Cynilo am wyliau a thalu amdano gydag arian parod yw’r dewis gorau ar gyfer eich cyllid fel arfer. Pan na fydd rhaid i chi fenthyg arian, byddwch yn ymlacio, ac ni fyddwch yn aflonydd oherwydd pryderon ariannol. Yma y mae canllaw fesul cam ar sut y gallech gynilo ar gyfer eich gwyliau nesaf.
Dod o hyd i arian i’w gynilo hyd yn oed pan fyddwch yn teimlo nad oes gennych arian
Gall cynilo arian fod yn anodd, ond mae’n werth ceisio'i wneud. Mae nifer o bobl yn cael trafferth i gynilo gan nad oes ganddynt arian ychwanegol. Ond mae yna ffyrdd i ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer cynilion, fel:
- adolygu a newid eich cyflenwr ynni
- sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
- cadw cofnod o’ch incwm a gwariant i reoli eich cyllideb yn well
- lleihau gwariant yn y meysydd rydych yn gwario’r mwyaf.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Gwnewch yn siwr eich bod yn derbyn yr hawliadau cywir
Sut i arbed arian ar filiau cartref
Gosod gyllideb
Mae’n bwysig iawn cyfrifo faint rydych eisiau ei gynilo a faint y gallwch fforddio ei roi o’r neilltu bob mis.
Dyma sut i’w wneud.
Yn gyntaf, lluniwch restr o’r holl eitemau y mae angen i chi dalu amdanynt cyn i chi fynd, fel:
- teithio (hedfan neu gostau tanwydd)
- llety
- llogi car (ac yswiriant car dros ben)
- yswiriant teithio
- arian teithio
- dillad gwyliau a dillad nofio
- eli haul a phethau ymolchi.
Yn ail, meddyliwch am dreuliau dyddiol ar wyliau fel:
- bwyd a diod
- adloniant
- danteithion gwyliau
- Gwibdeithiau.
Adiwch y costau hyn ynghyd a bydd gennych nod cynilo.
Mae’n bosibl y gallwch arbed ychydig ar gostau’r gwyliau hefyd, sy’n golygu y bydd angen i chi gynilo ychydig yn llai o arian.
Dechrau cynilo
Dylech drin cynilo’r un ffordd â thalu bil, ac ymrwymo i gynilo swm rheolaidd bob mis neu wythnos. Fel hyn bydd yn llawer yn haws i chi gyllidebu cynilion a gwariant.
Ond byddwch yn realistig – mae’n well ymrwymo i swm bach, ymarferol na cheisio’n rhy galed a rhoi’r gorau iddi.
Os yw’ch incwm yn amrywio o fis i fis neu hyd yn oed o wythnos i wythnos, neilltuwch swm rydych yn gwybod y gallwch gadw ato, waeth pa mor fach y mae’n teimlo. Gallwch bob amser ychwanegu ato yn ddiweddarach. Y nod yw peidio â chyffwrdd yr arian yr ydych wedi’i neilltuo.
Awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau cynilo
- Dechreuwch mewn ffordd syml trwy roi newid mân mewn jar bob wythnos.
- Os yw hyn yn gweithio, neilltuwch ychydig yn fwy yn rheolaidd.
- Os yw hyn yn anodd, cynilwch yr hyn sy’n bosibl i chi mor rheolaidd ag y gallwch. Mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth mawr.
- Ceisiwch gynilo yn gymdeithasol, er enghraifft gyda ffrind, a gwiriwch gyda hwy i weld sut mae’n mynd.
- Gwnewch y cynilo yn weledol trwy olrhain eich cynnydd gyda siart – gallwch roi rhywbeth ar yr oergell neu ar wal eich ystafell wely.
- Defnyddiwch Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog i dynnu swm rheolaidd yn awtomatig o’ch cyflog a’i roi mewn cyfrif cynilo fel na fyddwch byth yn anghofio cynilo.
- Rhowch enw i’ch nod – boed hynny’n daith i’r teulu i’r arfordir yn y DU neu wyliau rhamantus i Rufain, bydd rhoi enw i’ch nod yn eich cymell.
Cuddio eich cynilion
Mae’n bryd dechrau meddwl am le i gadw’ch cynilion.
Mae cyfrifon banc yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel cynilo’ch arian. Efallai y byddwch yn dechrau gyda jar arian – bydd cynilo £10 yr wythnos yn cronni £520 y flwyddyn i chi. Ond, cofiwch drosglwyddo’ch arian i gyfrif cynilo pan fydd swm taclus wedi’i gronni.
Fel hyn, gallwch ennill ychydig o log ar ei ben.
Os nad oes gennych un, gwelwch ein canllaw Sut i agor cyfrif banc
Bydd eich banc yn caniatáu i chi sefydlu cronfa ar wahân ar gyfer eich nod gwyliau ar-lein. Trefnwch un os gallwch oherwydd bydd yn eich helpu i osod targed ac olrhain eich cynnydd.
Dod o hyd i’r cyfrif cynilo gorau
Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da os ydych eisiau dod o hyd i gyfrif cynilo wedi’i deilwra i’ch anghenion.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio gwefannau cymharu i ddod o hyd i gyfrif banc yn ein canllaw Dod o hyd i’r bargeinion gorau gyda gwefannau cymharu prisiau
Dechreuwch eich ymchwil am gyfrif cynilo, drwy ddefnyddio’r wefannau canlynol:
Which?
MoneySavingExpert
Ni fydd y gwefannau cymharu i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.
Mae hefyd yn bwysig gwneud ychydig o ymchwil i’r math o gynnyrch a nodweddion y mae eu hangen arnoch cyn prynu unrhyw beth neu newid cyflenwr.
Disgwyl yr annisgwyl
Mae bron i dri o bob 4 o bobl yn profi o leiaf un gost annisgwyl bob blwyddyn. Pethau megis y car yn methu, y ffwrn yn torri neu hyd yn oed dirwy parcio, gallai hynny fod yn ergyd fawr i’ch nod cynilo.
Y ffordd orau o beidio â chael eich dal allan yw neilltuo ychydig arian i dalu am y costau hyn, hyd yn oed os mai’ch prif nod yw cynilo ar gyfer gwyliau.
Dyma sut i sicrhau bod gennych rywbeth wrth gefn os bydd rhywbeth drud yn digwydd yn annisgwyl:
Rhestrwch dreuliau posibl
Pa dreuliau y credwch a allai godi? A yw’r car yn dangos arwyddion o dreulio, a yw’r boeler neu’r peiriant golchi yn hen iawn?
A allech leihau'r tebygrwydd y bydd cost yn codi, trwy gael gwasanaeth neu yswiriant?
A allwch newid rhywbeth yn rhatach yn y sêl yn awr cyn iddo dorri yn llwyr neu a yw rhywun yn cynnig rhywbeth y byddwch ei angen neu sgil y gallwch gael disgownt arno?
Cyfrifwch faint y byddai cronfa arferol wrth gefn ar eich cyfer.
Gall hyn eich helpu i anelu at rywbeth.
I gael help, gwelwch ein canllaw Cynilion a gyfer argyfwng– Faint sy’n ddigon?
Gwneud cynilo yn arferiad
Hyd yn oed pan fyddwch wedi gorffen cynilo am wyliau, peidiwch â rhoi’r gorau iddi – gellir defnyddio’r arian at gronfa wrth gefn, mynd tuag at wyliau newydd, neu’ch helpu i fyw yn gyfforddus yn y dyfodol.