Mae cyfrifon ISA Gydol Oes ar gael nawr, ond caewyd yr ISA Cymorth i Brynu i ymgeiswyr newydd ar 30 Tachwedd 2019. Yn y canllaw hwn, rydym yn ystyried manteision ac anfanteision cynilo i ISA Gydol Oes ac ISA Cymorth i Brynu.
Beth sydd yn y canllaw hyn
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ISA Cymorth i Brynu ac ISA Gydol Oes?
ISA Cymorth i Brynu
Ni allwch agor ISA Cymorth i Brynu newydd mwyach. Os oes gennych un eisoes gallwch arbed yn eich ISA Cymorth i Brynu tan 30 Tachwedd 2029, â 12 mis arall i hawlio’ch bonws tan 1 Rhagfyr 2030
- Ar gyfer prynwyr tro cyntaf sydd dros 16 oed ac sy’n gobeithio cynilo i dalu blaendal ar eu cartref cyntaf.
- Mae’r llywodraeth yn ychwanegu 25% at eich cynilion, hyd at fonws o uchafswm o £3,000.
- Gallwch ei ddefnyddio i brynu cartref sy’n werth hyd at £250,000, neu hyd at £450,000 yn Llundain.
- Telir y bonws wrth brynu cartref ac mae’r cyllid ar gael wrth i chi gwblhau.
- Os byddwch yn tynnu’r arian allan am unrhyw reswm ar wahân i brynu eich cartref cyntaf, nid oes unrhyw daliadau i’r llywodraeth ond ni thelir unrhyw fonws ychwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Cymorth i Brynu
ISA Gydol Oes
- Mae'r ISA Gydol Oes wedi'i gynllunio i helpu pobl 18 i 40 oed gynilo ar gyfer eu cartref cyntaf neu ymddeoliad. Gallwch gyfrannu hyd at 50 oed a chael mynediad at yr arian heb gosb am resymau eraill pan fyddwch yn 60 oed.
- Mae'r llywodraeth yn ychwanegu bonws o 25% i'r hyn rydych yn ei gynilo, hyd at £1,000 y flwyddyn os ydych yn cynilo'r uchafswm o £4,000 y flwyddyn.
- Gallwch ei ddefnyddio i brynu cartref sy'n werth hyd at £450,000 yn unrhyw le yn y wlad.
- Mae'r bonws yn cael ei dalu'n fisol, ac mae'r arian ar gael pan fyddwch yn cyfnewid contractau wrth brynu cartref.
- Codir tâl o 25% gan y llywodraeth os byddwch yn tynnu’r arian cyn 60 oed am resymau heblaw am brynu'ch cartref cyntaf, oni bai eich bod gyda afiechyd terfynol gyda llai na 12 mis i fyw.
- Ar ôl 50 oed, ni allwch gyfrannu nac ennill y bonws o 25%, ond mae'ch cyfrif yn aros ar agor ac yn parhau i ennill elw llog neu fuddsoddiad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Gydol Oes
A allaf drosglwyddo fy ISA Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes i ddarparwr arall?
Gallwch, gallwch drosglwyddo'ch ISA Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes o'ch darparwr cyfredol. Bydd angen i chi wirio bod y banc, y gymdeithas adeiladu neu'r undeb credyd rydych am symud iddo yn cynnig yr ISA cyfatebol ac yn derbyn trosglwyddiadau i mewn.
A allaf drosglwyddo fy ISA Arian Parod neu ISA arall i mewn i fy ISA Cymorth i Brynu o hyd?
Gallwch drosglwyddo arian o'ch ISA Cymorth i Brynu i ISA Gydol Oes, ond bydd yn cyfrif tuag at y terfyn o £4,000 y gellir ei roi i mewn yn ystod un flwyddyn dreth.
Gallwch hefyd drosglwyddo arian i'ch ISA Cymorth i Brynu o fath arall o ISA, ond rhaid i chi ddilyn terfynau blaendal misol yr ISA Cymorth i Brynu a thelerau ac amodau eich ISA arall.
Gallai trosglwyddo o ISA Gydol Oes i ISA Cymorth i Brynu arwain at gosb o 25% gan y llywodraeth ar eich cynilion.
Rhaid i ISA Gydol Oes fod ar agor am flwyddyn cyn y gellir ei ddefnyddio, felly bydd newid o ISA Cymorth i Brynu i ISA Gydol Oes newydd yn ailosod y cyfnod aros hwnnw.
Pryd byddaf yn cael fy monws?
Bydd yr ISA Cymorth i Brynu yn talu uchafswm bonws o £400 ar ôl tri mis, unwaith y byddwch wedi cynilo cyfanswm o £1,600. Er enghraifft, gallech adneuo £1,200 yn y mis cyntaf ac yna £200 yn yr ail a'r trydydd mis.
Beth os wyf dros 40?
Os ydych dros 40 neu’n iau na 18 oed, nid ydych yn gymwys i gael ISA Gydol Oes, hyd yn oed os ydych yn brynwr am y tro cyntaf.