Sut mae’r canfyddwr prisiau petrol yn gweithio
Gallwch ddefnyddio’r teclyn hwn i’ch helpu i:
- ddod o hyd i’r tanwydd rhataf yn agos i chi
- aros mor agos â phosibl at eich cyllideb.
Mae’r canfyddwr prisiau petrol yn gofyn i chi:
- ble rydych chi
- y math o danwydd sydd ei angen arnoch chi.
Ni fydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch i ddefnyddio’r teclyn.
Eisiau lleihau eich costau?
Os ydych chi’n poeni am arian, ewch i’n hwb Cymorth gyda chostau byw am arweiniad a chymorth ychwanegol y gallwch ei hawlio i wneud i’ch cyllideb fynd ymhellach.
Efallai bydd y canllawiau a’r teclynnau hyn hefyd yn ddefnyddiol:
O ble mae’r data’n dod?
Mae Llywodraeth y DU yn darparu’r data hwn trwy eu gwasanaeth Canfyddwr Tanwydd sy'n eich helpu i ddod o hyd i’r tanwydd rhataf yn eich ardal chi.
Rhaid i bob un o dros 8,000 o orsafoedd gwasanaeth y DU roi gwybod am ddiweddariadau prisiau o fewn 30 munud i unrhyw newid.
Yna caiff y diweddariadau eu rhannu ar draws teclynnau gwirio prisiau tanwydd ar-lein fel HelpwrArian fel y gallwch gymharu prisiau’n hawdd.
Awgrymiadau ar dorri costau tanwydd
Llenwch ar y ffordd
Y tanwydd rhataf yw’r un nad oes rhaid i chi yrru allan o’ch ffordd amdano. Osgowch yrru mwy na 2 filltir (taith gron) am bob 1c a arbedir fesul litr.
Ffyrdd eraill o gyrraedd yno
Er y gall arbedion bach fesul tanc helpu dros amser, efallai y byddai’n werth cymharu costau trafnidiaeth amgen.
Efallai y bydd rhai pobl yn gallu arbed trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir neu basiau teithio lle bo hynny’n bosibl.
Pan fydd angen i chi yrru
Mae sefydliadau moduro yn awgrymu:
- gwirio pwysedd teiars
- lleihau cyflymder
- gyrru’n esmwyth
- tynnu pwysau ychwanegol yn y gist neu'r raciau/blychau to i leihau llusgiad.