Mewn undebau credyd mae aelodau'n cronni eu cynilion ac yn benthyca i'w gilydd. Mae gan aelodau rywbeth yn gyffredin, fel yr un cyflogwr, undeb llafur, mynychu man addoli penodol neu fyw yn yr un ardal. Mae undebau credyd yn sefydliadau dielw sy'n defnyddio'r arian y maent yn ei ennill i gynnig gwasanaethau ariannol fel cynilion a benthyciadau er budd eu haelodau.
A yw cyfrif cynilo undeb credyd yn addas ar eich cyfer?
Gall cyfrif cynilo undeb credyd fod yn addas ar eich cyfer os:
- ydych am gael cyfrif hyblyg sy'n caniatáu i chi gynilo’r hyn y gallwch, pan allwch;
- ydych yn hoffi'r syniad o gynilo â sefydliad sy'n eiddo i'r aelodau sy'n defnyddio ei wasanaethau ac yn eu rhedeg;
- ydych wedi cael anhawster agor cyfrif â banc neu gymdeithas adeiladu.
- ydych eisiau yswiriant cynilo neu ddiogelu benthyciad, sy'n aml yn dod yn rhad ac am ddim â chyfrifon undeb credyd.
Sut mae cyfrifon cynilo undebau credyd yn gweithio
- Mae undebau credyd yn sefydliadau a gaiff eu rhedeg gan aelodau sy’n cyfuno eu cynilion er mwyn gallu benthyg i’w gilydd.
- Mae gan aelodau undeb credyd rywbeth yn gyffredin, fel gweithio i’r un cwmni, byw yn yr un ardal neu berthyn i eglwys benodol neu undeb llafur. Gelwir hyn yn ‘gwlwm cyffredin’. Yn aml mae gan undebau credyd fondiau cyffredin lluosog.
- Mae sawl ffordd y gallwch gynilo ag undeb credyd – drwy bwyntiau casglu lleol, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy gael arian wedi’i ddidynnu’n uniongyrchol o’ch cyflog.
- Mae rhai undebau credyd yn cynnig cyfradd sefydlog ar gynilion, ond mae’r mwyafrif yn rhoi taliad blynyddol i chi a elwir yn ‘ddifidend’. Y difidend yw’r ffordd mae’r undeb credyd yn rhannu ei elw â’i aelodau a bydd y swm a gewch, os bydd un, yn amrywio gan ddibynnu ar faint o elw mae’r undeb credyd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn.
- Mae pob undeb credyd yn cynnig cyfrifon cynilo a benthyciadau sylfaenol. Mae rhai hefyd yn cynnig opsiynau buddsoddi ychwanegol, fel ISAs, cyfrifon cynlio i blant, morgeisi, hurbwrcas a gwasanaethau dosbarthu yswiriant.
- Mae undebau credyd yn cael eu perchen gan a’u rhedeg ar gyfer eu haelodau. Yn lle talu enillion i gyfranddeiliaid allanol, maent yn defnyddio’r arian y maent yn ei ennill i wella gwasanaethau a gwobrwyo eu haelodau.
- Mae undebau credyd yn amrywio’n sylweddol o ran maint – mae rhai yn grwpiau cymunedol bach tra bod gan eraill filoedd o aelodau.
Os ydych am fenthyg arian yn hytrach nag arbed, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyca gan undeb credyd
Risg ac elw
- Mae gan undebau credyd rai cyfyngiadau ynghylch yr hyn y gallant fuddsoddi ynddo a faint o arian y gallant ei fenthyca i bobl.
- Po fwyaf y byddwch yn ei gynilo, po fwyaf fel arfer fydd eich cyfran o’r taliad buddran blynyddol.
- Gall difidendau fod yn isel, neu hyd yn oed yn sero, os na fydd yr undeb credyd yn cynhyrchu gwarged. Mae aelodau’n pleidleisio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr undeb credyd ar lefel y fuddran i’w thalu. Mae pob aelod yn cael pleidlais, waeth faint sydd ganddynt wedi’i cynilio.
Cael gafael ar eich arian
Awgrym da
Nid yw pob undeb credyd yn cynnig yr amrywiaeth lawn o opsiynau ar gyfer codi arian. Cyn i chi agor cyfrif, gofynnwch sut y gallwch dalu arian i mewn a'i dynnu allan.
- Fel arfer gallwch godi arian ar unrhyw adeg.
- Os yw eich cyfrif cynilo yn gyfrif ‘Hysbysiad’, bydd rhaid i chi roi swm penodol o rybudd i’r undeb credyd i godi arian.
- Bydd rhai undebau credyd yn rhoi cerdyn debyd i chi y gallwch ei ddefnyddio mewn peiriant arian parod arferol ar y stryd fawr.
- Fel rheol, gallwch fynd ag arian parod yn y swyddfa undeb credyd leol neu weithiau drefnu trosglwyddiad i'ch cyfrif banc.
Ffioedd
Yn gyffredinol, nid yw cyfrifon cynilo undebau credyd yn codi taliadau, ond cadarnhewch hynny â darparwyr unigol.
Diogel a sicr?
Yn yr un modd â'r mwyafrif o fanciau stryd fawr y DU, mae'r arian sy’n cael ei gynilo mewn undeb credyd yn dod o dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelu’r cynilion FSCS i ddefnyddwyr yw £85,000. Os oes gennych fwy o arian na'r terfyn, bydd peth o'ch arian mewn perygl os bydd eich banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn methu.
Gwiriwch y ffeithiau yn ein canllaw Iawndal ariannol os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal
Sut i agor cyfrif
Y cam cyntaf yw dod o hyd i undeb credyd addas a dod yn aelod ohoni.
Dewch o hyd i undeb credyd ym Mhrydain Fawr â FYCU
Dewch o hyd i undeb credyd yng Ngogledd Iwerddon â'r Irish League of Credit Unions neu â’r Ulster Federation of Credit Unions
Pan fyddwch yn ymuno, bydd angen i chi ddarparu prawf hunaniaeth a phrawf o’ch cyfeiriad.
Cyn i chi agor cyfrif defnyddiwch y ddolen isod i wirio bod eich undeb credyd dewisol yn cael ei reoleiddio gan y Prudential Regulation Authority (PRA) a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
I wirio undeb credyd, defnyddiwch y Financial Services Register ar wefan yr FCA
Didyniad Treth
Nid oes rhaid i Undebau Credyd, yn ôl y gyfraith, ddidynnu treth o ddifidendau – cyfrifoldeb yr aelod yw datgan ei ddifidend at ddibenion treth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Gan fod undebau credyd yn cael eu rheoleiddio gan y PRA a’r FCA mae rhaid iddynt fodloni rhai safonau penodol.
Mae hyn yn golygu os oes gennych broblem na allwch ei datrys yn uniongyrchol â hwy, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.