Cwestiynau pensiwn?
- Cysylltwch. Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Cyfrifon cynilo dim rhybudd

Mae’r cyfrifon hyn yn talu llog ac yn caniatáu i chi godi arian pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch bob mis. Yn aml gallwch agor cyfrif â blaendal cychwynnol o gyn lleied â £1.

Ai cyfrif cynilo dim rhybudd yw’r cyfrif i chi?

Instant access savings accounts are for you if you have spare cash and want to:

  • cael adenillon gwell na’r adenillion ar eich cyfrif cyfredol
  • cynilo ar eich cyflymder eich hun
  • gallu codi arian pryd bynnag y dymunwch
  • peidio â cymryd risgau â’ch arian

Risg ac elw

arrow icon
  • Fel arfer yn cynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon cyfredol.
  • Nid yw’r gyfradd mor uchel â chyfrifon cynilo rheolaidd neu fondiau cynilo, a fyddai’n cloi eich arian.
  • Ni fydd eich cynilion yn dal eu gwerth prynu yn yr hirdymor os bydd y gyfradd llog ar y cyfrif yn is na’r cynnydd mewn costau byw (chwyddiant).
arrow icon

Pa mor ddiogel yw eich cynilion?

Mae'r arian a roddwch i fanciau awdurdodedig y DU, cymdeithasau adeiladu neu undebau credyd yn cael ei warchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Terfyn diogelwch cynilion FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.

Mae'n werth nodi bod rhai brandiau bancio yn rhan o'r un cwmni awdurdodedig.

Os oes gennych fwy na'r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae'n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian yn cael ei ddiogelu.

arrow icon
arrow icon

Sut i agor cyfrif cynilo dim rhybudd neu gyfrif cynilo lle bydd eich arian ar gael yn hawdd

arrow icon

Gallwch agor cyfrif dim rhybudd neu gyfrif lle bydd eich arian ar gael yn hawdd yn uniongyrchol â banc neu gymdeithas adeiladu. Bydd y mwyafrif ohonynt yn gadael i chi agor cyfrif:

  • ar-lein
  • dros y ffôn, neu
  • drwy fynd i mewn i gangen.

Efallai y bydd angen i chi gael cyfrif cyfredol â’ch banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn agor cyfrif cynilo dim rhybudd. Gofynnwch iddynt cyn i chi ddechrau arni

Treth ar gynilion

Mae angen i'r rhan fwyaf o bobl dalu Treth Incwm ar y llog y maent yn ei gael, felly mae treth cyfradd sylfaenol fel arfer yn cael ei didynnu fel mater o gwrs o log cyfrif cynilo.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae gennych lwfans cynilo personol o £1,000. Mae hyn yn golygu bod eich £1,000 cyntaf o incwm cynilion yn ddi-dreth.

Mae trethdalwyr cyfradd uwch yn elwa o lwfans cynilo personol llai o £500.

Os nad ydych yn drethdalwr, gallwch ofyn am dalu llog heb unrhyw ddidyniadau treth.

arrow icon

Os bydd pethau’n mynd o chwith

Os byddwch yn fodlon â’r gwasanaeth gan eich banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol.

Dewis cyfrif cynilo

Mae gwefannau cymhariaeth yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi'i deilwra i'ch anghenion.

arrow icon

Ond byddwch yn ymwybodol nad yw gwefannau cymharu i gyd yn rhoi'r un canlyniadau i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.

Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid darparwr.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.