Eich opsiynau am fenthyca arian
2 funud i’w gwblhau
Os oes angen i chi fenthyca arian, mae’r teclyn hwn yn dangos gwahanol opsiynau credyd sydd ar gael ar eich cyfer – gan gynnwys cardiau credyd, benthyciadau, cyflog ymlaen llaw a llawer mwy.
Pam y dylech ddefnyddio’r teclyn hwn
- Weld ffyrdd o fenthyca hyd at £50,000 a allai fod yn addas i’ch anghenion.
- Darllen manteision ac anfanteision bob un.
- Penderfynwch ar ba opsiwn sydd orau ar eich cyfer.
Sut mae’r teclyn hwn yn gweithio
- Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau syml i chi a pham bod angen i chi fenthyca arian.
- Bydd eich canlyniadau’n dibynnu ar faint sydd ei angen arnoch, yr hyn sydd ei angen arnoch, pa mor gyflym y gallwch ei ad-dalu a’ch sgôr credyd.
- Mae’n syniad da i wybod eich sgôr credyd ymlaen llaw, ond gallwch barhau i ddefnyddio’r teclyn hwn os nad ydych yn siŵr beth ydyw.
- Bydd eich atebion yn cael eu cadw’n gyfrinachol. Ni fyddwn yn eu cadw na’u rhannu ag unrhyw un arall.
- Ni fydd defnyddio’r teclyn hwn yn effeithio ar eich sgôr credyd, ond efallai y bydd gwneud cais am gredyd yn effeithio ar eich sgôr.
Os ydych yn chwilio am forgais
Ni fydd y teclyn hwn yn helpu os ydych chi’n chwilio am forgais i brynu tŷ. Edrychwch ar Sut i wneud cais am forgais yn lle.
Gwybodaeth ychwanegol
Os ydych yn benthyca arian i ddelio â phroblem gyda dyled, efallai y bydd cael cyngor ar ddyledion yn well ar gyfer eich sefyllfa. Dewch o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim gan ddefnyddio ein Teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.