Mae cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia’n darparu’r un gwasanaethau bancio o ddydd i ddydd â chyfrifon cyfredol cyffredin. Fodd bynnag, nid ydynt yn rhoi elw ar eich arian nag yn cynnig cyfleusterau gorddrafft gan fod yr egwyddor o dalu neu godi llog yn erbyn cyfraith Islamaidd.
Beth sydd yn y canllaw hyn
- Pryd y gallai cyfrif sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia fod yn addas ar eich cyfer?
- Sut mae cynilion sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn gweithio
- Ble i gael cyfrif cynilo sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia
- Pa mor ddiogel yw cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia?
- Os bydd pethau’n mynd o chwith
Pryd y gallai cyfrif sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia fod yn addas ar eich cyfer?
Caiff unrhyw arian a gaiff ei fuddsoddi ei gadw ar wahân i gyfrifon banc eraill - ni chaiff ei ddefnyddio i gynhyrchu llog ac ni chaiff ei fuddsoddi mewn busnesau sy'n haram.
Mae cyfrif banc sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn addas ar eich cyfer os:
- ydych am fancio yn ôl cyfraith Islamaidd
- ydych am i’ch cynilion dyfu drwy elw sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia, nid trwy log
- nad ydych am i’ch banc roi benthyg eich arian i fusnesau sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau – fel alcohol, tybaco a gamblo – sy’n mynd yn groes i egwyddorion Islamaidd
Sut mae cynilion sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn gweithio
Gyda chyfrif cynilo sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia, yn lle rhoi benthyg eich cynilion a chodi llog ac wedyn trosglwyddo rhywfaint ohono i chi, bydd y banc yn defnyddio eich arian mewn ffordd sy’n parchu credoau Islamaidd.
Bydd eich banc yn dilyn cyngor panel o gynghorwyr banc Mwslimaidd er mwyn sicrhau bod gweithgareddau sy’n cynhyrchu elw yn cydymffurfio â chyfraith Sharia
Caiff rhywfaint o’r elw y bydd y banc yn ei ennill o’r gweithgareddau hyn ei ddychwelyd i chi, gan alluogi i chi dyfu eich cynilion heb ennill llog.
Yn lle ‘cyfradd llog flynyddol’, byddwch yn ennill ‘cyfradd elw ddisgwyliedig’. Bydd y banc yn dweud wrthych beth yw'r gyfradd hon. Gallwch ddefnyddio'r gyfradd hon i gymharu'ch amcangyfrif o enillion â chyfrif cynilo sy'n talu llog.
Ble i gael cyfrif cynilo sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia
Mae’r banciau hyn yn cynnig cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig.
Helpwch ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf a gadael i ni wybod os ydych yn darparu cynhyrchion cynilo sy'n cydymffurfio â chyfraith Sharia i gwsmeriaid yn y DU
Pa mor ddiogel yw cyfrifon sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia?
Mae'r arian a roddwch i fanciau awdurdodedig y DU, cymdeithasau adeiladu neu undebau credyd yn cael ei warchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn amddiffyn cynilion FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig.
Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Am ragor o wybodaeth am y banciau sy'n rhan o'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd gwelwch wefan Which?
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal?
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os byddwch yn anfodlon â’r gwasanaeth a gewch gan eich banc neu os byddwch am wneud cwyn, darllenwch Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu.