Ni allwch agor ISA Cymorth i Brynu newydd mwyach. Fodd bynnag, os oes gennych un eisoes, gallwch barhau i gynilo i’r cyfrif. Yn y canllaw hwn gallwch ddarganfod sut mae ISA Cymorth i Brynu yn gweithio os oes gennych gyfrif eisoes .
Beth yw ISAs Cymorth i Brynu?
Gwnaeth ISAs Cymorth i Brynu gau ar gyfer chyfrifon newydd ar 30 Tachwedd 2019. Os oeddech eisoes wedi agor cyfrif ISAs Cymorth i Brynu gallwch barhau i gynilo i’ch cyfrif tan Tachwedd 2029, gyda 12 mis pellach i wneud cais am eich bonws y llywodraeth tuag at eich cartref cyntaf.
Mae ISAs Cymorth i Brynu yn gynllun gan y llywodraeth sydd â’r nod o’ch helpu i gynilo i gael blaendal morgais er mwyn prynu cartref. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod wedi’ch dynodi fel prynwr tro cyntaf a ddim yn berchen ar eiddo yn unlle arall yn y byd.
Mae cynilion yn ddi-dreth, yn union fel unrhyw gynnyrch ISA arall, fodd bynnag, mae ISA Cymorth i Brynu yn rhoi’r cyfle ychwanegol i chi o gael bonws gan y llywodraeth .
Efallai y gallwch gael cymorth ariannol gan y llywodraeth i brynu cartref mewn Cynllun perchentyaeth fforddiadwyYn agor mewn ffenestr newydd
Os gwnaethoch fethu allan ar agor ISAs Cymorth i Brynu, gallwch agor ISA Gydol Oes yn lle sydd â chynllun bonws tebyg ar gyfer prynwyr tai am y tro cyntaf. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilo i ISAs Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes?
Sut mae ISAs Cymorth i Brynu yn gweithio?
Bydd y llywodraeth yn ychwanegu 25% at unrhyw gyfraniad a wnewch, hyd at uchafswm o gyfraniad o £12,000. Felly am bob £200 a gynilwch, bydd y llywodraeth yn cyfrannu £50. Golyga hyn y gallwch ennill uchafswm o £3,000 gan y llywodraeth os ydych yn cynilo’r £12,000 llawn.
Yr isafswm sydd angen i chi ei gynilo er mwyn bod yn gymwys am fonws gan y llywodraeth yw £1,600 (sy’n rhoi bonws o £400 i chi).
Gallwch ddechrau’ch ISA gyda blaendal o hyd at £1,200 ac wedyn gallwch dalu hyd at £200 y mis. Mae eich blaendal cychwynnol a'ch taliadau misol yn gymwys am hwb pellach o 25% gan y llywodraeth.
Mae ISAs Cymorth i Brynu ar gael i bob prynwr tro cyntaf, nid pob tŷ. Felly os ydych prynu eiddo gyda’ch partner er enghraifft, byddwch yn casglu hyd at £6,000 at eich blaendal.
Pa bryd ddylai eich cyfreithiwr neu drawsgludwr eiddo ymgeisio
Rhowch gyfarwyddyd i’ch cyfreithiwr neu’ch trawsgludwr eiddo i wneud cais am eich bonws llywodraeth pan fydd eich cynnig ar y tŷ wedi’i dderbyn. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfreithiwr neu’ch trawsgludwr eiddo yn gwneud cais am y bonws rhwng y cyfnewid a chwblhau prynu eich tŷ.
Peidiwch ag aros tan fydd y pryniant wedi’i gwblhau oherwydd bydd hynny’n rhy hwyr.
Unwaith iddynt gael eich bonws llywodraeth, caiff ei ychwanegu at yr arian a rowch tuag at eich cartref cyntaf. Ni ellir defnyddio’r bonws ar gyfer y blaendal cychwynnol wrth gyfnewid contractau, nac i dalu ffioedd sy’n gysylltiedig â’r pryniant - fel ffioedd eich cyfreithiwr.
A fydd fy monws yn cyfrannu at y blaendal o brynu fy nghartref?
Bydd, ychwanegir bonws y llywodraeth at gyfanswm eich blaendal. Ni fydd yn helpu tuag at y blaendal cyfnewid tŷ.
Wrth gyfrifo’ch morgais, bydd eich darparwr benthyciadau angen tystiolaeth o’r cynilion sydd ar gael gennych. Bydd hyn yn cynnwys y swm a gynilwyd yn eich ISA Cymorth i Brynu. Yna bydd eich darparwr benthyciadau yn cynnwys swm eich bonws gan y llywodraeth wrth gyfrifo swm eich benthyciad morgais.
Pwy sy’n gymwys?
- Rhaid i chi fod yn brynwr tro cyntaf.
- Mae angen i chi fwy yn y DU.*
- Rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd.
- Mae angen i hwn fod eich unig gartref ac wedi ei brynu gyda morgais.
- Gallwch ei ddefnyddio i brynu unrhyw gartref sy’n werth hyd at £250,000 (neu hyd at £450,000 yn Llundain).
- Gallwch ddefnyddio ISAs Cymorth i Brynu gydag unrhyw forgais; ni chewch eich cyfyngu i forgais Cymorth i Brynu
- Ni allwch ddefnyddio ISA Cymorth i Brynu os ydych yn mynd i rentu’r eiddo allan. Rhaid mai hwn yw'r unig gartref y byddwch yn berchen arno a bod y lle rydych yn bwriadu parhau i fyw.*
- Ni allwch ddefnyddio ISA Cymorth i Brynu ar eiddo tramor.
Bydd rhai darparwyr yn gadael i chi arbed i mewn i ISA arian parod ac ISA Cymorth i Brynu o fewn yr un 'lapiwr' ISA. Ond bydd y terfynau lwfans ISA arian parod safonol ac ISA Cymorth i Brynu yn berthnasol o hyd..
*Gall rhai eithriadau fod yn berthnasol i weithwyr Gwasanaeth y Goron sy'n gweithio dramor.
Pa mor fuan allwch chi gael yr arian?
Unwaith y bydd eich cynilion wedi cyrraedd y swm gofynnol (£1,600) gallwch hawlio’ch bonws gan y llywodraeth ar unrhyw adeg.
Os hoffech chi fod yn gymwys am yr uchafswm bonws o £3,000 bydd hyn yn cymryd ychydig dros bedair blynedd a hanner.
Mae’n werth nodi y bydd angen i chi hawlio’ch bonws drwy eich cyfreithiwr neu’ch trawsgludwr eiddo cyn cwblhau, ond ar ôl cyfnewid contractau, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu uchafswm ffi o £50 a TAW .
Llog ar eich ISAs Cymorth i Brynu
Bydd y cyfraddau llog ar ISAs Cymorth i Brynu yn amrywio a chael eu gosod gan bob darparwr.
Yn wahanol i ISA Gydol Oes, ni fyddwch yn ennill llog ar eich bonws gan y llywodraeth oherwydd ni fyddwch yn cael yr arian hyd nes i chi brynu’ch eiddo.
Pan gewch eich bonws caiff ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r arian a gyniloch a’r llog a gronnwyd tra roedd eich cyfrif ar agor.
Rheoli eich ISAs Cymorth i Brynu
Cyfnewid rhwng darparwr gwahanol ar gyfer eich ISAs Cymorth i Brynu
Byddwch yn gallu newid o un darparwr i ddarparwr arall pryd bynnag y dymunwch wrth i gyfraddau llog newid i gael y fargen orau. Ar yr amod bod y darparwr ISA yn derbyn y trosglwyddiad.
Bydd y rheolau ar gyfer trosglwyddo yr un fath ag ar gyfer ISAs Arian Parod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn trwy’ch darparwr ISA fel na fyddwch yn tynnu’r arian yn ddamweiniol yn hytrach na’i drosglwyddo. Fel arall, bydd eich arian yn colli ei statws di-dreth a’i gymhwysedd i gael bonws gan y llywodraeth.
Gwiriwch y rheolau i drosglwyddo eich cynilion o un ISA Cymorth i Brynu i un arall yn ein canllaw ISAs Arian Parod
A allaf newid i ISA Gydol Oes?
Gallwch, ond bydd y trosglwyddiad yn cyfrif tuag at y terfyn blynyddol ar gyfer yr ISA Gydol Oes (£4,000 am 2024-25 ar hyn o bryd). Ni fyddwch yn cael y bonws Cymorth i Brynu, ond bydd unrhyw gronfeydd a drosglwyddir yn gymwys am y bonws ISA Gydol Oes - yn amodol ar derfynau cyfraniadau blynyddol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Gydol Oes
A yw ISAs Cymorth i Brynu yn addas ar eich cyfer chi?
Er bod y swm allwch chi ei gynilo bob blwyddyn mewn ISA Cymorth i Brynu (£2,400 a’r blaendal cychwynnol) yn llawer llai nag ISA Arian Parod (£20,000 yn 2024/25) mae’r bonws o 25% a gynigir gan y llywodraeth yn llawer uwch na’r swm fyddech yn ei ennill mewn llog yn unig.
Os na wnaethoch agor un mewn pryd, yna efallai yr hoffech ystyried ISA Gydol Oes, sydd hefyd yn cynnig bonws o 25% i brynwyr tro cyntaf cymwys.
A allaf ailagor fy nghyfrif ISA: Cymorth i Brynu os yw fy mhrynu eiddo yn methu?
Gallwch, mae gennych hawl i ailagor eich cyfrif os bydd eich pryniant eiddo yn methu ond mae’n rhaid i chi gyflwyno Rhybudd Methiant Prynu (PFN) i’ch Darparwr ISA.
Bydd angen i chi ailagor eich cyfrif o fewn 12 mis i ddyddiad cau’r cyfrif (sydd i’w weld ar y datganiad cau). Unwaith y byddwch wedi adfer eich cyfrif, gallwch gynilo yn eich ISA Cymorth i Brynu tan 30 Tachwedd 2029, gyda 12 mis arall i hawlio’ch bonws tan Tachwedd 2030.