Mae rhywbeth wedi'i fenthyg, rhywbeth glas yn rhy wir o lawer os oes rhaid i chi fforchio cannoedd o bunnoedd mewn llog ar gyfer priodas y telir amdani ar gredyd. Mae cynilo ar gyfer eich priodas yn torri'r gost a'r straen.
Beth sydd yn y canllaw hwn:
Cyfrif cost eich priodas a gosod cyllideb
Os ydych yn dewis pecyn priodas neu’n rhoi eich diwrnod arbennig eich hunan at ei gilydd, gall costau priodas bentyrru.
Mae’n bwysig gosod cyllideb a chadw ati fel nad yw’n cynyddu heb reolaeth.
Gwnewch restr o bopeth fydd angen i chi wario eich arian arno a chwiliwch am y cynnig gorau. Mae’n werth rhoi cynnig ar drafod i gael y pris gorau hefyd.
Gweithio allan faint i’w gynilo bob mis
Byddwch yn realistig ynghylch beth gallwch ei gyflawni a faint y gallwch ei fforddio.
Er enghraifft, os ydych yn bwriadu gwario £5,000 ar gyfer priodas ymhen blwyddyn, bydd angen i chi gynilo oddeutu £400 y mis.
Ond, os byddwch yn dechrau cynilo dwy flynedd cyn y briodas, dim ond £200 y mis fydd angen i chi gynilo.
Dechrau arni
Awgrym da
Sefydlwch daliad rheolaidd (Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog) i drosglwyddo swm penodol fel mater o drefn i’ch cynilion bob mis.
Po gyntaf y dechreuwch gynilo, po hawsaf fydd rheoli'r gost.
Penderfynwch ble i gronni’ch cynilion. Efallai bod gennych eisoes gyfrif banc ar-lein sy’n gadael i chi sefydlu potyn ar wahân ar gyfer y briodas.
Fel arall, agorwch gyfrif cynilo dim rhybudd syml.
Os oes gennych gost fawr ac annisgwyl sy’n llesteirio eich cynllun cynilo, mae rhai cardiau credyd sy’n gallu rhoi llog o 0% ar bryniannau am hyd at flwyddyn, neu hyd yn oed yn hwy.
Mae rhai pobl yn defnyddio’r cardiau hyn i ledaenu’r gost honno dros gyfnod hir o amser, sy’n gallu caniatáu iddynt ddal i roi arian yn eu cyfrif cynilo pob mis.
Mae’r cynigion cardiau credyd hyn yn dod i ben, â’r APR yn mynd yn ôl i gyfradd llawer uwch.
Felly trefnwch daliad Debyd Uniongyrchol i dalu’r balans yn llawn o fewn y cyfnod 0%.
Cyn i chi gymryd cerdyn credyd gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried a oes angen i chi fenthyca. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio benthyca
Os oes gennych flwyddyn neu ddwy i gynllunio ymlaen, efallai y byddwch am ystyried cyfrifon sy’n clymu’ch arian ond sy’n cynnig llog gwell.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cipolwg ar gynilion arian parod i weld syniadau
Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Gwefannau cymharu prisiau
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Mae’r gwefannau canlynol yn lle da i ddechrau eich ymchwil am gyfrif cynilo:
Which?
MoneySavingExpert
Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly mae’n syniad da i ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad. Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion rydych eu hangen cyn prynu neu newid darparwr.