Mae pŵer atwrnai yn gadael i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo wneud penderfyniadau ar eich rhan yn ffurfiol os na allwch chi wneud hynny. Boed hynny oherwydd salwch, damwain neu rywbeth arall, mae cael atwrneiaeth yn sicrhau bod eich materion ariannol yn cael eu trin sut y dymunwch, gan roi tawelwch meddwl ac amddiffyniad cyfreithiol i chi.
Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
Beth yw atwrneiaeth?
Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i un neu fwy o bobl yr ydych yn ymddiried ynddynt y pŵer i reoli:
- eich arian a'ch eiddo, a/neu
- eich iechyd a'ch llesYn agor mewn ffenestr newydd
Yn y canllaw hwn, byddwn ond yn canolbwyntio ar atwrneiaeth ar gyfer eiddo ac arian.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
- Dim ond os oes gennych alluedd meddyliol y gallwch wneud atwrneiaeth. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi allu gwneud penderfyniadau drosoch eich hun.
- Mae’n llawer anoddach a drutach i rywun eich helpu gyda’ch arian a’ch eiddo os ydych eisoes wedi colli galluedd meddyliol. Felly, mae’n bwysig gwneud a chofrestru atwrneiaeth ymlaen llaw.
- Heb atwrneiaeth, ni all eich priod, teulu neu ffrindiau wneud penderfyniadau ar eich rhan. Mae cael un yn bwysig ar unrhyw oedran i sichrau bod eich arian yn cael ei drin fel y dymunwch.
- Mae'n bwysig meddwl yn ofalus am bwy rydych chi eisiau eu dewis i reoli eich materion a thrafod eich dymuniadau.
Darganfyddwch fwy am sut i asesu a deall galluedd meddyliol
Yn dibynnu ar ble yn y DU rydych yn byw, gallwch wneud a chofrestru pŵer atwrnai heb ddyddiad dod i ben, gan sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu cynnal hyd yn oed os byddwch yn colli galluedd meddyliol.
Mae gan atwrneiaeth enwau gwahanol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw:
- Atwrneiaeth arhosol yng Nghymru a Lloegr. (Gelwir hyn yn atwrneiaeth barhaus cyn mis Hydref 2007. Ni allwch osod y math hwn mwyach, ond mae’n dal yn ddilys i’w ddefnyddio).
- Atwrneiaeth barhaus ac atwrneiaeth gyfun yn yr Alban
- Atwrneiaeth barhaus yng Ngogledd Iwerddon.
Ond os byddwch yn symud o un wlad yn y DU i wlad arall, mae’r pŵer atwrnai yn dal yn ddilys.
Gallwch hefyd ganiatáu i rywun arall reoli eich materion ariannol am gyfnod dros dro. Gelwir hyn yn bŵer atwrnai cyffredin (neu gyffredinol). Dim ond os oes gennych alluedd meddyliol y mae’n ddilys. Gweler ein hadran ar, Sefydlu atwrneiaeth arferol (cyffredinol)
Gelwir y person sy’n gwneud yr atwrneiaeth yn rhoddwr. Gelwir y person a ddewisir i weithredu ar ei ran yn atwrnai.
Os byddwch yn gwneud atwrneiaeth, rhaid i’r atwrnai neu’r atwrneiod yr ydych wedi’u penodi weithredu er eich budd gorau yn:
- sefyllfaoedd dros dro – er enghraifft, os oes gennych salwch corfforol, os cewch ddamwain sy'n arwain at anaf corfforol, neu os ydych dramor.
- sefyllfaoedd tymor hir – er enghraifft, rydych am gynllunio ar gyfer yr annisgwyl neu wedi cael diagnosis o ddementia a gallech golli'r galluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.
Gallant:
- talu eich biliau ar eich rhan
- talu'r morgais neu'r rhent
- talu am eich gofal
- buddsoddi arian i chi
- hawlio budd-daliadau ar eich rhan
- arwyddo neu derfynu tenantiaeth rhentu i chi
- prynu a gwerthu eiddo, a
- threfnu atgyweiriadau ar gyfer eich eiddo.
Os byddwch yn gwneud ac yn cofrestru atwrneiaeth, ac nad ydych am i’ch atwrnai neu atwrneiod wneud penderfyniadau am eich materion ariannol ar unwaith, gwnewch hynny’n glir yn eich atwrneiaeth. Yn y canllaw hwn, gweler ein hadran Sut i gadw rheolaeth ar eich atwrneiaeth am ragor o wybodaeth.
Darganfyddwch Dewis rhywun i fod yn atwrnai i chi
Dewis rhywun i fod yn atwrnai i chi
Mae bod yn atwrnai yn rôl gyfrifol ac mae’n bwysig meddwl yn ofalus am bwy i’w ddewis. Dilynwch ein harweiniad i'ch helpu gyda'ch penderfyniad.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Mae’n bwysig dewis rhywun rydych chi’n ei adnabod yn dda ac yn ymddiried ynddo. Gallant fod yn:
- ŵr, gwraig neu bartner i chi
- perthynas
- ffrind.
Rhaid i chi benodi rhywun sy'n 18 oed neu'n hŷn ac sydd â'r galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Dylent:
- bod yn barod i weithredu ar eich rhan
- gallu rheoli eu harian eu hunain yn dda
- bod yn ddigon hyderus i wneud penderfyniadau er eich lles gorau
- byw'n lleol fel bod ganddynt ddigon o amser i ddelio ag unrhyw faterion sy'n codi
- eich cefnogi i wneud eich penderfyniadau eich hun
- ystyried eich dymuniadau a'ch teimladau.
Byddwch yn wyliadwrus o ddewis rhywun sy'n hŷn na chi. Flynyddoedd o nawr, efallai nad nhw yw'r person gorau i weithredu ar eich rhan oherwydd eu problemau iechyd eu hunain.
Os nad ydych yn gyfforddus yn dewis rhywun ar gyfer eich atwrneiaeth arhosol, gallwch ofyn i weithiwr proffesiynol fel:
- cyfreithiwr, neu
- cyfrifydd.
Mae hyn yn ddefnyddiol os oes gwrthdaro teuluol neu os nad oes unrhyw un addas i weithredu ar eich rhan.
Mae gweithwyr proffesiynol yn codi tâl am eu hamser, felly trafodwch gostau a manylion gyda nhw cyn sefydlu atwrneiaeth. Mae'r pethau i'w hystyried os ydych yn dewis gweithiwr proffesiynol yn cynnwys:
- y risg os yw'r busnes yn mynd i'r wal
- y risg eu bod yn rhoi'r gorau i weithio neu'n ymddeol.
Gallai penodi mwy nag un atwrnai leihau’r risgiau hyn, ond gallai hyn fod yn ddrud.
Gallwch ddewis mwy nag un person i fod yn atwrnai i chi. Gall hyn fod yn dda:
- rhag ofn na all un ohonynt ei wneud mwyach
- fel nad ydych yn gadael pobl allan o'r broses
- i ledaenu'r gwaith.
Os ydych yn penodi mwy nag un person, gallwch ddewis iddynt weithredu:
- Ar y cyd – rhaid iddynt bob amser wneud penderfyniadau gyda'i gilydd. Mae’n golygu pe bai un ohonyn nhw’n marw, byddai’r atwrneiaeth yn dod yn annilys – oni bai eich bod wedi penodi rhywun i gymryd ei le.
- Ar y cyd ac yn unigol – maent yn gwneud pob penderfyniad gyda'i gilydd neu'n unigol. Mae hyn yn golygu pe bai un ohonynt yn marw, byddai’r atwrneiaeth yn dal yn ddilys.
- Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau a rhai yn unigol – bydd angen gwneud rhai penderfyniadau gyda'i gilydd. Chi sy’n dewis beth yw’r rhain pan fyddwch yn sefydlu’r atwrneiaeth. Os na all rhywun weithredu ar eich rhan mwyach neu os bydd yn marw, ni fydd eich atwrneiod sy’n weddill yn gallu gwneud unrhyw un o’r penderfyniadau ar y cyd – oni bai eich bod wedi penodi rhywun i gymryd ei le.
- Amhenodol – os dewiswch ddau neu fwy o atwrneiod, ond nad ydych yn llenwi’r adran sy’n dweud sut y dylent weithredu, y sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith yw bod yn rhaid iddynt weithredu ar y cyd.
Mae’n bwysig siarad â’r bobl yr ydych yn eu dewis fel eich atwrneiod ac egluro sut yr hoffech iddynt weithredu ar eich rhan.
Mae angen i chi drafod:
- beth sydd ynghlwm
- beth fyddwch chi eisiau iddynt ei wneud
- beth yw eich dymuniadau, a
- ble mae eich holl waith papur.
Darganfyddwch sut ydw i’n gwneud atwrneiaeth?
Sut ydw i’n gwneud atwrneiaeth?
Pan fyddwch chi wedi siarad â'r person neu'r bobl rydych chi am eich cynrychioli chi, dilynwch y camau isod yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd Bydd y gwasanaeth ar-lein yn darparu'r ffurflenni ac yn eich arwain drwy'r broses.
Y ffi gofrestru yw £82.
Rhaid llofnodi'r ffurflenni yn y drefn hon:
- Yn gyntaf, mae angen i'r rhoddwr lofnodi.
- Nesaf, mae ‘darparwr tystysgrif’, nad yw’n berthynas ond sydd wedi adnabod y rhoddwr am o leiaf dwy flynedd neu sy’n weithiwr proffesiynol fel meddyg teulu neu gyfreithiwr, yn cadarnhau’r penderfyniad.
- Yn olaf, mae'r atwrnai penodedig yn llofnodi, ac mae angen tyst ar bob llofnod. Cofiwch y gall y rhan fwyaf o feddygon teulu godi tua £50 am y broses ardystio hon.
Os ydych am siarad â rhywun am wneud atwrneiaeth arhosol, cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad CyhoeddusYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch anfon e-bost atynt gan ddefnyddio [email protected] neu eu ffonio:
Ffôn: 0300 456 0300
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener 9:30am i 5pm
Dydd Mercher 10am i 5pm
Nid yw’n am ddim i ffonio, felly sicrhewch eich bod yn gwirio faint fydd yn ei gostio i chi cyn ffonio.
Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr Alban yn darparu dogfennau safonol ar gyfer sefydlu atwrneiaeth.
Gallwch ei ysgrifennu eich hun, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfreithiwr. Gallwch chwilio am un sy'n arbenigo yn y maes hwn ar wefan Cymdeithas Cyfreithwyr yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Fel rhan o’r broses pŵer atwrnai, bydd angen i chi hefyd fod wedi cael cyfweliad gydag un o’r canlynol:
- cyfreithiwr sydd wedi'i gofrestru i ymarfer y gyfraith yn yr Alban
- aelod gweithredol o Faculty of Advocates
- meddyg meddygol cofrestredig yn y DU sydd â thrwydded i wneud gwaith meddygol.
Mae hyn er mwyn cadarnhau eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn ei wneud. Yna byddant yn cwblhau tystysgrif galluedd, sy’n ffurfio rhan o’ch dogfen pŵer atwrnai.
Pan fydd wedi’i lunio, mae angen i chi (neu’ch cyfreithiwr) gofrestru eich dogfen pŵer atwrnai gyda gwefan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (yr Alban)Yn agor mewn ffenestr newydd Y ffi gofrestru yw £85.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun am wneud atwrneiaeth barhaus, cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch anfon e-bost atynt gan ddefnyddio [email protected] neu eu ffonio ar 0132 467 8300.
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm
Nid yw’n costio dim i lunio atwrneiaeth barhaus, oni bai eich bod eisiau cymorth cyfreithiwr.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ei ddefnyddio heb ei gofrestru tra bod gennych alluedd meddyliol o hyd. Ond mae'n rhaid i chi ei gofrestru gyda'r Swyddfa Gofal a Diogelu cyn gynted ag y bydd eich galluedd meddyliol yn dechrau dirywio. Y ffi gofrestru yw £165.
Er mwyn rhoi atwrneiaeth barhaus i rywun, mae angen i chi lenwi ffurflen benodol, sydd ar gael gan gyfreithiwr neu ddogfennwr sy'n arbenigo mewn dogfennau cyfreithiol.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r ffurflen ddiweddaraf a’i llenwi’n gywir, neu ni fydd yn ddilys. Gall eich cyfreithiwr eich arwain drwy'r broses hon os oes gennych un.
Unwaith y bydd y ffurflen wedi'i llenwi, rhaid i chi a thystion ei llofnodi. Mae angen i’r atwrnai neu atwrneiod ei lofnodi hefyd cyn na fyddwch yn gallu rheoli eich materion ariannol. Ni ddylai atwrneiod weithredu fel tystion i’w gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys copïau o ffurflenni perthnasol, ewch i wefan yr Adran Cyfiawnder
Mae'n bwysig cael y cais yn iawn y tro cyntaf, felly cymerwch ofal i ddilyn y cyfarwyddiadau. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod, gan arwain at oedi a ffioedd ychwanegol i wneud cais arall.
Nid oes angen cyfreithiwr arnoch. Ond os oes gennych anghenion cymhleth neu os ydych yn ansicr o'r broses, fe allech chi ystyried cyngor proffesiynol. Byddwch yn ymwybodol o ffioedd cyfreithiwr.
Bydd teilwra’r atwrneiaeth i’ch anghenion yn fwy defnyddiol i chi a’ch atwrnai neu atwrneiod. Gallwch benderfynu pa bwerau i'w cynnwys neu eu heithrio, gan gadw rheolaeth dros y broses gwneud penderfyniadau.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr ac yn meddwl bod y broses ymgeisio’n anodd, er enghraifft, os oes gennych anabledd dysgu neu awtistiaeth, mae Mencap yn cynnig arweiniad i’ch helpu chi a’ch gofalwr i wneud cais am atwrneiaeth arhosol.
Gweler y Canllaw i Gefnogwyr ar LPA eiddo a materion ariannolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Mencap Trust Company
Os ydych am i rywun ofalu am eich arian am gyfnod dros dro, gallwch roi atwrneiaeth cyffredin iddynt. Mae’n am ddim i’w sefydlu ac nid oes angen ei gofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Nid oes ffurflen, ond mae angen i chi ddefnyddio'r geiriad canlynol:
- Gwneir yr Atwrneiaeth Cyffredinol hwn y diwrnod hwn o (X) gennyf fi (enw llawn y rhoddwr) o (cyfeiriad). Rwy’n penodi (enw llawn atwrnai) o (cyfeiriad) (ar y cyd) / (ar y cyd / ar y cyd ac yn unigol) i fod yn atwrnai/atwrneiod i mi yn unol ag adran 10 o Ddeddf Pwerau Atwrnai 1971.
- “Arwyddwyd gennyf fi fel gweithred, ac a draddodwyd.”
Gellir ei ddefnyddio cyn gynted ag y byddwch yn ei lofnodi. Ond byddwch yn ymwybodol mai dim ond os oes gennych alluedd meddyliol y mae’n ddilys.
Gallwch ddarganfod ffyrdd i rywun eich helpu i reoli eich arian yn anffurfiol yn ein canllaw.
Os ydych ar fudd-daliadau prawf modd penodol fel Cymhorthdal Incwm, gallwch wneud atwrneiaeth am ddim – a elwir yn eithriad.
Os na allwch ei gael am ddim, efallai y gallwch gael gostyngiad o 50% os yw’ch cyflog yn llai na £12,000.
Darganfyddwch fwy am gael atwrneiaeth am ddim neu am bris gostyngol, a’r ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer yr Alban, mae rhagor o wybodaeth am eithriadau ffioedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd atwrneiaeth arhosol neu barhaus yn dod i ben os:
- rydych yn penderfynu dod ag ef i ben, a bod gennych alluedd meddyliol o hyd
- rydych chi a'ch partner yn ysgaru neu'n diddymu eich partneriaeth sifil (oni bai eich bod wedi nodi bod eich cyn briod yn cadw ei awdurdod fel eich atwrnai ac yn parhau i weithredu ar eich rhan)
- mae eich atwrnai yn mynd yn fethdalwr neu'n ymrwymo i Orchymyn Rhyddhau Dyled (DRO)
- mae’r atwrnai’n penderfynu nad yw am fod yn un mwyach ac nad oes gennych atwrnai arall wedi’i enwebu
- os byddwch yn marw, neu os bydd yr atwrnai’n marw neu’n colli galluedd meddyliol ac nad oes atwrnai arall
- mae'r llys yn penodi rhywun arall i wneud penderfyniadau.
Dysgwch fwy am sut i ddod ag atwrneiaeth i ben:
Yng Nghymru a Lloegr: Swyddfa'r Gwarcheidwad CyhoeddusYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban: Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon: y Swyddfa Gofal ac AmddiffynYn agor mewn ffenestr newydd
Dim ond pan fydd gennych alluedd meddyliol y gellir cofrestru atwrneiaeth. Ar ôl hynny, bydd angen i’ch anwyliaid wneud cais i’r llysoedd i gael:
- gorchymyn dirprwyaeth yng Nghymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd
- gorchymyn gwarcheidiaeth yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd, neu
- rheolaeth yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd.
Gall cyflawni hyn fod yn broses hir ac mae’n costio mwy na sefydlu atwrneiaeth. Bydd y llysoedd yn gwirio eich galluedd meddyliol yn ofalus ac ai’r person y gwnaethoch ei ddewis yw’r dewis gorau. Os ydych wedi colli galluedd, mae’n annhebygol y bydd y penderfyniad pwy sy’n gweithredu ar eich rhan yn rhywun y byddwch yn ei ddewis.
Darganfyddwch Sut i gadw rheolaeth ar eich pŵer atwrnai
Sut i gadw rheolaeth ar eich pŵer atwrnai
Mae cymryd rheolaeth o’ch atwrneiaeth yn sicrhau bod gennych chi lais mewn pethau a bod y person cywir wedi’i arfogi i weithredu ar eich rhan.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gallwch ddewis defnyddio’ch dogfen atwrneiaeth i roi cyfarwyddiadau ychwanegol i’ch atwrneiod neu i gofnodi’ch dewisiadau. Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu llythyr o ddymuniadau. Nid yw’n gyfreithiol rwymol ond gall helpu i sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu cyflawni. Er enghraifft:
- rhaid i'm hatwrneiod ymgynghori â chynghorydd ariannol cyn gwneud buddsoddiadau dros £10,000
- Hoffwn i fy anifeiliaid anwes fyw gyda mi cyhyd â phosibl. Os byddaf yn mynd i gartref gofal, hoffwn fynd â nhw gyda mi.
Neu gallwch siarad â’ch atwrneiod ac esbonio sut yr hoffech iddynt weithredu ar eich rhan. Yna bydd eich atwrneiod yn rhydd i wneud penderfyniadau sy’n gywir yn eu barn nhw, a byddan nhw’n gwybod beth fyddech chi ei eisiau.
Gallwch gyfyngu ar awdurdod yr atwrnai neu’r atwrneiod drwy roi amodau yn yr atwrneiaeth.
Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch atwrnai neu atwrneiod beidio â gweithredu tan:
- rydych yn dod yn feddyliol analluog, neu
- nes bod yr atwrneiaeth wedi'i chofrestru.
Wrth feddwl pa bwerau i’w rhoi, mae angen i chi feddwl am y tymor byr a’r tymor hir. Bydd hyn yn sicrhau bod gan eich atwrneiod ddigon o bwerau i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Gallwch ddewis atwrnai wrth gefn i gymryd yr awenau wrth wneud penderfyniadau ar eich rhan, pe bai un o’r atwrneiod ‘gwreiddiol’ yn ymddiswyddo neu’n marw.
Mae dewis atwrnai wrth gefn yn amddiffyn rhag canslo’r atwrneiaeth, os na all y rhai gwreiddiol weithredu mwyach.
Mae gan atwrneiod wrth gefn yr un lefel o awdurdod â’r atwrneiod y maent yn eu disodli. Maent fel arfer yn camu i mewn cyn gynted ag y bydd un o’ch atwrneiod gwreiddiol yn rhoi’r gorau i weithredu ar eich rhan.
Darganfyddwch Beth i'w wneud ag atwrneiaeth
Beth i'w wneud ag atwrneiaeth
Unwaith y bydd atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru, dyma beth i’w wneud nesaf.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Ar ôl i chi wneud eich atwrneiaeth arhosol yn swyddogol, cadwch hi'n ddiogel nes bydd ei hangen arnoch.
Gallwch wneud rhestr o’ch asedau mewn ffeil y gall eich atwrnai neu atwrneiod ei defnyddio i wneud penderfyniadau ariannol.
Cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol o hyd, gallwch:
- newid neu ddiwygio'r hyn sydd yn eich atwrneiaeth
- ychwanegu neu ddileu'r pwerau rydych chi wedi dewis eu rhannu, neu
- newid pwy yw'r atwrneiod.
Darganfyddwch fwy am derfynu neu wneud newidiadau i’ch atwrneiaeth yn ein canllaw
Cofrestrwch gyda'r banciau a darparwyr eraill, fel eich cwmni ynni, o flaen llaw, oherwydd gallai gymryd peth amser i gael mynediad. Gall gofynion amrywio rhwng banciau.
Mae’n bwysig cael copïau ardystiedig o’r atwrneiaeth, sydd wedi’u copïo gan rywun mewn banc neu swyddfa cyfreithiwr. Mae hyn oherwydd efallai mai dim ond hwnnw neu’r gwreiddiol y bydd rhai darparwyr yn ei gymryd, ac efallai na fyddwch mewn perygl o bostio’r ddogfen wreiddiol os mai dyma’ch unig gopi.
Gallwch hefyd sganio eich atwrneiaeth am gopi digidol, rhag ofn y bydd darparwyr yn gofyn i chi ei e-bostio atynt.
Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus teclyn ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd sy’n caniatáu i atwrneiod:
- cysylltu â banciau a darparwyr gofal iechyd yn haws
- gweld yr atwrneiaeth arhosol.