Petai eich banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn mynd i’r wal, byddai gennych hawl i iawndal trwy’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer cyfrifon ar y cyd ac os oes gennych arian mewn dau fanc sy’n rhan o’r un grŵp bancio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol?
- Beth mae’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn ei gwmpasu
- Yr hyn nad yw’n cael ei gwmpasu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
- Faint o iawndal fyddwch chi'n ei gael?
- Byddwch yn ofalus o gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau rheoli hawliadau
Beth yw’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol?
Gall y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) dalu iawndal i bobl sydd ar eu colled oherwydd i fanc neu ddarparwr gwasanaethau ariannol arall fynd i’r wal.
Mae hefyd yn helpu pobl sydd ar eu colled oherwydd cyngor gwael gan ymgynghorydd ariannol sydd wedi mynd allan o fusnes ers hynny.
Darganfyddwch fwy ar wefan FSCS
Beth mae’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn ei gwmpasu
Mae’r cynllun yn cwmpasu nifer o wahanol fathau o wasanaethau ariannol. Gallech dderbyn iawndal os:
- wnaethoch golli arian mewn cyfrifon cadw gyda banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd os yw’r cwmni’n methu. Mae hyn cyhyd ag nad oedd gennych chi fwy na £85,000 gydag un sefydliad.
I ddarganfod os oes gennych gyfrifon gyda banciau sy’n rhan o’r un ‘sefydliad ariannol’, defnyddiwch y teclyn am ddim ar wefan Which?
- Mae eich cwmni yswiriant yn mynd i’r wal. Gall y cynllun dalu hawliadau wedi eu diogelu a cheisio trefnu, neu helpu gyda, trosglwyddo’r busnes yswiriant i gwmni arall. Os yw hyn yn gost effeithiol ac yn ymarferol
- Mae eich darparwr pensiwn yn mynd i’r wal. Dim ond pensiynau sydd wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sydd wedi eu diogelu gan y cynllun. Gweler pa gynlluniau sydd wedi eu cynnwys a’r rhai nad ydynt felly ar Sefydliadau sy’n helpu os yw’ch cynllun yn newid.
- Rydych wedi colli arian oherwydd i chi gael cyngor ariannol gwael neu bu i’ch darparwr gwasanaethau ariannol gyflawni twyll. Yn yr achos hwn, gall y cynllun eich diogelu os na all darparwr y gwasanaethau ariannol, neu mae’n debygol na all, dalu hawliadau yn ei erbyn.
Diogelwch ar gyfer balans uchel dros dro
Os oes gennych falans uchel dros dro, mae gennych ddiogelwch dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) hyd at £1miliwn. Mae hyn am hyd at 6 mis o’r dyddiad pan gafodd yr arian ei dalu i mewn i’r cyfrif gyntaf.
Mae sicrwydd ar gyfer balansau uchel dros dro ar gael i unigolion yn unig - nid i gwmnïau.
Os, er enghraifft, y byddwch chi’n gwerthu eich cartref ac felly bod gennych swm anarferol o uchel yn eich cyfrif, efallai y bydd yr arian wedi ei ddiogelu dros dro pe byddai’ch banc yn mynd i’r wal, hyd yn oed os yw’n fwy na’r trothwy £85,000.
Darganfyddwch fwy ar wefan FSCS
Yr hyn nad yw’n cael ei gwmpasu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
Ni fyddwch wedi’ch diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol(FSCS) os:
- Yw’r cwmni’n parhau mewn busnes. Rhaid i chi gwyno iddynt yn gyntaf, ac yna fynd â’ch achos at yr Ombwdsmon Ariannol os nad ydych yn fodlon. Nid yw’r cynllun yn talu hawliadau yn y dyfodol yn erbyn cwmnïau sy’n dal mewn busnes.
- Nad oedd y cwmni’n gyfrifol am eich colled. Er enghraifft, os achoswyd eich colled gan fuddsoddiad sylfaen yn mynd i’r wal.
- Nid oedd y cwmni wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) na’r Prudential Regulation Authority. Gallwch ddarganfod a yw eich un chi wedi ei ddiogelu drwy ddefnyddio wefan Financial Services Register
- Roedd y cwmni wedi ei leoli yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Rhaid i bawb sy’n derbyn adneuon gyda phencadlys yn yr AEE gofrestru i gynllun iawndal adneuon eu gwlad gartref. Mae’n ofynnol i bob gwlad Ewropeaidd gael terfyn iawndal sy’n cyfateb i €100,000.
- Mae’ch hawliad yn ymwneud â busnes a ddigwyddodd cyn dyddiad penodol. Mae’r dyddiad hwn yn ddibynnol ar y math o hawliad. Gwiriwch ddyddiadau ar wefan FSCS
- Busnes taliadau neu e-arian yw eich busnes. Nid yw arian a ddelir gyda busnesau taliadau ac e-arian yn cael ei ddiogelu gan FSCS. Am fwy o wybodaeth am ddarparwyr gwasanaeth talu, gweler wefan FCA
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw E-taliadau – pam, pryd a sut mae eu defnyddio
Os ydych yn meddwl y gwerthwyd cynnyrch anaddas i chi ac mae’r cwmni wedi mynd i’r wal, mae hyn yn gam-werthu. Ac efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-werthu ariannol – beth i’w wneud os ydych wedi’ch effeithio
Sut i hawlio
Pan fydd banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, bydd Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn talu adnau cymwys i bob adneuwr o hyd at £85,000.
Efallai y bydd yn rhaid i gwsmeriaid mathau eraill o wasanaethau ariannol gysylltu’n uniongyrchol gyda’r FSCS.
Cysylltwch â’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ynglŷn â gwneud hawliad
Faint o iawndal fyddwch chi'n ei gael?
Mae yna derfynau ar beth fydd y cynllun yn ei dalu allan.
Os oes gennych gynilion sy’n fwy na’r trothwy iawndal, bydd angen i chi fod yn arbennig o ofalus faint o arian fyddwch yn ei gadw gyda phob:
- banc
- undeb credyd
- cymdeithas adeiladu.
Os mai dim ond un cyfrif sydd gennych
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU - a awdurdodir gan y Prudential Regulation Authority - ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn diogelwch adneuon yr FSCS yw £85,000 fesul cwmni awdurdodedig.
Os oes gennych fwy nag un cyfrif gyda’r un banc neu gymdeithas adeiladu
Yr uchafswm fyddech yn ei gael yw £85,000 o hyd. Mae hyn hyd yn oed os yw cyfanswm eich holl gyfrifon gwahanol gyda’r un banc yn dod i fwy na hyn.
Os oes gennych fwy nag un cyfrif, ond gyda banciau neu gymdeithasau adeiladu gwahanol
Bydd y lefel o ddiogelwch sydd gennych yn ddibynnol ar gyda pha fanciau a chymdeithasau adeiladu mae’ch cyfrifon ynddynt.
Bydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ond yn talu ei uchafswm o £85,000 y pen ar gyfer pob ‘sefydliad awdurdodedig’ neu grŵp bancio.
Mae rhai banciau dan berchnogaeth cwmni bancio mwy mewn gwirionedd. Er enghraifft, HSBC yw perchnogion First Direct.
Felly, pe bai gennych £80,000 gyda First Direct a £10,000 gyda HSBC, byddai gennych gyfanswm o £90,000 gyda HSBC Bank Plc. Mae hynny'n golygu na fyddai £5,000 yn dod o dan yr FSCS.
Darganfyddwch a oes banc mwy yn berchen ar eich banc chi ac yn rhannu ei ddiogelwch adneuon ar wefan Which?.
Darganfyddwch fwy am reolau iawndal ar gyfer banciau y tu allan i’r DU ar wefan FCA
Os oes gennych gyfrif ar y cyd
Os oes gennych gyfrif ar y cyd, terfyn diogelu blaendal y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yw £170,000.
Byddwch yn ofalus o gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau rheoli hawliadau
Ni chodir tâl i wneud hawliad i’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.
Ond, bydd rhai cwmnïau yn cynnig eich helpu i hawlio gan godi ffi arnoch.
Gall hyn fod yn gymaint â chwarter eich iawndal a TAW. Felly os cawsoch £2,000 yn ôl, gallech dalu cymaint â £600 i’r cwmni.
Darganfyddwch fwy am hawlio iawndal ar wefan Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol