynilo cyfradd sefydlog, byddwch yn gwybod o’r cychwyn cyntaf faint y byddwch yn ei gael pan fydd cyfnod o’r cyfrif yn terfynu (pan fydd y bond ‘yn aeddfedu’).
  • Ni fydd eich buddsoddiad gwreiddiol yn cadw ei werth mewn termau real (ei ‘bŵer prynu’) os bydd y llog rydych yn ei gael yn is na’r gyfradd chwyddiant dros gyfnod y buddsoddiad.

Os yw’r bond rydych yn ei ystyried yn adnau strwythuredig, bydd y risgiau yn wahanol.

Cael gafael ar eich arian o fondiau cynilo cyfradd sefydlog

  • Fel arfer mae’r cynhyrchion hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ymrwymo eich arian am gyfnod o rhwng chwe mis a phum mlynedd.
  • Gall fod cosbau mawr am godi arian yn gynnar. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cosbau hyn ac y gallwch ymdopi cyn i chi ymrwymo eich arian.
  • Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael gafael ar unrhyw ran o’ch cyfalaf tan ddiwedd y tymor – darllenwch y ffeithiau cyn i chi ymrwymo.

A yw cyfrifon cynilo cyfradd sefydlog yn ddiogel?

Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.

Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu. Mae rhai mantolenni uchel dros dro hyd at £1 filiwn sy’n gymwys yn ddiogel am 6 mis, megis arian ar ôl gwerthu tŷ.

Ble i gael cyfrif cynilo cyfradd sefydlog

Gallwch brynu bondiau cynilo yn uniongyrchol gan fanc neu gymdeithas adeiladu neu NS&I. Gallwch fuddsoddi mewn bondiau NS&I ar-lein ar eu gwefan.

Gallwch gynilo arian mewn rhai cyfrifon cynilo cyfradd sefydlog ar-lein, mewn cangen, drwy’r post neu dros y ffôn, yn dibynnu ar y cyfrif a’r darparwr.

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas i’ch dibenion chi.

Mae’r gwefannau hyn yn lle da i gychwyn er mwyn i chi cymharu cyfrifon cynilo:

Ond byddwch yn ymwybodol na fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.  

Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.

Treth a bondiau cynilo cyfradd sefydlog

Telir llog ar eich cynilion yn gros ac efallai y bydd rhaid i chi dalu treth arnynt os ydynt yn uwch na’ch Lwfans Cynilion Personol.

Mae rhai bondiau cynilo ar gael fel cyfrifon ISA di-dreth.

Os bydd pethau’n mynd o chwith â’ch bondiau cynilo cyfradd sefydlog

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.