Mae llawer o gyplau yn cymryd dyled neu fenthyciad ar y cyd. Fel cwpl, er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu benthyg mwy o arian. Ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r risgiau cyn i chi fwrw ymlaen.
Benthyciadau a dyledion y gellir eu cymryd allan ar y cyd
Gellir cymryd sawl math o gredyd ar y cyd. Mae'r rhain yn cynnwys:
cyfrifon banc ar y cyd sydd â chyfleuster gorddrafft
benthyciadau wedi'u gwarantu – fel morgais
benthyciadau heb eu gwarantu – fel benthyciad personol gan fanc neu fenthyciwr arall.
Os ydych yn ystyried benthyca arian ar y cyd, mae'n bwysig bod y ddau ohonoch yn gwneud cyllideb – er mwyn sicrhau y byddwch yn gallu fforddio'r ad-daliadau.
Pwy sy'n gyfrifol am ddyled ar y cyd
Awgrym da
Mae'r rhan fwyaf o gyfrifon banc ar y cyd wedi'u sefydlu mewn ffordd sy'n caniatáu i un person wario arian heb ganiatâd y person arall. Ond gallwch sefydlu cyfrif fel bod yn rhaid i'r ddau ohonoch gytuno cyn y gellir cymryd unrhyw arian allan o'r cyfrif.
Trwy lofnodi cytundeb credyd (contract) ar gyfer benthyciad neu orddrafft gyda rhywun arall, mae’r ddau ohonoch yn cytuno i dalu'r swm cyfan os yw’r un arall yn methu neu’n gwrthod talu.
Nid oes ots pwy a wariodd yr arian, neu sydd bellach yn berchen ar yr eitem neu'r eitemau a brynoch gyda'r benthyciad ar y cyd neu'r gorddrafft.
Gelwir hyn yn 'atebolrwydd ar y cyd ac unigol'. Mae hyn yn golygu bod y ddau ohonoch yn gyfrifol ar y cyd am gydymffurfio a thalu'r hyn sy'n ddyledus.
Felly os nad yw'r person arall yn talu unrhyw beth sy'n ddyledus, gallech fod gorfod talu’r ddyled. Er enghraifft:
Os bydd eich gŵr, gwraig neu bartner yn marw, bydd angen i chi ad-dalu unrhyw forgais ar y cyd o hyd.
Os ydych chi a'ch partner yn gwahanu, gallent barhau i gynyddu dyled ar gyfrif banc ar y cyd os oes cyfleuster gorddrafft - gan eich gadael chi gyda'r bil.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau Sut i ddelio â dyled broblemus a Gwneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio benthyca.
Cardiau credyd
Yn y DU, does dim modd cymryd cardiau credyd allan ar y cyd - hyd yn oed os oes gennych chi a'ch partner gerdyn yr un.
Dim ond prif ddeiliad y cerdyn a lofnododd y cytundeb credyd sy'n gyfrifol am unrhyw beth sy'n cael ei fenthyg ar y cerdyn.
Efallai y bydd prif ddeiliad y cerdyn yn gadael i rywun arall gael cerdyn credyd ar yr un cyfrif.
Ond nid oes gan ddeiliad y cerdyn eilaidd gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud unrhyw daliadau i'r cwmni cerdyn credyd.
Gwneud cais i fenthyca ar y cyd
Os byddwch yn gwneud cais am fenthyciad gyda'ch gilydd, bydd y benthyciwr yn edrych ar eich cofnodion credyd wrth asesu fforddiadwyedd. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn fwy tebygol o gael eich derbyn.
Ond bydd y benthyciad hefyd yn ymddangos ar eich adroddiadau credyd. Mae hyn yn golygu, os oes unrhyw broblemau yn ei ad-dalu, fel taliadau hwyr neu fethu taliadau, bydd eich sgoriau credyd yn cael eu heffeithio.
Gallai hyn effeithio ar eich gallu i fenthyg arian yn y dyfodol. Darganfyddwch fwy, gan gynnwys gwahanu eich hun yn ariannol oddi wrth rywun sydd â sgôr credyd gwael, yn ein hadran Sut i wella eich sgôr credyd.
Gweithredu fel gwarantwr
Os oes rhywun - rhiant fel arfer – yn fodlon gweithredu fel gwarantwr i chi, gall hyn eich helpu i gael benthyciad neu forgais.
Mae bod yn warantwr yn golygu mai chi sy'n gyfrifol am ad-dalu'r benthyciad, os nad yw'r person a gymerodd y benthyciad yn methu neu’n gwrthod.
Ond mae risgiau ariannol difrifol i’r person sy'n gwarantu'r benthyciad.
Mae gan Experian fwy o wybodaeth am fod yn warantwrYn agor mewn ffenestr newydd
Dyled fel cam-drin ariannol
Mae'n bwysig peidio byth â theimlo dan bwysau i gymryd benthyciad ar gyfer, neu gyda, rywun arall - yn enwedig os ydych yn gwybod na allwch ei fforddio.
Os yw'ch partner neu rywun arall yn croni dyledion yn eich enw chi, neu'n pwyso arnoch i fenthyg arian, cam-drin ariannol yw hwn.
Os ydych yn y sefyllfa hon, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel.