Gyda biliau cartrefi’n cynyddu, gall rheoli cyllideb gyfyng fod yn anodd. Yr hyn sy'n aml yn ein taflu oddi ar y cwrs yw'r annisgwyl, ond gall cynilo rheolaidd helpu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pennu eich nod cynilo
Mae rheoli cyllideb dynn yn heriol, beth bynnag yw’ch amgylchiadau ac mae’n hawdd mynd i ddyled ar gyfer pethau fel treuliau gwyliau neu gostau annisgwyl fel trwsio car neu beiriant golchi’n torri.
Ond mae benthyca’n gwneud pryniannau’n ddrytach, a’n ychwanegu at y straen ar y gyllideb.
Ffordd dda i ddelio â threuliau annisgwyl yw cynilo ychydig bob mis er mwyn adeiladu cronfa frys.
Gweithio allan faint i’w gynilo bob mis
Os nad ydych yn siŵr faint gallwch fforddio ei gynilo, dechreuwch yn fach – efallai trwy roi eich newid mewn jar bob wythnos yn unig.
Os yw hynny’n gweithio, ceisiwch neilltuo ychydig yn fwy yn rheolaidd.
Byddwch yn realistig – mae’n well ymrwymo i swm llai rydych yn hyderus y gallwch ddod i ben â’i gynilo na swm uwch fydd yn eich digalonni.
Gosodwch darged i chi’ch hunan: ystyriwch gronfa argyfwng o £200.
Ar ôl i chi gyflawni honno, codwch y bar ac ewch am swm uwch.
Pan fydd argyfwng yn codi, defnyddiwch y gronfa argyfwng, ond yna parhewch i gynilo er mwyn ei chodi eto. Mae’n syniad da i geisio cael o leiaf tri mis o dreuliau’r cartref fel cronfa argyfwng.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion argyfwng – faint sy’n ddigon?
Dechrau arni â’ch cynilo
Awgrym da
Sefydlwch daliad rheolaidd (debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog) i drosglwyddo swm penodol yn awtomatig i’ch cynilion bob mis.
Tra bydd yn iawn i ddechrau cynilo arian mewn jar, ar gyfer diogelwch, mae’n syniad da i ystyried sefydlu cyfrif cynilo.
Bydd gwneud hynny yn cadw’r arian yn ddiogel, ar gyfer argyfyngau, a lleihau’r temtasiwn i’w wario ar fympwy, a gallech hefyd ennill ychydig o log.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i ddechrau ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo sy’n addas i’w hanghenion.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Dod o hyd i’r cynigion gorau â gwefanau cymharu prisoedd
Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.
Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Mae’r gwefannau canlynol yn lle da i ddechrau â chwilio am gyfrif cynilo:
Which?
MoneySavingExpert
Gwylio eich cynilion yn tyfu
Gwiriwch eich cynydd bob ychydig o fisoedd.
Adolygwch eich cyfrif cynilo o leiaf unwaith y flwyddyn i wirio eich bod yn cael y gyfradd llog gorau.
Gwnewch y mwyaf o ISAs arian parod sydd gyda lwfans blynyddol o £20,000 fel nad ydych yn talu treth diangen.
Mae nifer o gyfrifon ISA yn eich temtio â bonws ar gyfer y misoedd neu'r flwyddyn gyntaf, ond wedyn yn mynd yn ôl i gyfraddau isel iawn.
Beth i’w wneud
- Paratowch ar gyfer yr annisgwyl – mae’n digwydd trwy’r amser.
- Agorwch gyfrif cynilo os nad oes gennych gyfrif eisoes – ewch ar-lein neu ewch i’ch banc neu gymdeithas adeiladu.