Gall rheoli eich arian gyda’ch gilydd pan rydych mewn perthynas ddifrifol fod yn anodd – darganfyddwch ai cael cyfrif ar y cyd fydd y dewis gorau i chi. Mae gennym wybodaeth hefyd ar sut i reoli biliau, budd-daliadau, a phroblemau ariannol fel cwpl.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pethau i’w hystyried wrth benderfynu sut i reoli eich arian
- Rhannu, talu lwfans neu gadw eich arian ar wahân?
- Peidiwch â chamu i ddyfroedd dyfnion yn syth
- Beth os ydych yn cael Credyd Cynhwysol?
- Beth os yw’ch partner yn gwario gormod o arian?
- Diogelu eich hunan a’ch teulu
- Beth os ydych chi’n ofalwr sy’n ystyried rheoli arian rhywun arall?
Pethau i’w hystyried wrth benderfynu sut i reoli eich arian
Nid oes unrhyw un ffordd ‘sy’n siwtio pawb’
Bydd sut yn union y byddwch yn rheoli eich materion ariannol yn dibynnu ar eich agwedd chi’ch dau tuag at arian.
Efallai y gwelwch rai meysydd ble rydych yn hapus i rannu’r cyfrifoldeb, ond eraill ble mae angen i chi ddod i gyfaddawd.
Cyn i chi ddechrau, ceisiwch ddeall dull o ymdrin ac agwedd eich gilydd tuag at arian.
Bydd hyn yn eich helpu i ganfod meysydd y cytunwch – ac yr anghytunwch – arnynt, er mwyn i chi allu adnabod problemau cyn iddynt godi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Siarad â'ch partner am arian
Byddwch yn ofalus o gadw’ch arian ar y cyd os oes gan un ohonoch hanes credyd gwael
Ni fydd byw gyda rhywun, neu bod yn briod â rhywun sydd â sgôr credyd gwael yn effeithio ar eich credyd chi.
Fodd bynnag, cyn gynted ag yr agorwch gyfrif banc ar y cyd, neu gymryd morgais â’ch gilydd, gallai’ch statws credyd gael ei effeithio.
Er enghraifft, cewch eich sgorio ar y cyd os ymgeisiwch am gredyd. Mae’n syniad da i chi’ch dau wirio eich statws credyd cyn cyfuno eich arian.
Darganfyddwch Sut i wella eich sgôr credyd.
Ymddiriedaeth a thegwch
Pan fyddwch yn agor cyfrif banc ar y cyd byddwch chi’ch dau yn gyfrifol am unrhyw ddyled neu orddrafftiau, felly mae’n hanfodol eich bod yn ymddiried yn eich gilydd.
Mae rhaid i chi fod yn glir ar yr hyn yr ystyriwch yn gyfraniad teg a glynu at hynny.
Cofiwch adolygu unrhyw gytundebau os bydd unrhyw beth yn newid. Er enghraifft, os bydd un ohonoch yn newid swydd, neu os cewch chi blant.
Gosodwch ffiniau a byddwch yn glir ynghylch annibyniaeth
Byddwch yn glir o’r cychwyn cyntaf ynghylch beth rydych yn ei ddisgwyl. Rhowch gynnig ar osod terfyn gwario, fel y bydd angen penderfyniad ar y cyd ar unrhyw beth uwchben y swm hwn cyn i chi ei brynu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn eglur a di-lol ynghylch faint o annibyniaeth fydd gennych eich dau. Yn y modd hwnnw byddwch chi’ch dau yn gwybod ble rydych yn sefyll ac ni fydd angen i chi ddadlau dros unrhyw anghytundebau. Sefydlwch gynllun rhag ofn i bethau fynd o chwith a pheidiwch â bod ofn ysgrifennu hynny i lawr os credwch y bydd hynny’n ei gwneud yn haws i chi lynu ati.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bartneriaid cyfartal
Osgowch sefyllfa ble mae un ohonoch yn unig yn deall eich materion ariannol.
Nid oes ots pa mor ddi-hid y gallai un ohonoch fod o ran rheoli arian, mae gadael i un partner reoli’r holl arian sydd gennych ar y cyd yn beth gwael i chi’ch dau.
Mae dealltwriaeth dda yn golygu byddwch chi’ch dau yn gwybod beth gallwch ei fforddio ac i’r gwrthwyneb a phetai unrhyw beth yn digwydd i un ohonoch, byddai gan y llall syniad da ynglŷn a sefyllfa’r materion ariannol.
Siaradwch â’ch priod neu bartner am arian
Mae’n bwysig gwybod yn union beth sy’n digwydd i’ch arian fel cwpl, felly trafodwch eich materion ariannol gyda’ch partner yn rheolaidd ac yn agored. Bydd hyn o gymorth i chi fod ynghlwm â materion ariannol y cartref, rheoli’ch arian yn gyfrifol a delio ag unrhyw anawsterau gyda’ch gilydd.
Rhannu, talu lwfans neu gadw eich arian ar wahân?
Eich penderfyniad chi yw sut byddwch yn rheoli eich arian pan fyddwch mewn perthynas. Yn gyffredinol, mae pedwar prif ddull y gallwch wneud hyn:
- cadw cyfrifon ar wahân
- rhannu a rheoli popeth fel cwpl
- mae’r prif enillydd yn talu ‘lwfans’ i’r partner
- rhannu rhai cyfrifoldebau ond cadw rhai pethau’n breifat.
Cewch ragor o wybodaeth isod ar sut mae pob dull yn gweithio, ond cofiwch bydd angen i chi feddwl yn ofalus ynghylch pa un sydd fwyaf addas i’ch amgylchiadau.
Cadw eich arian yn gyfan gwbl ar wahân
Os nad oes gennych gyfrif ar y cyd, byddwch chi’ch dau yn cadw eich enillion ar wahân.
Bydd angen i unrhyw filiau rydych yn eu rhannu fel rhent neu forgais gael eu rhannu ar sail pob achos yn ei dro.
Dyma ychydig o ffyrdd o wneud yn siŵr eich bod yn rheoli eich arian yn dda pan fyddwch yn ei reoli ar wahân:
- Cynlluniwch bopeth a chyfathrebwch yn rheolaidd: Drwy wneud hynny byddwch yn gwybod bob amser beth fydd eich incwm a’ch gwariant.
- Penderfynwch sut i rannu’r biliau: P’un ai yw hynny’n 50/50, neu drwy ffordd wahanol, bydd angen i chi fod yn glir ynghylch sut y byddwch yn rhannu’r cyfrifoldeb.
- Rhowch ystyriaeth i’ch partner wrth wneud penderfyniadau ar wariant: Byddwch yn rhannu’r cyfrifoldeb felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn gwario gormod, neu bydd eich partner yn gorfod ysgwyddo unrhyw wahaniaeth er mwyn talu’r biliau.
Rhannu popeth mewn cyfrif ar y cyd
Gallwch gyfuno eich holl incwm i mewn i un pot a defnyddio hyn ar gyfer eich treuliau i gyd, o bethau bach, bob dydd hyd at dalu rhent, morgais a biliau.
Gall hyn wneud cyllidebu’n haws o lawer, ond bydd angen cyfrif ar y cyd arnoch er mwyn iddo weithio’n ddidrafferth.
Drwy wneud hynny, bydd gennych chi’ch dau reolaeth dros yr arian ac yn medru gweld ar beth mae’r llall yn ei wario.
Dyma ychydig o ffyrdd er mwyn gwneud yn siŵr bod rhannu popeth yn gweithio’n dda i chi:
- sicrhewch fod gennych batrymau gwario, arferion ac ymddygiadau tebyg – fel arall byddwch yn anghytuno a dechrau dadlau ynghylch arian
- cytunwch ar drothwy gwario rhyngoch – os ydych eisiau talu am rywbeth sy’n ddrutach na’r trothwy, bydd angen i chi’ch dau gytuno er mwyn osgoi unrhyw fath o ddadlau.
Ei rannu’n fy arian i, dy arian di a’n harian ni’n dau
Pan fyddwch yn rhannu cyfrifoldeb am faterion ariannol, gallai cyfaddawd fod y ffordd orau o fynd ati.
Gallwch agor cyfrif ar y cyd er mwyn gofalu am y biliau, ond cadw eich cyfrifon eich hunain er mwyn talu am y pethau rydych eich hunain eu heisiau.
Mae hon yn ffordd wych o wneud cyllidebu’n haws a byddwch yn cadw peth o’ch annibyniaeth a’ch preifatrwydd.
Dyma ychydig o bethau i’w hystyried pan fyddwch yn penderfynu sut i rannu’r cyfrifoldeb:
- penderfynwch pa filiau i’w talu o’r cyfrif ar y cyd
- penderfynwch ar gyfraniad i’w dalu i mewn i’r cyfrif ar y cyd bob mis, p’un ai yw hynny’n 50/50, neu’n seiliedig ar faint eich incwm
- meddyliwch am eich patrymau, arferion ac ymddygiadau gwario a chytuno ar beth sy’n dderbyniol i chi’ch dau er mwyn i chi allu osgoi anghytuno a dadleuon dros arian
- cytunwch ar faint y gall pob un ohonoch gynilo i'r gronfa cynilion brys ar gyfer biliau annisgwyl a ddaw i fyny. Mae hyn yn ddefnyddiol i osgoi sgyrsiau anodd yn nes ymlaen. Gweler mwy yn ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng – Faint sy’n ddigon?
Mae’r prif enillydd yn talu ‘lwfans’ i’r partner
Os nad oes un ohonoch yn ennill cyflog, neu’n ennill llai na’r llall, gallech gadw cyfrifon ar wahân a chael y prif enillydd yn talu lwfans i’r partner arall.
Gall y prif enillydd drosglwyddo swm wedi’i gytuno bob wythnos neu fis i gyfrif y partner.
Gallwch chi’ch dau benderfynu p’un ai yw’r swm a drosglwyddir yn arian ar gyfer biliau’r cartref ac arian gwario, neu’n arian gwario personol yn unig.
Mae ychydig o bethau i’w trafod cyn dilyn y llwybr hwn:
- gwnewch yn siŵr eich bod chi’ch dau yn teimlo’n gysurus gyda’r syniad
- ni ddylai’r lwfans gael ei ystyried fel ‘ffafr’ – os oes un partner adref yn gofalu am y plant neu’n gweithio yno fel gofalydd – mae hynny’n swydd hefyd
- siaradwch am yr holl fathau o wariant y mae rhaid i’r lwfans eu cwmpasu a gwnewch yn siŵr fod y swm misol neu wythnosol yn ddigon.
Peidiwch â chamu i ddyfroedd dyfnion yn syth
Mae rhannu cyfrif yn gam mawr, felly gallai fod yn syniad da i wthio bys troed i’r dŵr cyn neidio i mewn a rhannu popeth.
Rhowch gynnig ar agor cyfrif ar y cyd heb unrhyw gyfleuster gorddrafft â chi’ch dau yn cyfrannu swm bach bob mis.
Defnyddiwch yr arian i rannu’r cyfrifoldeb am un neu ddau o filiau’r aelwyd er mwyn gweld sut byddwch yn dod yn eich blaenau.
Ar ôl ychydig fisoedd, eisteddwch i lawr a’i drafod er mwyn gweld p’un ai yw’n gweithio’n dda ai peidio. Os ydyw, gallwch gynyddu eich cyfraniadau a dechrau rhannu mwy o’r cyfrifoldeb.
Os oes gennych lawer o arian mewn cynilion, mae’n bosibl y byddwch eisiau agor cyfrif cynilo ar y cyd ble fydd angen i chi’ch dau gytuno cyn y gellir tynnu unrhyw arian ohono.
Mae hwn yn ddull da o ddiogelu rhag un person yn tynnu arian o’r cynilion heb drafod hynny gyda’r llall yn gyntaf.
Darganfyddwch fwy a yw cael cyfrif ar y cyd orau yn ein canllaw Cyfrifon banc ar y cyd
Beth os ydych yn cael Credyd Cynhwysol?
Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi ei sefydlu, bydd y ffordd y byddwch yn cael budd-daliadau yn newid a bydd angen i chi benderfynu ai cael cyfrif ar y cyd yw’r peth gorau i’ch cartref
Darllenwch fwy yn ein canllaw Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau
Beth os yw’ch partner yn gwario gormod o arian?
Os yw’ch priod neu’ch partner yn gwario mwy o arian nag y gallwch ei fforddio, mae’n hanfodol eich bod yn siarad â’ch gilydd. Ni fydd claddu eich pen yn y tywod yn gwneud i’r broblem ddiflannu.
Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar siarad â’ch partner am arianYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Relate.
Os ydych yn barod i daclo’ch gwario gyda’ch gilydd, efallai byddwch yn cael Stop Spending – Tips & tools to help you fight yourself yn defnyddiol ar wefan MoneySavingExpert.
Os bydd sgwrsio yn arwain at ddim ond dadlau (ac yn aml gall problemau mewn perthynas fod yn un o brif achosion gwario cysur), efallai byddwch angen cymorth gan:
- ymgyngorydd,
- ymgynghorydd ar ddyledion; neu
- ymgynghorydd perthnasau.
Os mai dyled afreolus yw'r brif broblem, cysylltwch â gwasanaeth cyngor dyled diduedd am ddim
Diogelu eich hunan a’ch teulu
Efallai y bydd amser yn dod pan na allwch weld golau ar ddiwedd y twnnel.
Os felly, yna mae angen i chi ddiogelu’ch hunan a gweddill y teulu rhag y problemau fydd y gorwario yn eu creu.
Osgowch ddyled ar y cyd
Os oes gennych unrhyw ddyledion ar y cyd, cofiwch eich bod chi’ch dau yn atebol am eu had-dalu’n llawn.
Os nad yw’ch partner yn talu ei siâr, byddwch yn dal i fod yn atebol.
Peidiwch â chytuno i ddyledion ar y cyd newydd oni bai eich bod yn gwbl hapus â’r trefniant, gweler mwy yn ein canllaw Beth rydych angen ei wybod am gymryd benthyciad ar y cyd.
Yn benodol, peidiwch â chytuno i warantu dyledion yn erbyn eich cartref.
Dysgwch sut i leihau neu osgoi fynd i ddyled.
Os ydych yn rhentu gyda’ch partner
Cyn symud i mewn gyda'ch partner gwiriwch pwy sy'n cael ei enwi ar y cytundeb tenantiaeth. Efallai y gwelwch mai chi sy'n gyfrifol am dalu eu cyfran o'r rhent a'r biliau os ydynt yn methu â thalu neu symud allan. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhentu gyda phartner neu gyd-letywyr.
Cadwch eich cerdyn credyd i chi’ch hunan
Er na all cardiau credyd fod ‘ar y cyd’, mae’n gyffredin cael prif ddeiliad cerdyn a defnyddwyr eraill awdurdodedig.
Pan fydd defnyddiwr awdurdodedig yn creu dyled na ellir ei rheoli, cyfrifoldeb y prif ddeiliad yw talu’r ddyled o hyd.
Felly os yw eich partner yn ddefnyddiwr awdurdodedig ar eich cerdyn, ystyriwch ganslo’r caniatâd.
Diogelu’ch statws credyd
Gall cael eich cysylltu â rhywun arall o safbwynt ariannol effeithio ar eich sgôr credyd, gan olygu y bydd yn anodd, o bosibl, i chi gael credyd newydd.
Os gallwch, osgowch gyd-gyfrifon banc, cyd-fenthyciadau a chyd-filiau nes bod sefyllfa gredyd eich partner yn gwella.
Diogelu eich arian os ydych chi'n gwahanu
Os ydych chi wedi bod yn byw gyda'ch gilydd fel cwpl ac yna ar wahân, mae gennych lai o hawliau na chyplau sy'n ysgaru neu'n diddymu eu partneriaeth sifil. Bydd yn haws os gallwch gytuno ar yr hyn rydych chi'n ei rannu - er enghraifft, eich eiddo.
Efallai na fydd datrys eich cyllid rydych yn ei rannu yn syml a gallai gymryd amser. Rydym yn amlinellu rhai camau allweddol i'w cymryd yn ein canllaw Sut i drefnu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn ystyried ysgaru neu ddod â'ch partneriaeth i ben efallai y gallwch ddatrys rhywfaint ohono rhyngoch chi a'ch cyn-bartner neu efallai y bydd angen cyfreithiwr arnoch. Bydd hyn yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys pa mor hawdd y gallwch chi a'ch cyn-bartner siarad am arian. Mae yna drosolwg defnyddiol o'r pethau i'w hystyried yn ein canllaw Sut i gael trefn ar eich arian wrth ysgaru neu ddiddymu.
Diogelu’ch hun rhag camdriniaeth ariannol
Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw’ch partner yn rheoli’ch arian neu’n rhedeg dyledion i fyny yn eich enw, mae hwnnw’n gamdriniaeth ariannol. Ond nid oes eisiau dioddef ar eich pen eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Beth os ydych chi’n ofalwr sy’n ystyried rheoli arian rhywun arall?
Os ydych yn darparu gofal i rywun sydd angen help, efallai eich bod yn ystyried cynnig rheoli eu cyllid. Mae hwn yn gam mawr i'r ddau ohonoch ac yn rhywbeth y dylid meddwl amdano’n ofalus gan y bydd gennych gyfrifoldeb am eu dyfodol ariannol.