Gan ddibynnu ar y math o drafferthion y mae rhywun yn eu cael gyda’u harian, gall y cymorth y gallwch ei gynnig gynnwys eu helpu gyda biliau a gwaith papur ac arian bob dydd, hyd at gymryd swyddogaethau pwer atwrnai.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Darparu cefnogaeth anffurfiol
Pan ydych yn helpu i gefnogi rhywun ag anghenion gofal tymor hir, mae'n bwysig ceisio sicrhau eu bod yn gwneud y defnydd gorau o'u harian i ddiwallu'r anghenion hynny.
Gallai hyn olygu:
- rhoi cymorth iddynt gyda’u cynllun gofal
- sicrhau bod unrhyw arian gofal yn cael ei wario’n gall
- sicrhau bod ganddynt arian i’w wario ar eu hoff ddiddordebau a gweithgareddau.
Mae cynllun gofal yn gytundeb ysgrifenedig rhwng y person sydd angen cymorth a’r gweithiwr iechyd proffesiynol a/neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Ei nod yw helpu rheoli iechyd a lles y person o ddydd i ddydd.
Gellir adolygu cynllun gofal unwaith y flwyddyn o leiaf – ac os nad yw’r cynllun yn gweithio neu os bydd pethau eraill ym mywyd y person yn newid.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i reoli arian bob dydd
Os byddwch mewn sefyllfa o fod yn rheoli cyllid gofal personol rhywun a roddwyd gan awdurdod lleol neu’r GIG, mae rhai cyfrifoldebau a goblygiadau ynghlwm â hyn y dylech eu cyflawni.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
Beth os bydd rhywun angen mwy o gefnogaeth?
Mae trefnu i reoli arian ffrind neu aelod o’r teulu yn ffurfiol yn gam mawr i chi’ch dau.
Iddynt hwy, mae’n golygu colli rheolaeth ariannol ac ymddiried eu harian i ofal rhywun arall.
I chi mae’n golygu cymryd cyfrifoldeb am ddyfodol ariannol rhywun arall. Felly nid yw’n rhywbeth i’w wneud heb ei ystyried yn ddwys.
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i chi dybio bod rhywun yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun oni bai bod tystiolaeth i’r gwrthwyneb.
Beth os oes gan yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt ‘ddiffyg gallu meddyliol’, ac nad ydynt wedi eich penodi chi neu rywun arall i weithio’n atwrnai iddynt?
Cymru a Lloegr
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr gallwch wneud cais i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i fod yn ‘ddirprwy’ iddynt.
Yr Alban
Os ydych yn byw yn yr Alban gallwch wneud cais i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Yr Alban) i fod yn ‘warcheidwad’ iddynt.
Gogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch wneud cais i'r 'Office of Care and Protection' (Gogledd Iwerddon) ble rydych angen gwneud cais i fod yn ‘reolydd’ iddynt.
Mae dod yn ddirprwy, gwarcheidwad neu reolydd i rywun rydych yn gofalu amdanynt yn golygu gallwch ddelio â’u materion ariannol yn ffurfiol.
Byddai hyn yn eich galluogi i ddelio, er enghraifft, â’r banc a’r darparwyr gofal ar eu rhan.
Beth os mai’r unig incwm sydd gan yr unigolyn yw Pensiwn y Wladwriaeth a/neu fudd-daliadau lles ac nad oes pwer atwrnai yn bodoli? Yn hytrach na gwneud cais i’r Llys Gwarchod i ddod yn ddirprwy, gwnewch gais i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddod yn benodai.
Mae hyn yn golygu gallwch gael eu hincwm a thalu biliau ar eu rhan. Gallwch wneud hyn hefyd gyda budd-daliadau awdurdod leol, fel budd-dal tai neu fudd-dal Treth Cyngor – mewn geiriau eraill, dylech wneud cais i’r awdurdod lleol i ddod yn benodai.
Mae’n syniad da i feddwl am alluedd meddyliol yn awr a gweithio allan beth allai fod angen i chi a’r person rydych yn gofalu amdanynt ei wneud yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Help i reoli arian bob dydd
Os yw'r person rydych chi am ei helpu wedi colli galluedd meddyliol
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Awgrym da
Peidiwch ag oedi cyn sefydlu pwer atwrnai parhaol oherwydd gall gymryd wythnosau i’w drefnu.
Mae pwer atwrnai yn ddogfen gyfreithiol sy’n gadael i chi roi’r pwer i un neu ragor o bobl i wneud penderfyniadau a rheoli
- eich arian a’ch eiddo, a/neu
- eich iechyd a’ch lles.
Mae enwau’r rhain ychydig yn wahanol ym mhob gwlad o fewn y DU.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’n cael ei galw’n pwer atwrnai parhaus; yn yr Alban mae’n 'continuing power of attorney'; ac yng Ngogledd Iwerddon, 'enduring power of attorney'.
Cyn sefydlu pwer atwrnai parhaus mae rhaid i chi wybod y ffeithiau – y gwahanol fathau, faint mae’n costio, a pha mor hir fydd hyn yn ei gymryd.
Efallai bydd y person rydych yn gofalu amdanynt eisoes wedi sefydlu pwer atwrnai parhaus. Neu efallai eu bod wedi sefydlu pwer atwrnai parhaus oedd ar gael yng Nghymru a Lloegr cyn Hydref 2007, a allai gael ei defnyddio o hyd ond bydd angen ei gofrestru gyda’r Llys Gwarchod ymlaen llaw.