Siarad â’ch partner am arian

Pam mae’n bwysig siarad â’ch partner

Yr amser allweddol i wybod am sefyllfa ariannol eich partner yw pan fydd yn dechrau dod yn rhan o’ch sefyllfa chi.

Yn aml bydd hyn pan fyddwch yn dechrau byw gyda’ch gilydd a thalu biliau ar y cyd. Dyma pryd y gall sefyllfa ariannol eich partner ddechrau cael effaith mwy arwyddocaol ar eich un chi ac i’r gwrthwyneb.

Gall problemau arian godi ar unrhyw adeg mewn perthynas:

  • pan fyddwch yn dechrau caru
  • pan rydych yn penderfynu symud i fyw gyda’ch gilydd
  • pan fyddwch yn penderfynu cael plant
  • pan fyddwch yn prynu tŷ
  • pan fyddwch eisiau ymddeol
  • a hyd yn oed os byddwch yn penderfynu gwahanu.

Ac mae'n bwysig bod materion yn cael eu trafod a'u datrys.

Sut allwch chi daclo gwahanol agweddau neu ysgogiadau tuag at arian

Mae agwedd neu ysgogiad pawb tuag at arian yn wahanol. Efallai’ch bod yn ofalus ac yn cynilo pob ceiniog. Efallai’ch bod yn teimlo bod arian yno i’w wario ac ‘na allwch chi ei gario i’r bedd gyda chi’.

Mae’n gwbl normal i gael barn wahanol am arian - mae pawb ohonom yn dod o wahanol gefndiroedd ariannol.

Sut fyddwn ni’n rheoli’r gwahaniaethau hyn sy’n bwysig.

Symud i mewn gyda’ch gilydd

Os penderfynwch symud i mewn gyda'ch gilydd, y newyddion da yw y gall gostio llai i gyd-fyw a rhannu treuliau na byw ar eich pen eich hun.

Felly, trwy fod yn ‘bartneriaid’ bywyd, bydd gennych gyfleoedd i gynilo a buddsoddi na fyddent ar gael fel arall.

Ond rydych chi am osgoi’r rhwystredigaeth a ddaw os oes gennych chi a’ch partner agwedd a nodau hollol wahanol ynglŷn ag arian.

Mewn gwirionedd, nid yw cyplau byth yn mynd i gytuno ar bopeth. Ond mae gweithio allan beth yw eich gwahaniaethau barn, a all arwain at gyfaddawd.

Y cam cyntaf yw gweithio allan beth yw eich barn ar arian, ac yna llunio cynllun.

Cynilwr neu wariwr?

Ydych chi'n gynilwr neu'n wariwr? Mae rhai pobl yn hapus i fyw gyda chardiau credyd neu orddrafft mawr. Mae rhai eisiau talu am bopeth - gan adael y person arall yn teimlo yn eu ddyled.

Gall fod materion i'w datrys hefyd pan fydd gan un partner incwm llawer uwch na'r llall.

Bydd rhannu penderfyniadau am wario a chynilo - a thrafod arian yn agored - yn helpu i osgoi dadleuon a thensiwn.

Defnyddiwch y cwestiynau hyn i'ch helpu chi i ddeall agweddau chi a'ch partner tuag at arian ac i siarad am eich nodau. Mae'n bwysig meddwl am yr hyn rydych chi'ch dau ei eisiau:

  • a yw'n well gennych chi fyw am heddiw?
  • ydych chi'n hyderus yn rheoli arian?
  • ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cadw golwg ar incwm a gwariant?
  • ydych chi'n hoffi siopa o gwmpas i wneud i arian fynd ymhellach neu i brynu ar ysgogiad?
  • ydych chi'n agored i drafod arian?
  • ydych chi'n teimlo ei bod hi'n bwysig addasu pethau nad ydyn nhw'n hanfodol pan fydd bywyd yn newid?
  • ydych chi'n gofyn am help gyda'ch arian?

Gosod nodau

Gallai gosod nodau gymryd mwy o ymdrech mewn perthynas. Ond maen nhw'n helpu i sicrhau bod y ddau ohonoch chi'n gwybod beth rydych chi'n gweithio tuag ato wrth i chi dyfu eich cyllid.

Byddwch hefyd yn fwy parod ar gyfer y newidiadau hynny sy'n dod ymlaen ac sy'n effeithio ar eich dewisiadau gwariant.

Er enghraifft, os yw'r ddau ohonoch yn penderfynu dechrau teulu. Gall fod yn addasiad mawr pan mae’r teulu’n tyfu ac mae incwm yn gostwng oherwydd tâl mamolaeth neu fabwysiadu neu os yw un partner yn stopio gweithio i ofalu am y plant.

Os yw eich partner ddim eisiau trafod arian gyda chi

Bydd sawl ffordd i chi a’ch partner fod yn gydnaws. Effallai y bydd y ddau ohonoch yn bobl cŵn, yn mwynhau’r un sioeau ar Netflix, neu’n dewis aros gartref ar nos Sadwrn yn hytrach na mynd allan i’r dref.

Fodd bynnag, os oes gennych chi wahanol agweddau neu arferion pan ddaw i arian - gallai hyn achosi straen yn eich perthynas.

Mae canfod ffordd i drafod arian a’ch sefyllfa ariannol yn bwysig. Gall fod yn fater emosiynol i rai. Er enghraifft, gan ysgogi pryderon am reolaeth neu brofiadau drwg yn ystod magwraeth.

Fodd bynnag, mae’n bwysig taclo sgyrsiau anodd.

Os bydd penderfyniad yn effeithio ar y ddau ohonoch yn ariannol - mae angen i chi wneud y penderfyniadau hyn ar y cyd. Po hiraf y byddwch chi gyda'ch partner, y mwyaf tebygol y bydd hyn yn wir.

Gall siarad am arian fod yn hynod rwystredig i'r ddau bartner. Efallai y bydd un yn meddwl eu bod yn cael eu swnian, tra gallai'r llall deimlo bod eu cyllid mewn perygl oherwydd eu partner.

Gallwch leihau'r rhwystredigaeth hon gyda'r tri awgrym da hyn: 

  1. Gwneud hi'n haws i'ch partner - os yw'ch partner yn teimlo bod cyllidebu yn ormod o waith neu'n poeni na fyddant yn gallu cadw ato, ni fyddwch yn gallu gwerthu'r syniad iddynt. Efallai lluniwch gyllideb sylfaenol sy'n cwmpasu'r holl brif bethau, fel eich rhent neu forgais, biliau a bwyd, ac ati. Yna siaradwch am sut y byddwch yn gwario gweddill eich arian. Peidiwch ag anghofio cynnwys rhai eitemau y gallwch chi a'ch partner eu mwynhau, fel noson allan neu arian tuag at bryd o fwyd arbennig wedi'i goginio gartref. Dangoswch i'ch partner nad yw cyllidebu yn ymwneud â mynd heb bopeth rydych yn ei fwynhau.
  2. Newidiwch eich arian gwario dewisol i mewn i arian parod - felly pan fydd yr arian wedi mynd, mae wedi mynd, a does dim cwyno yn gysylltiedig.
  3. Osgoi beio’ch gilydd - yn lle hynny, ceisiwch ddweud wrth eich partner nad yw'r sgwrs hon yn ymwneud â phwy sy'n dda a phwy sy’n ddrwg gydag arian, ond sut y gallwch gyflawni'ch nodau gyda'ch gilydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad ydych am i'ch partner deimlo ei fod yn cael ei farnu am ei arferion gwario. Gall teimlo eich bod yn cael eich barnu arwain at agwedd amddiffynnol, ac na fydd yn eich helpu i gael y gorau o'r sgwrs.

Os yw siarad yn wirioneddol anodd, gallai fod o gymorth i chi neu'ch partner siarad â rhywun annibynnol yn gyntaf:

  • darganfyddwch ffyrdd y gall ein staff hyfforddedig eich helpu ar ein tudalen Cysylltu â ni
  • i gael help gyda phryderon perthynas, gallwch ymweld â wefan Relate
  • mae rhai gweithleoedd yn darparu gwasanaethau a buddion sy'n cynnig cefnogaeth.

Os yw bywyd wedi newid ac mae angen i un ohonoch ofyn i'r partner arall am arian

Efallai y bydd y ddau ohonoch yn ennill arian ar wahân am flynyddoedd. Yna, mwyaf sydyn, gall newid amgylchiadau ddigwydd sy’n golygu fod eich arian personol wedi ei gwtogi neu stopio’n gyfan gwbl. Er enghraifft, beichiogrwydd neu golli swydd,

Er eich bod wedi gweithio fel partneriaeth, yn ariannol, ers blynyddoedd, efallai y bydd rhaid cael sgwrs anodd.  Yn enwedig os bydd un ohonoch yn mynd i orfod dibynnu ar y llall am arian.

Gall y person nad yw'n ennill arian mwyach, neu'n ennill llai yn sydyn, deimlo'n ddi-rym yn y pen draw. Yn enwedig os yw eu partner yn cymryd rheolaeth o'r cyllid. Efallai y byddan nhw'n teimlo'n euog neu fel bod yn rhaid iddyn nhw gyfiawnhau'r hyn maen nhw'n ei wario. Efallai eu bod yn teimlo fel bod yn rhaid iddyn nhw osgoi mynd allan neu wneud pethau sy'n costio arian, fel mynd allan gyda ffrindiau.

Mae’n bwysig cyfathrebu’n onest am eich disgwyliadau ariannol. Mae newid mawr mewn amgylchiadau yn amser perffaith i eistedd i lawr a llunio cyllideb newydd sbon gyda’ch gilydd.  Efallai gosod rhai nodau ariannol cydfuddiannol - ac ailedrych arnynt bob mis.

Unwaith y byddwch wedi llunio cyllideb ac wedi penderfynu ar eich nodau newydd, efallai y byddwch yn gweld bod rhaid i chi gwtogi ar eich gwario. Gwnewch yn siŵr y gwneir hyn fel tîm, yn hytrach na’i fod yn gyfrifoldeb i’r sawl sydd wedi gweld ei gyflog yn lleihau.

Mae hi bob amser yn werth meddwl am sut rydych yn siarad â'ch gilydd am arian oherwydd gall pawb fod yn teimlo'n fwy emosiynol yn ystod y cyfnod hwn. Osgoi dadleuon trwy ddisodli emosiynau (rwy'n credu, rwy'n casáu, rwy'n dymuno) â ffeithiau (Rydyn ni wedi gwario ... Fe wnaethoch chi brynu ... Mae gennym ni XX ar ôl, ac ati).

Os ydych chi’n cael babi, bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol:

Os ydych chi wedi eich diswyddo, bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol:

Os ydych yn cuddio dyledion oddi wrth eich partner

Gall cael dyled drafferthus achosi cryn straen a gwneud i chi deimlo’n unig. Mae’n debyg y bydd ceisio delio gyda’r sefyllfa eich hun trwy ei chadw’n gyfrinach yn gwneud i’r straen yna deimlo’n llawer gwaeth.

Os mai chi sydd â phroblem dyledion yr ydych yn ei chuddio rhag eich partner, trafodwch y mater cyn gynted â phosibl. Cyntaf yn y byd y byddwch yn cynnal y sgwrs, hawsaf yn y byd fydd hi.

Meddyliwch am beth fydd eich partner eisiau ei wybod pan fyddwch yn datgelu hyn. Paratowch eich gwaith papur fel y gall weld y sefyllfa gyfan – a’ch bod yn ystyried y mater o ddifrif. 

Efallai y bydd eich partner yn gofyn:

  • pam wyt ti mewn dyled? beth aeth o’i le?
  • mewn faint o ddyled wyt ti? beth yw’r gyfradd llog?
  • i bwy mae arnon ni arian?
  • oes yna gredydwyr ar dy ôl di?
  • beth wyt ti’n bwriadu ei wneud i ddelio â’r ddyled?

Chwiliwch am amser pan nad oes gennych chi unrhyw gynlluniau, dim byd i fynd â’ch sylw. Er enghraifft, os oes gennych blant ifanc, gwnewch yn siŵr eu bod yn cysgu neu allan. Bydd hyn yn rhoi digon o amser ichi fynd trwy'r holl fanylion.

Mae angen i chi fod yn onest iawn yma. Does dim pwynt cuddio pethau - byddwch yn gwbl onest a chynnwys y cyfan mewn un sgwrs.

Gall cuddio’ch dyledion gael goblygiadau ehangach – efallai nid yn effeithio arnoch chi’n unig, ond gallai graddiad credyd eich partner fod yn y fantol.

Mae hynny oherwydd os oes gennych gyfrif banc ar y cyd, morgais neu gerdyn credyd, er enghraifft, gallai banciau a benthycwyr eraill edrych ar sefyllfa ariannol y ddau berson cyn gwneud penderfyniad.

Gallwch wirio a ydych wedi'ch cysylltu'n ariannol trwy gyrchu'ch adroddiad credyd, sy'n rhad ac am ddim i'w wneud.

Os ydych yn meddwl bod eich partner yn cuddio dyledion oddi wrthych

Os ydych chi’n amau bod eich partner yn cuddio dyledion, mae’n bwysig trafod hyn nawr.

Cymrwch bum munud i ddarllen ein blog ar Nodi arwyddion dyledion trafferthus, sy’n cynnwys:

  • gorwario
  • bod yn ofidus, tawedog neu isel
  • ymddygiad cyfrinachol
  • newid mewn arferion gwario.

Os byddwch yn canfod fod eich partner wedi bod yn cuddio dyledion, mae gennych hawl i fod yn flin. Yn wir, mae’n arferol a dealladwy i fod yn ddig. Fodd bynnag, nid dyma’r amser i ryddhau’r dicter hwnnw. Yn hytrach, rhaid i chi fod yn ymarferol. Gofynnwch i’ch partner am yr holl ffeithiau a ffigurau a chyfrifo’r tolc.

Efallai gofyn iddynt gysylltu ag elusen cyngor ar ddyledion. Byddant yn gallu rhoi cyngor diduedd am ddim ar fynd i'r afael â'r ddyled - fe allech chi wneud hyn gyda'ch gilydd hyd yn oed.

Os ydych chi a’ch partner yn ennill gwahanol symiau

Os oes gwahaniaeth o ran faint ydych chi a’ch partner yn ennill, gallai achosi problemau gydag amser wrth i benderfyniadau ariannol mawr a bach godi.

Mae cyfathrebu'ch anghenion yn gynnar ac yn aml yn ffordd wych o gadw rhwystredigaeth, a brifo teimladau a balchder, i'r lleiafswm.

Os yw'n ei gwneud hi'n anodd gwneud penderfyniadau, a gosod nodau ariannol, mae yna ffyrdd eraill o ddechrau siarad am arian. Mae'n syniad da meddwl am:

Pa filiau sy’n flaenoriaeth a phwy sy’n gyfrifol amdanynt

Er enghraifft, os oes gan eich partner gredyd ar log uchel - efallai y byddwch yn cytuno y dylai flaenoriaethu talu hynny cyn ystyried gwario ar foeth bethau. Efallai y gallwch ei helpu trwy fyw’n rhad eich hun am ychydig fisoedd. Ar yr un pryd, gallai hyn eich helpu i gronni cynilion hefyd.

Nodau byrdymor a hirdymor

Er enghraifft, cynilo ar gyfer gwyliau neu ymddeoliad. Gall penderfynu ar nodau, sefydlu cyllideb, a meddwl yn realistig am beth allwch ac na allwch wneud helpu blaenoriaethu beth sydd wir yn bwysig.

Rheoli eich arian

Trafodwch os dylech fod yn rheoli eich arian ar y cyd, neu ar wahân. Gall cael trefn ar hyn osgoi cur pen a dadleuon ariannol.

Sut fyddwch chi’n rhannu biliau a chynilion ac ati

Er enghraifft, os bydd un ohonoch eisiau rhannu biliau 50/50, ond mae un yn ennill llawer llai na’r llall - efallai y bydd angen i chi leihau eich treuliau.  Galllai hyn amrywio o fwyta llai o fwydydd drud neu fyw rhywle llai drud.

Os ydych chi mewn perthynas newydd, efallai bod gennych chi ymrwymiadau ariannol yn barod neu gyn bartner y buoch yn gysylltiedig iddo’n ariannol. Mae'n werth trefnu eich cyllid fel y gallwch gadw unrhyw ymrwymiadau ariannol eraill ar wahân i'r rhai rydych chi'n eu rhannu gyda'ch partner newydd.

Os ydych yn meddwl bod gan eich partner broblem gamblo

Os yw’ch partner yn gamblo’n gyfrinachol, gall gael effaith ddinistriol ar eich sefyllfa ariannol a’ch perthynas.

Efallai y bydd gennych deimlad annifyr bod rhywbeth o’i le ond nad ydych yn gallu profi fod eich partner yn cuddio problem gamblo. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:

  • a yw’ch partner yn gyfrinachol am ei arian?
  • a yw’ch partner yn dawedog neu’n amddiffynnol ynghylch arian?
  • a yw wedi cymryd camau i guddio cyfriflenni banc?
  • a oes yna arian yn mynd allan o gyfrifon heb esboniad?

Y gwir plaen yw pan fydd gan bartner broblem gamblo, mae nid yn unig yn niweidio ei sefyllfa ariannol ei hun, ond hefyd yn niweidio’r partner a’r teulu ehangach hefyd.

Gall rhywun gyda phroblem gamblo ddefnyddio unrhyw gynilion sydd ganddo neu’r teulu, fynd i ddyled ar gardiau credyd neu hyd yn oed godi ail forgais ar y cartref teuluol.

Y peth cyntaf i’w wneud os ydych chi’n amau bod gan eich partner broblem gamblo yw ceisio help. Mae yna gryn dipyn o gefnogaeth ar gael. 

Os yw eich partner yn rheoli eich arian

Mae gan bawb hawl i gael annibyniaeth ariannol.

Mae’n gam-drin ariannol os yw eich partner yn:

  • rheoli'ch arian
  • rhedeg dyledion yn eich enw chi
  • eich atal rhag bod yn annibynnol yn ariannol neu ennill eich arian eich hun.

Mae’n fwy cyffredin nag a feddyliwch. Yn ôl Refuge, mae un o bob pump o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef cam-drin ariannol mewn perthynas. Ac mae’r math yma o gamdriniaeth bron bob tro yn gysylltiedig i gam-drin corfforol neu emosiynol.

Os ydych chi yn y sefyllfa hon, gallai siarad am arian achosi i’ch partner wneud neu ddweud pethau sy’n creu risg o niwed meddyliol neu gorfforol i chi.

Mae’n bwysig sylweddoli nad oes rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. 

Ble i gael help gyda pherthynas

Efallai y bydd yn haws i chi drafod problemau ariannol gyda rhywun annibynnol os yw’n effeithio ar eich perthynas.

Cymru a Lloegr

Mae gan y GIG tecyn ar eu gwefan sy'n dweud wrthych pa gwnsela perthynas sydd ar gael yn eich ardal chi. Mae rhai gwasanaethau am ddim, ac efallai bydd eraill yn gofyn am rodd yn gyfnewid.

Darganfyddwch fwy ar wefan GIG

Gallwch hefyd gael gwe-gamera 30 munud am ddim gyda chynghorydd hyfforddedig gyda'r elusen Relate Os ydych chi eisiau mwy o sesiynau, mae'n debygol y bydd cost yn seiliedig ar eich incwm.

Gogledd Iwerddon

Gall Relate yng Ngogledd Iwerddon eich rhoi mewn cysylltiad â chwnselwyr yn agos at eich cartref. Darganfyddwch fwy ar y wefan Relate

Yr Alban

Gallwch ddod o hyd i sesiwn gwnsela trwy'r sefydliadau canlynol:

Darganfyddwch fwy

Dewis arall yw defnyddio ap am ddim i helpu i gael y sgwrs i symud. Mae ‘Toucan’ yn un enghraifft. Mae wedi'i gynllunio i gyplau weithio gyda'i gilydd, ac mae'n cynnwys modiwl ar siarad am arian.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.