Os na all rhywun sy’n annwyl i chi reoli ei arian oherwydd eu bod wedi colli eu gallu i wneud penderfyniadau, efallai y bydd angen i chi gamu i mewn i helpu. Yn y canllaw hwn, rydym yn ymdrin â chamau gweithredol y gallwch eu cymryd er eu lles pennaf a'r mathau o benderfyniadau ariannol y gallwch eu gwneud ar eu rhan.
Helpu rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol i reoli eu harian
Gwirio os yw rhywun wedi colli galluedd meddyliol
Os yw rhywun sy'n agos atoch yn wynebu heriau, dewch o hyd i ffyrdd ymarferol o asesu a deall eu gallu meddyliol.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Mae galluedd meddyliol yn golygu gallu penderfynu neu weithredu ar eich pen eich hun. Os na all rhywun wneud hyn, ystyrir eu bod yn 'diffyg gallu'.
Mae pawb yn haeddu'r hawl i wneud penderfyniadau am eu bywyd eu hunain. Ond weithiau, oherwydd anaf, salwch neu anabledd, gallai gallu unigolyn i ddeall a gwneud penderfyniadau da gael ei effeithio dros dro neu'n barhaol.
Gall galluedd meddyliol gael ei effeithio gan:
- dementia
- anabledd dysgu difrifol
- anaf i'r ymennydd
- salwch iechyd meddwl
- strôc, neu
- anymwybyddiaeth a achosir gan ddamwain sydyn neu gan anesthetig.
Os yw'n ymddangos bod eich anwylyd wedi colli galluedd meddyliol, y peth cyntaf i'w wneud yw gwirio os yw hyn yn wir.
Gallwch ofyn i feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol y person asesu eu galluedd meddyliol. Byddant yn dilyn canllawiau a nodir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae hyn yn berthnasol unwaith y bydd rhywun yn troi'n 16 oed.
Wrth benderfynu os yw rhywun yn methu gwneud penderfyniad, byddant yn ystyried y cwestiynau hyn:
- A all y person ddeall y wybodaeth sy'n berthnasol i'r penderfyniad?
- A all y person gadw'r wybodaeth yn ddigon hir i wneud y penderfyniad?
- A all yr unigolyn bwyso a mesur y wybodaeth fel rhan o'r broses o wneud penderfyniad?
- A all y person gyfleu eu penderfyniad - boed drwy siarad, iaith arwyddo neu unrhyw ddull arall?
Os gallant wneud y pethau hyn, fel arfer mae hyn yn dangos bod ganddynt alluedd meddyliol. Os hynny, gallant reoli eu harian eu hunain yn gyfreithiol.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am wirio galluedd meddyliolYn agor mewn ffenestr newydd
Mae galluedd iechyd meddwl yn yr Alban yn dod o dan Ddeddf Oedolion ag Analluogrwydd (Yr Alban) 2000. Mae hyn yn berthnasol unwaith y bydd rhywun yn troi'n 16 oed.
Gallwch gysylltu â'r Comisiwn Lles Meddwl i gael gwybod mwy. Am help gyda chyfraith iechyd meddwl ac analluogrwydd, a gofal a thriniaeth:
- ffoniwch eu llinell gyngor ar 0800 389 6809 (mae'r galwadau yn rhad ac am ddim)
- e-bost [email protected], neu
- gallwch ymweld â gwefan Mental Welfare Commission yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Creodd Gogledd Iwerddon Ddeddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016 i ymdrin â materion iechyd meddwl a gallu o fewn un darn o ddeddfwriaeth. Mae hyn yn berthnasol unwaith y bydd rhywun yn troi'n 16 oed.
Daeth Rhan 1 o'r Ddeddf sy'n ymdrin â materion 'amddifadu o ryddid' i rym ar 1 Hydref 2019, ond nid yw llawer o'r Ddeddf mewn grym eto.
Ar hyn o bryd yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfraith gyffredin yn mynnu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau er budd gorau claf os nad oes gan y claf allu.
Darganfyddwch fwy am galluedd iechyd meddwl yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch os oes gan yr unigolyn rydych chi am ei helpu atwrneiaeth
Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i un neu fwy o bobl y maent yn ymddiried ynddynt reoli eu harian yn ffurfiol a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Darganfyddwch sut i wirio am un a beth i'w wneud.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Dim ond tra bod y person rydych chi am ei helpu yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun y gellir sefydlu atwrneiaeth.
Yn dibynnu ar ble mae'r person yn byw, efallai y bydd ganddynt eisoes:
- atwrneiaeth arhosol yng Nghymru a Lloegr (neu atwrneiaeth barhaus os cafodd ei sefydlu cyn 1 Hydref 2007)
- atwrneiaeth barhaus yn yr Alban, neu
- atwrneiaeth barhaus yng Ngogledd Iwerddon.
Os na allant ddweud wrthych, gofynnwch i'w teulu, eu cyfreithiwr neu gwiriwch â'r corff swyddogol lle maent yn byw:
- yng Nghymru neu Loegr: Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus Yn agor mewn ffenestr newyd
- yn yr Alban: Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yr AlbanYn agor mewn ffenestr newyd
- yng Ngogledd Iwerddon: Office of Care and ProtectionYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes atwrneiaeth eisoes yn ei le, cofrestrwch ef (os oes angen) os cewch eich enwi fel yr atwrnai neu cysylltwch â'r atwrnai os nad ydych chi.
Gallwch ddarganfod mwy am atwrneiaeth yn eich gwlad yn ein canllaw Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
Darganfyddwch Beth i'w wneud os nad oes gan y person atwrneiaeth
Beth i’w wneud os nad oes gan y person atwrneiaeth
Os nad oes gan y person rydych chi eisiau ei helpu atwrneiaeth yn ei le, mae angen i chi ddechrau'r broses ar gyfer gwneud cais i'r Llys Gwarchod os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Loegr; Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus os ydych yn byw yn yr Alban; Y Swyddfa Gofal a Diogelu os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Bydd yn rhaid i chi wneud cais ffurfiol i'r asiantaeth gywir, yn dibynnu ar ble rydych chi a'r person rydych chi am ei helpu yn byw.
Bydd yn rhaid i chi dalu ffi ymgeisio, a gall gymryd ychydig fisoedd i ddatrys y gwaith papur yn iawn.
Er mwyn osgoi dryswch, mae'n bwysig gwybod na fyddwch yn cael eich galw'n 'atwrnai' os gwnewch y math hwn o gais. Er y bydd gennych yr un pŵer a chyfrifoldeb ag atwrnai i reoli materion y person sydd wedi colli galluedd meddyliol.
- yng Nghymru a Lloegr, fe'ch gelwir yn ddirprwy
- yn yr Alban, fe'ch gelwir yn warcheidwad
- yng Ngogledd Iwerddon, fe'ch gelwir yn rheolwr.
Ewch i wefan Age UK am fwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd os nad oes gennych atwrneiaethYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, rhoddir gorchmynion llys i ffrind neu berthynas i'r person sydd wedi colli galluedd meddyliol. Ond gallai hefyd fod yn weithiwr proffesiynol fel cyfreithiwr neu gyfrifydd. Bydd gweithwyr proffesiynol fel arfer yn codi ffi i'r person y maent yn rheoli materion iddynt.
Gall y llysoedd hefyd ganiatáu i fwy nag un person ddod yn ddirprwy, gwarcheidwad neu reolwr rhywun.
Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau a gwaith papur ar gyfer eich cais ar y gwefannau hyn:
- yng Nghymru neu Loegr, gwnewch gais am orchymyn dirprwyaethYn agor mewn ffenestr newydd
- yn yr Alban, gwnewch gais am orchymyn gwarcheidiaethYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais i ddod yn reolyddYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'r ffordd rydych chi'n gwneud cais a'r dogfennau sydd eu hangen arnoch yn wahanol ym mhob gwlad. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais. Fel arfer, bydd angen i chi:
- ddweud wrth y person eich bod yn gwneud cais am orchymyn llys i wneud penderfyniadau ar eu rhan
- ddweud wrth bobl sy'n adnabod y person sydd wedi colli galluedd meddyliol
- talu costau llys a ffioedd cofrestru
- cael asesiadau o alluedd meddyliol y unigolyn gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall.
Os ydych chi'n teimlo'n hyderus yn llenwi'r ffurflen, efallai y byddwch chi'n dewis llenwi'r holl ffurflenni eich hun. Os na, ystyriwch gael cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr.
Bydd y llysoedd yn penderfynu pa bwerau fydd gan y dirprwy, gwarcheidwad neu reolwr.
Gallai'r rhain gynnwys:
- rheoli arian bob dydd, gan gynnwys biliau, cyfrifon banc a delio ag yswiriant
- prynu a gwerthu eiddo a threfnu ar gyfer cynnal a chadw ar ei gyfer.
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd anffurfiol o helpu annwylyd i reoli eu harian yn ein canllaw Helpu rywun i reoli ei arian bob dydd
Pan fyddwch wedi cwblhau'r broses o wneud cais, byddwch yn cael dogfen swyddogol yn cadarnhau bod gennych y pŵer i weithredu.
Mae'n syniad da dangos y ddogfen i bob sefydliad yr hoffech ddelio ag ef cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn.
Byddant yn cadw'r manylion ar ffeil, a fydd yn arbed amser i chi yn nes ymlaen.
Pan fyddwch chi'n rheoli arian i rywun arall, mae'n rhaid i chi bob amser:
- wneud penderfyniadau er lles gorau’r unigolyn
- dim ond gwneud y penderfyniadau y mae'r llys yn dweud y gallwch chi eu gwneud
- gymryd gofal wrth wneud eich penderfyniadau.
Mae'n bwysig cadw cyfrifon clir a nodi'r rhesymau pam rydych chi wedi gwneud penderfyniadau. Bydd angen i chi gwblhau adroddiad bob blwyddyn yn esbonio'r penderfyniadau rydych wedi'u gwneud.
- yng Nghymru a Lloegr, GOV.UK cwblhewch eich adroddiad dirpwyYn agor mewn ffenestr newydd
- yn yr Alban, gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yr Alban cwblhewch ffurflen gyfrifYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, gyda’r Office of Care and Protection darganfyddwch fwy am gyflwyno cyfrifYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad i berson ifanc sydd heb alluedd meddyliol
Dysgwch fwy am hawlio budd-daliadau neu reoli Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu ISA Iau ar gyfer person ifanc sydd heb alluedd meddyliol ar ôl iddynt droi'n 18 oed.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Unwaith y bydd eich plentyn yn troi'n 18 oed, mae'n dod yn oedolyn yn gyfreithiol. Mae hyn yn golygu na fydd gennych gyfrifoldeb rhiant mwyach i wneud penderfyniadau drostyn nhw.
I wneud penderfyniad ar ran rhywun sydd wedi troi'n 18 oed, rhaid i chi ofyn am eu caniatâd neu wneud atwrneiaeth.
Os nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i roi caniatâd, rhaid i chi wneud cais i'r llysoedd ddod yn ddirprwy, gwarcheidwad neu reolwr iddynt.
Mae gan GOV.UK becyn cymorth i rieni a gofalwyr wneud penderfyniadau ariannol ar gyfer person ifanc sydd heb alluedd meddyliolYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i berson ifanc ac eisiau rheoli eu budd-daliadau, gallwch wneud cais i ddod yn benodai ar eu rhan i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Dylai unrhyw benderfyniad a wnewch fel penodai wrth ddefnyddio'r budd-dal fod er budd gorau'r person sydd heb alluedd.
Darganfyddwch sut i wneud rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo yn benodai yn:
- Cymru a Lloegr, ar GOV.UK dod yn benodaiYn agor mewn ffenestr newydd
- Yr Alban, yn mygov.scot yn gweithredu ar ran rhywun sy'n gwneud caisYn agor mewn ffenestr newydd
- Gogledd Iwerddon, ar nidirect dod yn benodai ar gyfer nawdd cymdeithasolYn agor mewn ffenestr newydd
Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, byddai Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi cael ei hagor iddo a bydd y llywodraeth wedi ychwanegu arian ato.
Unwaith bydd eich plentyn yn cyrraedd 18 oed, os oes ganddo alluedd meddyliol gallant gael mynediad at yr arian ei hun. Fel rhiant neu warcheidwad, ni allwch gael mynediad awtomatig i unrhyw gyfrif banc ar gyfer eich plentyn, gan gynnwys eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu ISA Iau, hyd yn oed os yw'n anabl neu os nad oes ganddynt alluedd meddyliol.
Os oes gan eich plentyn alluedd meddyliol amrywiol, unwaith y bydd yn 18 oed, gallant sefydlu atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol a fyddai'n gadael i chi reoli eu cyfrifon.
Ond os nad oes ganddynt alluedd meddyliol byddai angen i chi wneud cais i'r llysoedd fel y disgrifir yn yr adran uchod yn y canllaw hwn. Os byddwch yn gwneud hyn cyn i'ch plentyn droi'n 18 oed, ni fydd angen i chi dalu'r ffioedd arferol. Cofiwch y gall y broses hon gymryd sawl mis.