Cyfrifon cynilo i blant

Gyda chyfrif cynilo i blant, mae plant yn dysgu sut i reoli arian – ac mae gan rieni, perthnasau a ffrindiau le i gynilo ar gyfer plentyn maent yn gofalu amdano. 

Cael eich plant i mewn i’r arfer o gynilo

Mae cael eu cyfrif cynilo eu hunain yn gwneud i blant fod yn fwy ymwybodol o arian a gall eu hannog i ddatblygu arferion cynilo da fel oedolion.

Hyd nes y bydd eich plant yn ddigon hen i neilltuo rhywfaint o arian poced neu anrhegion arian pen-blwydd eu hunain, gallwch arbed ychydig iddynt bob mis. Sefydlwch archeb sefydlog i gronni cyfandaliad ar eu cyfer dros ychydig flynyddoedd.

Sut mae cyfrifon cynilo i blant yn gweithio

Mae cyfrifon cynilo plant fwy neu lai yr un fath â rhai oedolion ac yn cael eu cynnig gan fanciau a chymdeithasau adeiladu. Mae ychydig o wahaniaethau, ond yn bennaf maent yn gyfrifon arian parod syml, diogel sydd fel arfer yn talu rhywfaint o log.

Gallwch agor cyfrif cynilo â dim ond £1 ar gyfer unrhyw blentyn hyd at 18 oed.

Gall plant dros saith oed reoli eu cyfrif cynilo eu hunain - yn dibynnu ar y cyfrif, gallant dynnu arian allan a'i dalu i mewn.

Mae hefyd gyfrifon treth-effeithlon o'r enw ISAs i bobl Iau - mwy amdanynt yn nes ymlaen.

Dewis y cyfrif cynilo cywir i blant

Mae dau brif fath o gyfrifon cynilo i blant – cyfrifon mynediad rhwydd neu dim rhybudd a chyfrifon cynilo rheolaidd.

Mynediad rhwydd a dim rhybudd at gyfrifon cynilo i blant

  • Fel y mae’r enw’n ei awgrymu – gallwch chi neu eich plentyn godi neu adneuo arian unrhyw bryd.
  • Fel arfer, cewch gyfradd llog is na mathau eraill o gyfrifon.

Cyfrifon cynilo’n rheolaidd

  • Mae’r rhain wedi’u cynllunio i annog arferion cynilo rheolaidd – mae rhaid i chi gynilo arian yn y cyfrif bob mis, ac efallai na chewch ei dynnu allan yn hawdd.
  • Fel arfer, maent yn talu cyfradd llog uwch na chyfrifon dim rhybudd.
  • Gyda’r rhan fwyaf o gyfrifon, os byddwch yn colli rhai o’r taliadau misol efallai y caiff y gyfradd llog ei gostwng.

Rhoddion am ddim â chyfrifon cynilo i blant

Mae llawer o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig rhoddion am ddim fel teganau neu gadw-mi-gei, â’r nod o demtio plant, ond yn aml mae eu cyfrifon yn talu cyfradd llog isel.

Nid oes dim yn eich atal rhag agor mwy nag un cyfrif – un sy’n cynnig y gyfradd llog orau, a’r llall er mwyn i’r plentyn gael ei rodd am ddim

Treth ar gynilion plant

A oes angen i blant dalu treth?

Fel oedolion, mae gan blant Lwfans Personol ar gyfer treth incwm – £12,570 ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24.

Os bydd eu hincwm blynyddol (gan gynnwys llog) islaw’r swm hwn, ni fydd rhaid iddynt dalu treth arno.

Treth ar arian a roddir gan rieni, ffrindiau a theulu

Gallwch roi unrhyw swm o arian i blentyn, neu ei fuddsoddi ar ei ran, ond os ydych yn rhiant neu’n lys-riant, mae rheolau arbennig yn gymwys:

  • Os ydych wedi rhoi arian i’ch plentyn sy’n ennill dros £100 y flwyddyn mewn llog, difidendau, rhent neu unrhyw incwm arall o fuddsoddiad, codir treth ar y llog fel pe bai’n perthyn i chi. Nid yw hyn yn berthnasol i ISAs i Bobl Iau, Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a Bondiau Plant (a enwir eisoes yn Bondiau Plant.)
  • Nid yw hyn yn gymwys i unrhyw un arall – gall neiniau a theidiau a ffrindiau roi cymaint ag y mynnant. Fodd bynnag, gallai fod goblygiadau treth y byddwch am eu hystyried. Gallai rhoi arian parod ar yr adeg anghywir neu yn y ffordd anghywir olygu y cewch eich erlid gan y dyn treth ar ddyddiad diweddarach.

Cynilion treth-effeithlon i blant

Mae ISAs i Bobl Iau a Bondiau Plant yn ddewis arall ar gyfer bod yn effeithlon â threth.

Gall plant gynilo hyd at £9,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24 yn eu ISA i Bobl Iau, ac ni chodir treth ar y llog.

Gallant gyrchu’r arian pan ydynt yn 18 oed yn unig, a phryd hynny, hwy biau’r arian.

Pa gyfrif cynilo i blant sydd orau i’ch plentyn?

Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi'i deilwra i'w hanghenion.

Nid yw gwefannau cymharu i gyd yn rhoi'r un canlyniadau i chi, felly gallai fod yn syniad da defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu. Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid darparwr.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.