Cyn symud i mewn gydag eraill, gwiriwch pwy sydd wedi'i enwi ar y cytundeb tenantiaeth. Efallai y byddwch chi’n canfod mai chi sy’n gyfrifol am dalu eu cyfran o’r rhent a’r biliau os ydynt yn methu â thalu neu’n symud allan. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod, ynghyd â help gyda rhannu biliau ac anghydfodau.
Deall beth rydych chi'n gyfrifol amdano
Mae cytundeb tenantiaeth yn rhestru'r rheolau a'r cyfrifoldebau y mae angen i chi a thenantiaid eraill eu dilyn. Felly'r peth cyntaf i'w wirio yw sut mae'ch enw wedi'i restru arno:
1. Chi sy'n gyfrifol am eich rhent a'ch difrod eich hun os mai chi yw'r unig un a enwir
Efallai y bydd gennych eich cytundeb tenantiaeth eich hun os ydych yn rhentu:
- ystafell mewn tŷ a rennir, neu
- eiddo cyfan eich hun.
Mae hyn yn golygu mai chi sy’n gyfrifol am eich rhent cytunedig ac unrhyw ddifrod.
Os oes gennych letywr neu’n isosod yr eiddo i denantiaid eraill, bydd angen i chi dalu’r holl rent o hyd os ydynt wedi stopio talu neu wedi symud allan. Gallech hefyd golli eich blaendal am unrhyw ddifrod a achoswyd, hyd yn oed os na wnaethoch ei achosi.
2. Gallech chi fod yn gyfrifol am bobl eraill os ydych chi i gyd yn cael eich enwi
Os yw eich holl enwau ar y cytundeb, fel arfer byddwch yn rhannu'r cyfrifoldebau yn gyfartal. Gelwir hyn yn denantiaeth ar y cyd neu gontract ar y cyd.
Mae hyn yn golygu y gallai eich landlord ofyn i chi dalu am rent rhywun arall os bydd yn methu â thalu. Efallai y bydd angen caniatâd gan bawb rydych yn rhentu gyda nhw hefyd i symud allan yn gynnar.
Os ydych yn rhentu yn: | Gwiriwch eich hawliau tenantiaeth ar y cyd ar: |
---|---|
Lloegr |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
3. Mae gennych lai o hawliau os nad oes gennych gytundeb tenantiaeth neu os nad yw eich enw wedi’i restru
Os ydych yn rhentu ond bod rhywun arall wedi’i enwi ar y cytundeb tenantiaeth, nid ydych yn gyfreithiol gyfrifol am dalu’r rhent nac unrhyw ddifrod. Gallai hyn ddigwydd os ydych chi’n:
- lletywr – byw a rhannu lle gyda’ch landlord
- rhentu gan denant arall yn hytrach na'r landlord (a elwir yn isosod), neu
- byw yng nghartref rhywun arall – fel aelod o’r teulu neu bartner.
Ond gall y person a enwir ar y denantiaeth hefyd:
- ofyn i chi adael heb fawr o rybudd, neu ddim o gwbl
- dod â'r denantiaeth gyfan i ben heb ofyn i chi.
Efallai y gallwch aros yn y cartref, ond fel arfer bydd angen i chi fynd i’r llys oni bai eich bod yn briod â’r person a enwir ar y denantiaeth.
Am fwy o wybodaeth, gweler:
Penderfynu sut i rannu biliau'n deg
Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn rhestru a oes unrhyw filiau wedi’u cynnwys fel rhan o’ch taliad rhent arferol. Os na, eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu sut y byddwch yn talu’r biliau.
Mae'r rhain fel arfer yn cynnwys:
- ynni (nwy a/neu drydan)
- dŵr
- Treth Cyngor neu Gyfraddau
- rhyngrwyd
- Trwydded Deledu (os ydych yn gwylio teledu byw)
- yswiriant cynnwys.
Mae angen enwi o leiaf un person ar bob cyfrif, a elwir yn dalwr y bil.
Penderfynwch pwy fydd hwn a’r cyfrif y byddant yn ei ddefnyddio i dalu. Ystyriwch gyfrif ar y cyd gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn unig – ni fyddai gennych unrhyw hawliau pe bai’r person arall yn gwario’r arian i gyd. Mae hyn hefyd yn cysylltu eich proffiliau credyd, a allai niweidio eich sgôr credyd.
Yna gall pawb sefydlu archeb sefydlog fel bod yr arian yn cael ei symud drosodd yn awtomatig cyn bod y biliau'n ddyledus.
Mae cwblhau cyllideb yn ffordd hawdd o gadw golwg ar eich arian – gall ein Cynlluniwr cyllideb hawdd ei ddefnyddio helpu.
Ffyrdd o rannu biliau
Gallech benderfynu rhannu’r biliau:
- yn gyfartal – felly mae pawb yn talu'r un swm
- yn seiliedig ar ffactorau eraill, megis:
- incwm
- maint ystafell
- defnydd (os yw rhywun yn defnyddio gwasanaeth yn fwy nag eraill).
Mae yna lawer o apiau rhannu biliau am ddim a all eich helpu i'w gyfrifo. Chwiliwch eich siop app a gwiriwch yr adolygiadau.
Eich cyfrifoldebau fel talwr biliau
Os ydych yn penderfynu rhoi eich enw ar y cyfrif, chi fydd yn gyfrifol am dalu’r bil hwnnw ar amser – hyd yn oed os nad yw eraill wedi talu eu cyfran i chi.
I helpu, cytunwch beth fyddai’n digwydd pe na bai rhywun yn gallu talu cyn dod yn dalwr bil, yn ddelfrydol yn ysgrifenedig. Gallai hyn eich atal rhag bod angen mynd i'r llys i hawlio'ch arian yn ôl. Gweler rheoli anghydfodau rhwng tenantiaid am ragor o wybodaeth.
Ni allwch gael eich enwi fel talwr bil heb eich caniatâd, twyll yw hyn. Gweler help os oes rhywun wedi agor cyfrif yn eich enw chi.
Gall taliadau hwyr neu daliadau coll effeithio ar eich statws credyd
Os ydych chi’n talu biliau, bydd llawer o filiau’r cartref yn cael eu cofnodi ar eich ffeil credyd. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych bob amser yn talu ar amser oherwydd gall sgôr credyd da olygu eich bod yn gymwys ar gyfer:
- benthyca rhatach – fel cyfraddau morgais neu fenthyciad is, ac
- ystod ehangach o gynhyrchion – fel cardiau credyd a chyfrifon banc.
Ond bydd methu taliad fel arfer yn niweidio eich statws credyd am flynyddoedd. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd hwyr hefyd.
Os ydych chi'n poeni y byddwch chi'n methu taliad, cysylltwch â'ch darparwr a gofynnwch am help. Efallai y byddant yn cynnig cynllun ad-dalu mwy fforddiadwy i chi, er enghraifft. Gweler siarad â'ch credydwr am fwy o help.
Siopwch o gwmpas am y bargeinion gorau
Oni bai bod rhywun arall yn gofalu am rai biliau, fel cytundeb ‘cynnwys biliau’, rydych chi’n rhydd i ddewis eich darparwyr eich hun.
Fel arfer nid oes angen caniatâd eich landlord i newid oni bai bod gennych unrhyw beth wedi’i osod yn ffisegol, fel cysylltiad band eang ffeibr newydd.
Gweler sut i arbed arian ar filiau cartref am fwy o gymorth. Mae hefyd yn werth gwirio a ydych yn gymwys i gael gostyngiad Treth Cyngor neu ArdrethiYn agor mewn ffenestr newydd
Rheoli anghydfodau rhwng tenantiaid
Os oes gennych anghytundeb, ceisiwch eistedd i lawr gyda phawb i drafod y mater (os ydych yn teimlo'n gyfforddus i wneud hynny). Gallech gyfeirio at eich cytundeb tenantiaeth am y rhestr o reolau a chyfrifoldebau y cytunoch chi i gyd iddynt.
Gwnewch agenda ac ysgrifennwch eich pwyntiau fel nad oes dim yn cael ei golli. Gobeithio y gallwch chi i gyd gytuno’n hawdd ar ateb – efallai na fydd y person rydych chi’n meddwl sydd ar fai wedi sylweddoli neu’n gallu egluro pam ei fod wedi digwydd.
Gweler sut i gael sgwrs am arian i gael awgrymiadau ymarferol. Os nad yw hynny’n gweithio, gallech ofyn am gael cynnwys eich landlord neu asiant gosod eiddo.
Llinellau cymorth am ddim
I siarad â chynghorydd am eich sefyllfa, dewch o hyd i fanylion llinellau cymorth rhad ac am ddim isod:
Os ydych yn rhentu yn: | Dod o hyd i fanylion llinell gymorth am ddim |
---|---|
Lloegr |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
Gallwch hefyd dod o hyd i fanylion cynghorwyr lleol ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd