Gyda chyfrif cynilo rheolaidd, byddwch yn ymrwymo i dalu swm penodol i mewn i’r cyfrif bob mis. Yn gyfnewid, mae’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn rhoi cyfradd llog uwch i chi na fuasech yn ei gael â’u cyfrif cyfredol neu gyfrif cynilo cyffredin.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A yw cyfrif cynilo rheolaidd yn addas i chi?
- Sut mae cyfrifon cynilo rheolaidd yn gweithio
- Risg ac elw cyfrifon cynilo rheolaidd
- Cael gafael ar eich arian
- Pa mor ddiogel yw fy nghynilion?
- Sut i gael cyfrif cynilo rheolaidd
- Treth ar eich cynilion
- Os bydd pethau’n mynd o chwith
- Dod o hyd i gyfrif cynilo rheolaidd
- Teclynnau defnyddiol
A yw cyfrif cynilo rheolaidd yn addas i chi?
Cyfeirir atynt hefyd fel ‘cynilwyr misol’ neu ‘gynilwyr rheolaidd’, gallai cyfrif cynilo rheolaidd fod yn addas i chi os:
- nad ydych am fuddsoddi lwmp swm
- ydych am fynd i’r arfer o gynilo’n rheolaidd
- ydych yn cynilo ar gyfer achlysur arbennig fel priodas neu wyliau
- ydych eisiau mwy o log nag y gallwch ei gael â chyfrif cyfredol neu gyfrif cynilo cyffredin.
Sut mae cyfrifon cynilo rheolaidd yn gweithio
Defnyddiwch gyfrif cynilo rheolaidd i ariannu nod ariannol byrdymor.
Mae cyfrifon gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, ond â’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu:
- Mae rhaid i chi dalu i mewn i’ch cyfrif cynilo rheolaidd bob mis – rhwng £10 a £500 yn arferol.
- Mae rhaid i chi wneud nifer ofynnol o daliadau misol – yn aml 10 neu 11 – a gallai’r cyfrif fod â chyfnod sefydlog, blwyddyn dyweder.
- Gyda chyfrifon cynilo rheolaidd banc, fel arfer bydd angen i chi agor cyfrif cyfredol cyn bod yn gymwys am gyfrif cynilo rheolaidd a symudir eich arian i’r cyfrif cyfredol unwaith y daw cyfnod cyfyngedig y cyfrif cynilo rheolaidd i ben.
Risg ac elw cyfrifon cynilo rheolaidd
Ar ddiwedd y cyfnod, byddwch yn cael yr holl arian a dalwyd gennych i mewn i’r cyfrif yn ôl ynghyd â’r llog sydd wedi cronni.
Fel arfer mae’r cyfrifon hyn yn cynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon cyfredol neu gyfrifon dim rhybudd. Mae rhai yn cynnig cyfradd llog sefydlog. Gydag eraill, mae’r gyfradd yn amrywiol.
Gall y gyfradd llog fod yn is os na fyddwch yn cynilo bob mis neu os bydd angen i chi godi arian.
Cael gafael ar eich arian
Mae’r rheolau yn amrywio rhwng cyfrifon. Mae rhai yn caniatáu i chi dynnu arian allan, ond gallent roi cyfradd llog is i chi ar gyfer y mis hwnnw neu am weddill y cyfnod.
Nid yw cyfrifon eraill yn caniatáu tynnu arian allan yn gynnar o gwbl.
Mae’n bwysig gwirio’r rheolau yn ofalus cyn dewis cyfrif cynilo rheolaidd os byddwch yn credu y gallai fod angen i chi gael gafael ar eich arian yn ystod y tymor byr.
Pa mor ddiogel yw fy nghynilion?
Caiff arian parod a roddwch mewn banc, cymdeithas adeiladu neu undebau credyd awdurdodedig yn y DU ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig.
Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Darganfyddwch ba fanciau sy'n rhan o ba gwmnïau awdurdodedig ar wefan Which?
Gwiriwch y ffeithiau yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal?
Sut i gael cyfrif cynilo rheolaidd
Bydd angen i chi gysylltu â banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn uniongyrchol. Mae rhai cyfrifon ond ar gael ar-lein.
Mae rhai eraill, yn enwedig rhai cyfrifon cymdeithasau adeiladu, ar gael trwy ganghennau yn unig.
Os ydych eisiau cyfrif cynilo rheolaidd â banc ac nad oes gennych gyfrif cyfredol â’r banc hwnnw, mae’n debyg y bydd angen i chi agor un.
Os nad oes gennych unrhyw gyfrifon eisoes â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu o’ch dewis, bydd angen i chi ddangos prawf hunaniaeth iddynt a thystiolaeth o’ch cyfeiriad.
Gallech orfod dangos y rhain hefyd os bu’n amser maith ers i chi agor cyfrif presennol.
Treth ar eich cynilion
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael lwfans cynilo personol. Mae hyn yn golygu y gallwch ennill hyd at swm penodol mewn llog ar gynilion bob blwyddyn dreth heb dalu treth:
- £1,000 ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol neu,
- £500 i drethdalwyr cyfradd uwch.
Nid yw trethdalwyr cyfradd ychwanegol yn cael lwfans di-dreth ar gyfer llog cynilion. Mae unrhyw log a enillwch dros eich lwfans yn cael ei drethu ar eich cyfradd treth incwm arferol.
Gweler Sut mae treth ar gynilion a buddsoddiadau yn gweithio am fwy o wybodaeth, gan gynnwys lwfans di-dreth ychwanegol os nad ydych yn talu treth.
Darganfyddwch am dreth ar log cynilion a sut i hawlio’r dreth yn ôl a daloch eisoes ar eich llog cynilion yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Caiff banciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd y DU eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r ‘Prudential Regulation Authority’ (PRA).
Os oes gennych gwŷn dylech roi cyfle i’r busnes ddatrys pethau. Os ydych yn parhau i fod yn anhapus gyda’r mater neu nad yw’r mater wedi cael ei ddatrys gallwch gymryd eich cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Gweler Sut i gwyno am fwy o wybodaeth.
Dod o hyd i gyfrif cynilo rheolaidd
Mae safleoedd cymharu yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi'i deilwra i'w hanghenion. Mae’n syniad da defnyddio mwy nag un gan eu bod yn gallu dangos canlyniadau gwahanol. Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid darparwr.
Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gall fod yn syniad da ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.
Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.