Mae ISAs arian parod (Cyfrifon Cynilo Unigol) yn gyfrifon cynilo sy'n talu llog yn rhydd o Dreth Incwm. Darganfyddwch sut maent yn gweithio, sut i agor un ac os ydyn nhw'n iawn i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd gallai ISA Arian Parod fod yn addas i chi?
- Sut maent yn gweithio
- Beth i edrych amdano ag ISAs Arian Parod
- Mynediad at eich arian
- Ffioedd ar ISAs arian parod
- A yw ISAs Arian Parod yn saff a diogel?
- Ble i agor cyfrif ISA Arian Parod
- Beth i'w wneud os oes gennych gŵyn am eich ISA Arian Parod
- Beth sy'n digwydd i'ch ISA pan fyddwch farw
- Teclynnau defnyddiol
Pryd gallai ISA Arian Parod fod yn addas i chi?
Gall ISA Arian Parod yn addas i chi os:
- ydych am ennill llog di-dreth ar eich cynilion arian parod
- ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth
- ydych yn 18 oed neu’n hŷn (gweler ISAs i Bobl Iau os ydych chi o dan 18 oed).
Sut maent yn gweithio
Rhannu eich lwfans ISA
Mae'r rheolau a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2024 yn golygu y gallwch nawr agor a thalu i mewn i gynifer o ISAs ag y dymunwch hyd at derfyn cyffredinol o £20,000 ym mlwyddyn dreth 2024/25. Yr eithriad yw eich bod yn dal i fod yn gyfyngedig i un ISA Gydol Oes yn unig gyda chap blynyddol o £4,000.
Gallwch rannu eich lwfans ISA ar draws y pedwar math gwahanol o ISAS - Arian Parod, Stociau a Chyfranddaliadau, Cyllid Arloesol neu Oes.
Gydag ISAs Arian Parod:
- Byddwch yn ennill llog di-dreth ar eich cynilion.
- Gallwch dalu i mewn i fwy nag un ISA Arian Parod y flwyddyn.
- Gallwch drosglwyddo arian o ISA Arian Parod neu Stociau a Chyfranddaliadau i ISA arall gyda darparwr gwahanol cyn belled â'u bod yn hapus i dderbyn y trosglwyddiad sy'n dod i mewn.
- Os byddwch yn codi arian o'ch ISA Arian Parod, nid ydych yn ailosod eich terfyn blynyddol oni bai bod gennych ISA Hyblyg (gweler isod). Er enghraifft, dywedwch mewn un flwyddyn eich bod wedi cynilo hyd at derfyn yr ISA Arian Parod ac wedi tynnu £1,000 yn ôl. Allwch chi ddim ychwanegu at y £1,000 yna yn syth - bydd angen i chi aros am y flwyddyn dreth nesaf.
Trosglwyddiadau ISA Arian Parod – y rheolau
Os ydych chi am newid darparwyr - er enghraifft, os ydych chi'n dod o hyd i ISA arall sy'n cynnig cyfradd llog well - rhaid i chi ofyn i'ch darparwr newydd wneud y trosglwyddiad er mwyn cadw'ch cynilion yn ddi-dreth. Os ydych chi'n tynnu'r arian yn ôl eich hun - hyd yn oed os ydych chi'n rhoi'r arian yn syth i fewn i ISA newydd - byddwch chi'n colli'r statws di-dreth.
Dyma sut mae’n gweithio:
- Er bod yn rhaid i'ch darparwr presennol adael i chi drosglwyddo'ch ISA i gyfrif newydd, efallai na fydd eich darparwr newydd yn derbyn trosglwyddiadau ISA. Gwiriwch cyn i chi benderfynu pa ddarparwr rydych chi am newid iddo. Efallai y bydd eich darparwr presennol yn codi cosb am drosglwyddo. Gwiriwch am unrhyw ffioedd neu daliadau i sicrhau bod trosglwyddo yn dal i fod werth ei wneud.
- Gallwch drosglwyddo eich ISA Arian Parod cyfredol, yn ogystal â'ch ISAs o flynyddoedd blaenorol. Gallwch ddewis trosglwyddo'r cyfan neu rywfaint o'r arian.
- Os oes gennych ISA Stociau a Chyfranddaliadau, gallwch hefyd drosglwyddo arian yn ôl i ISA Arian Parod. Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen drosglwyddo gyda'ch darparwr ISA Arian Parod newydd a fydd wedyn yn trefnu'r trosglwyddiad ar eich rhan.
- Mae ISA Gydol Oes yn talu bonws gan y llywodraeth ar ben unrhyw beth rydych yn ei drosglwyddo iddo hyd at uchafswm o £4,000 y flwyddyn (lwfans 2024/25). Gallwch hyd yn oed drosglwyddo'r arian o ISA Arian Parod. Gweler ein canllaw ar ISAs Gydol Oes am fwy o wybodaeth.
ISAs Hyblyg
Gall darparwyr ISA Arian Parod gynnig cyfleuster hyblyg a fydd yn gadael i chi dynnu a newid arian o'ch ISA, heb leihau'ch lwfans yn y flwyddyn gyfredol, cyhyd â’i fod yn cael ei wneud o fewn yr un flwyddyn dreth. Gall ISAs Stociau a Chyfranddaliadau fod yn hyblyg fel hyn hefyd.
Ni fydd hyn yn leihau'ch lwfans ISA ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Ni fydd pob ISA yn caniatáu i chi wneud hyn a dylech wirio â’ch darparwr ISA bod gan eich ISA y swyddogaeth hon. Nid yw’r hyblygrwydd hwn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ISAs Iau neu’r ISAs Gydol Oes.
Beth i edrych amdano ag ISAs Arian Parod
- Gwyliwch rhag cyfraddau ymlid sy'n uchel am gyfnod byr cyn cwympo i lefel isel. Os gwelwch nad ydych bellach yn ennill cyfradd llog gystadleuol, edrychwch am ISA Arian Parod cyfradd uwch i drosglwyddo iddo. Gallai agor ISAs lluosog o'r un math a throsglwyddo arian iddynt gael bargeinion gwell i chi. Mae rhai darparwyr ISA yn cynnig cyfraddau gwell ar gyfer balansau mwy os ydych chi'n bwriadu cydgrynhoi mwy nag un cyfrif ISA. Ond cadwch lygad allan am daliadau a chosbau
- Mae llawer o ISAs Arian Parod yn gyfrifon mynediad ar unwaith sy'n talu cyfradd llog amrywiol. Ond gall rhai Bondiau Cynilo sy'n cynnig cyfradd sefydlog dros dymor penodol hefyd fod yn ISAs Arian Parod (â'ch arian yn cael ei dalu i gyfrif mynediad ar unwaith unwaith y bydd y bond yn aeddfedu). Peidiwch â chlymu'ch arian oni bai eich bod yn gallu fforddio gwneud hynny neu efallai y bydd rhaid i chi dalu cosbau tynnu'n ôl yn gynnar.
- Byddwch yn ymwybodol o ISAs Arian Parod tymor penodol sy'n cynnig cyfraddau llog uchel iawn. Gyda'r cynhyrchion hyn (a elwir hefyd yn adneuon strwythuredig), rydych yn cymryd gambl ar berfformiad mynegai neu bris nwyddau. Efallai na chewch unrhyw incwm na thwf cyfalaf, a gallai taliadau gael eu tynnu o'ch cyfalaf. Mae hyn oherwydd bod unrhyw enillion ar eich buddsoddiad yn dibynnu ar un neu nifer o reolau - er enghraifft, bydd rhaid i fynegai FTSE 100 gynyddu 5% dros gyfnod o bum mlynedd.
Mynediad at eich arian
- Gyda chyfrifon ISAs Arian Parod dim rhybudd, gallwch godi arian pryd bynnag y byddwch am wneud hynny.
- Gyda chyfrifon ISAs Arian Parod tymor sefydlog, caiff eich arian ei ddychwelyd ar ddiwedd y cyfnod y gwnaethoch ymrwymo iddo (‘y tymor’). Mae rhai cyfrifon yn caniatáu i chi dynnu arian allan yn fuan, ond gall fod cosb am hyn.
Ffioedd ar ISAs arian parod
- Os byddwch yn codi arian yn gynnar o gyfrif tymor sefydlog, mae’n bosibl y codir taliadau arnoch.
- Gall eich darparwr godi cosbau a ffioedd os byddwch yn trosglwyddo eich ISA Arian Parod i ddarparwr arall.
A yw ISAs Arian Parod yn saff a diogel?
Caiff arian parod a roddwch mewn banciau neu gymdeithasau adeiladu awdurdodedig yn y DU - gan gynnwys o fewn ISA Arian Parod - ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae'n werth nodi bod rhai brandiau bancio yn rhan o'r un cwmni awdurdodedig. Er enghraifft, mae Lloyds, Halifax a Bank of Scotland yn frandiau gwahanol ond mae pob un yn rhan o un grŵp bancio.
Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Darganfyddwch fwy am sut mae FSCS yn amddiffyn eich cynilion ar wefan Which? Yn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein callaw am Iawndal os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal
Ble i agor cyfrif ISA Arian Parod
Mae cyfrifon ISA Arian Parod ar gael ar-lein, drwy gangen, drwy’r post neu dros y ffôn, gan ddibynnu ar y cynnyrch a’r darparwr.
Mae'r safleoedd hyn yn lle da i gymharu ISAs Arian Parod:
- Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
- MoneyfactsYn agor mewn ffenestr newydd
- MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'n werth defnyddio mwy nag un gan y gall safleoedd cymharu roi canlyniadau gwahanol.
Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn dewis neu newid darparwr.
Beth i'w wneud os oes gennych gŵyn am eich ISA Arian Parod
Caiff banciau a chymdeithasau adeiladu eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Os oes gennych gŵyn, rhowch gyfle i'r busnes ddatrys pethau yn gyntaf. Os ydych yn anhapus o hyd ac nad yw'ch mater wedi'i ddatrys, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Gweler Sut i gwyno i'ch banc, benthyciwr neu ddarparwr cerdyn am fwy o wybodaeth.
Beth sy'n digwydd i'ch ISA pan fyddwch farw
Os bydd farw eich gŵr, gwraig neu bartner sifil gallwch etifeddu eu cynilion ISA fel lwfans ISAs ychwanegol unwaith ac am byth. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi wedi gwahanu pan fydd eich priod yn marw.
Mae gwerth y lwfans yn hafal i werth yr arbedion ISA sydd gan eich gŵr, gwraig neu bartner sifil sydd wedi marw. Mae'n golygu i bob pwrpas eich bod yn gallu cadw'r arbedion hyn fel ISAs ac felly'n ddi-dreth - hyd yn oed os ydych eisoes wedi defnyddio'ch lwfans ISA eich hun ar gyfer y flwyddyn dreth honno.
Os nad oes priod neu bartner sifil wedi goroesi (er enghraifft, os yw’r etifeddiaeth yn mynd yn syth i blant neu berthnasau eraill), mae cynilion ISA yn pasio i’r ystad ond yn colli eu ISA ‘tax wrapper’. Mae cynilion ISA hefyd yn ddarostyngedig i Dreth Etifeddiant o dan yr un rheolau â gweddill yr ystad.
Gall pob ISA heblaw am ISAs Iau barhau i gynyddu mewn gwerth, heb dreth, am dair blynedd ac un diwrnod o ddyddiad y farwolaeth. Er enghraifft, byddai unrhyw log a enillir ar ôl dyddiad y farwolaeth ond cyn cwblheir y proses profiant yn aros yn ddi-dreth (cyhyd â bod profiant yn cael ei gwblhau o fewn y terfyn tair-blynedd).