Mae safleoedd cymharu yn eich helpu i ddod o hyd i'r fargen orau ar bopeth o nwy a thrydan i fand eang a chyfrifon banc. Dyma'r cyfan rydych angen ei wybod.
Cael y gorau o wefannau cymharu
Sut i ddod o hyd i’r bargeinion gorau
I gael y fargen orau o wefan gymharu, mae angen i chi ddeall sut maent yn gweithio a pham y gallai fod angen i chi ddefnyddio sawl gwefan i gymharu prisiau.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Sut orau i ddefnyddio safle cymharu prisiau
Dyma awgrymiadau cyffredinol safle cymharu:
- Defnyddiwch fwy nag un safle - maent fel arfer yn cynnwys gwahanol fargeinion ac anaml iawn y maent yn cynnig chwiliad marchnad gyfan.
- Rhowch gwybodaeth bersonol gywir - i gael dyfynbrisiau cywir.
- Gwnewch yn siŵr bod y cynnyrch yn addas i'ch anghenion - efallai na fydd y fargen rataf yr orau ac mae rhai darparwyr yn talu i ymddangos ar y brig.
- Efallai nad y gyfradd llog a hysbysebir yw'r un a gewch - ar gyfer benthyciadau a chardiau credyd, bydd y gyfradd a hysbysebir yn gyfradd cynrychioladol, mae hyn yn golygu bod y benthyciwr yn disgwyl i tua hanner o’i gwsmeriaid cael y gyfradd hon. Bydd eich cyfradd yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol pan fyddwch yn gwneud cais.
- Cadwch lygad am flychau ticio a hidlwyr sydd wedi cael eu dewis ymlaen llaw – gall y rhain guddio bargeinion gwell yn anghywir.
- Gwiriwch a allwch gael bargen well drwy fynd at y darparwr yn uniongyrchol.
Ynni (nwy a thrydan)
Er bod y cytundebau ynni sefydlog sydd ar gael ar hyn o bryd yn dal ar yr un lefel â’r cap ar brisiau neu ychydig yn is yn unig, efallai y byddwch am feddwl o hyd am newid i gytundeb sefydlog.
Mae bod ar dariff sefydlog yn golygu y byddwch yn gwybod faint bydd eich bil bob mis, ond mae hefyd yn golygu y gallwch ordalu os yw’r cap yn gostwng.
Mae’n syniad da i wirio prisiau ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu fel Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am gadw'ch costau mor isel â phosibl yn ein canllaw Ffyrdd arbed ynni i leihau eich biliau tanwydd
Band eang, llinell ffôn daear a theledu
Os yw'ch contract presennol wedi dod i ben, yn aml gallwch wneud arbedion mawr trwy newid i gytundeb ffôn, teledu neu fand eang rhatach.
Os ydych yn chwilio am becynnau, gallwch roi cynnig ar 'Bundle'Opens MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd - er dylech bob amser wirio a yw'n rhatach cael pethau ar wahân.
Gallech hefyd edrych ar safleoedd cymharu a gymeradwywyd gan Ofcom Yn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich bil ffôn cartref a'r rhyngrwyd
Contractau ffôn symudol a Sim yn unig
Mae sicrhau eich bod ar y fargen gywir a pheidio â thalu am alwadau, negeseuon testun a data nad ydych yn eu defnyddio, neu'n mynd dros eich lwfans yn rheolaidd, yn ffordd hawdd o leihau costau. Cadwch lygad allan am unrhyw ffioedd os penderfynwch adael contract presennol yn gynnar.
Mae darganfyddwr ffôn symudol rhad MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd a'r teclyn cymharu costau ffôn symudol Which?Yn agor mewn ffenestr newydd yn ddau safle cymharu defnyddiol i roi cynnig arnynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
Cyfrifon banc
Daw llawer o gyfrifon banc gyda manteision fel gorddrafftiau di-log, gwariant tramor am ddim neu arian yn ôl ar filiau. Efallai y bydd rhai hefyd yn cynnig cymhelliant os ydych yn newid eich cyfrif presennol – lle mae'ch holl daliadau yn cael eu symud drosodd yn awtomatig i chi.
Mae ein teclyn cymharu cyfrifon banc HelpwrArian yn eich helpu i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrif.
Am adolygiadau cyfrif cyfredol, gweler canllawiau cyfrif banc Which?Yn agor mewn ffenestr newydd a chyfrifon banc gorau MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd ddefnyddio Tabl Cymharu Cyfrif Cyfredol y Cyngor DefnyddwyrYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae dewis y cyfrif banc cywir
Morgeisi
Mae morgais yn aml yn un o'r ymrwymiadau ariannol mwyaf y byddwch chi'n eu gwneud, felly gall cael y fargen orau arbed miloedd mewn llog i chi.
Gall safleoedd cymharu fod yn ddefnyddiol i gael syniad o'r cyfraddau gorau ar y farchnad. Gall y cyfraddau a ddangosir fod yn ddryslyd gan y byddwch fel arfer yn gweld tri math o gyfradd: cyfradd llog rhagarweiniol neu gychwynnol, cyfradd amrywiol safonol, ac APRC (cyfradd ganrannol flynyddol), sef y gyfradd llog flynyddol cyfartalog y byddech yn ei thalu os ydych yn dal y morgais dros ei dymor cyfan ar ôl i’r gyfradd ragarweiniol ddod i ben.
Mae APRC yn teclyn defnyddiol i ddarparu cymhariaeth ddangosol rhwng un morgais â’r llall gan ei fod yn ystyried cost y benthyg ynghyd â’r holl ffioedd a thaliadau sy’n gysylltiedig â morgais.
Mae gan MoneySavingExpert ganllaw defnyddiol ar sut i ddod o hyd i'r fargen morgais orau, gan gynnwys beth i edrych amdano a phryd i ddefnyddio brocer morgais.
Mae'r gwefannau cymharu y gallwch ymweld â nhw i gymharu morgeisi yn cynnwys:
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am forgais
Cardiau credyd
Gall defnyddio cerdyn credyd yn dda helpu i wella'ch sgôr credyd, ynghyd â chynnig amddiffyniad prynu am ddim.
Mae rhai cardiau hefyd yn cynnig cyfnod llog o 0% ar wariant newydd a/neu falansau a drosglwyddir i'r cerdyn, ac mae gan rai fuddion fel arian yn ôl, pwyntiau teyrngarwch neu wobrau eraill.
Bydd y cerdyn credyd y gallwch ei gael hefyd yn dibynnu a ydych yn cwrdd â meini prawf cymhwyso – er enghraifft, cyflog blynyddol o fwy na £15,000.
I helpu, mae'r rhan fwyaf o safleoedd cymharu yn defnyddio gwirwyr cymhwysedd i ddangos pa gardiau credyd sy'n debygol o'ch derbyn. Ochr yn ochr â gwybodaeth fel y gyfradd ganrannol flynyddol (APR) ac os yw'r cerdyn yn codi ffi fisol neu flynyddol, gallai hyn ddangos eich terfyn credyd disgwyliedig i chi.
Mae'r gwefannau cymharu y gallwch ymweld â nhw i gymharu morgeisi yn cynnwys:
Penderfynwch pa fath o gerdyn credyd sy'n diwallu eich anghenion gyda'n canllaw Sut i ddewis a gwneud cais am gerdyn credyd.
Benthyciadau personol
Os ydych angen benthyg arian, mae gan fenthyciad personol ad-daliadau misol sefydlog felly mae'r ddyled a'r llog yn cael eu clirio ar ddiwedd y tymor - sydd fel arfer yn un i bum mlynedd.
Mae'r rhan fwyaf o safleoedd cymharu yn defnyddio gwirwyr cymhwysedd i ddangos pa fenthyciadau sydd ar gael i chi. Gan ddefnyddio'r manylion rydych yn eu rhoi i mewn, maent yn dod o hyd i'ch ffeil credyd ac yn sganio nifer o fenthycwyr i weld pa rai sydd fwyaf tebygol o fenthyca i chi. Gelwir hyn yn 'gwiriad credyd chwiliad meddal' ac ni fydd yn effeithio ar eich sgôr credyd - gwiriwch hyn yn ofalus pob tro i osgoi “chwiliad caled” yn cael ei nodi ar eich adroddiad..
Ochr yn ochr ag awgrym a fyddwch yn cael eich derbyn, bydd y canlyniadau'n aml yn dangos cymysgedd o gyfraddau 'gwarantedig' - sef y gyfradd y byddwch yn ei chael os gwnewch gais - a'r APR cynrychioliadol (cyfradd ganrannol flynyddol) lle mai dim ond 51% o bobl sydd angen cael hynny, gellir codi mwy ar eraill.
Ni fydd unrhyw wefan yn sganio pob benthyciwr, ac mae gan rai fargeinion unigryw, felly mae'n well cyfuno ychydig, mae gan bob un o’r canlynol wirwyr cymhwysedd:
Siopa cyffredinol, o hanfodion bob dydd i ddodrefn
Gall safleoedd cymharu eich helpu i ddod o hyd i brisiau bargen ar lawer o eitemau.
Er enghraifft, mae IdealoYn agor mewn ffenestr newydd a Google shoppingYn agor mewn ffenestr newydd yn cymharu prisiau ar draws llawer o siopau fel Currys, Argos a John Lewis. Gallwch hidlo trwy ddanfoniad am ddim a dychwelyd am ddim, a gallwch weld prisiau yn y gorffennol a sefydlu hysbysiadau e-bost os bydd prisiau'n gostwng.
Mae Olrhain prisiau Amazon CamelCamelCamelYn agor mewn ffenestr newydd hefyd yn ddefnyddiol i weld a yw cytundeb Amazon presennol wedi bod yn rhatach yn y gorffennol.
Hefyd mae gan MoneySavingExpert awgrymiadau i ddod o hyd i'r prisiau rhataf ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau ac arferion gwael
Os yw bargen yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod. Gall sgamwyr greu hysbysebion argyhoeddiadol nad yw safleoedd cymharu bob amser yn sylwi arnynt. Efallai y bydd cynhyrchion dynwared hefyd yn cael eu pasio i ffwrdd fel y peth go iawn, neu efallai na fydd cyflwr y cynnyrch fel y disgrifiwyd.
Os ydych chi'n ystyried prynu gan fanwerthwr nad ydych yn ei adnabod, mae'n werth gwneud chwiliad cyflym am y cwmni. Edrychwch am adolygiadau cwsmeriaid eraill, lle mae'r cwmni wedi'i leoli ac os yw wedi'i restru ar Dŷ'r CwmnïauYn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol, gallwch hefyd wirio cofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer adolygiadau, gallwch geisio wirio sgoriau cwsmeriaid ar gyfer cwmnïau ar TrustpilotYn agor mewn ffenestr newydd
Mae hefyd gennych amddiffyniad ychwanegol os ydych yn talu gyda cherdyn credyd. Gelwir hyn yn “Adran 75” a gall fod yn teclyn pwerus i adennill arian os aiff rhywbeth o'i le gyda'ch pryniant. Dim ond ar gyfer pryniannau dros £100 (felly £100.01 a throsodd) neu lai na £30,000 (felly £29,999.99 a llai) y mae adran 75 yn berthnasol – os yw eich pryniant yn disgyn y tu allan i hyn mae gennych amddiffyniad ar wahân o’r enw “chargeback”. Mae chargeback hefyd yn berthnasol i bryniadau ar gardiau debyd. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr amddiffyniadau pwerus hyn yn ein canllaw adran 75 a chargeback.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Siopa a thalu'n ddiogel ar-lein