Mae llawer o bobl yn credu bod byw gyda'ch gilydd fel cwpl – hyd yn oed am amser hir neu gyda phlant – yn rhoi'r un hawliau cyfreithiol i chi â bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Nid yw hyn yn wir. Os byddwch chi'n gwahanu, mae gennych chi lai o hawliau mewn gwirionedd na chyplau sy'n ysgaru neu'n diddymu eu partneriaeth sifil. Bydd yn haws os gallwch chi gytuno ar yr hyn rydych chi'n ei rannu – er enghraifft, eich eiddo a'ch meddiannau.
Hawliau partner 'cyfraith gyffredin' wrth wahanu yn y DU
Mae'r syniad o 'briodas cyfraith gyffredin' yn chwedl gyffredin ac nid yw'n berthnasol yn y DU. Fel cwpl di-briod, mae eich hawliau ynghylch arian ac eiddo yn llawer mwy cyfyngedig.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae unrhyw anghydfod ynghylch eiddo fel arfer yn cael ei benderfynu gan bwy sy'n berchen arno'n gyfreithiol a'r hyn y gallwch chi ddangos eich bod chi wedi talu tuag ato neu wedi cytuno iddo. Efallai na fydd bob amser yn teimlo'n deg.
Yn yr Alban, efallai y byddwch chi'n gallu hawlio cyfandaliad os gallwch chi ddangos bod y berthynas wedi eich gadael chi mewn sefyllfa waeth yn ariannol.
Asesu’ch sefyllfa
Mae nifer o gyplau sy’n byw gyda’i gilydd yn gwahanu heb ddefnyddio cyfreithiwr. Yn wahanol i ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil, nid oes proses gyfreithiol i lynu ati.
Ond efallai y byddwch yn dal i ddymuno cael cyngor cyfreithiol neu ddefnyddio cyfryngwr mewn rhai sefyllfaoedd. Mae defnyddio cyfryngwr yn golygu defnyddio person diduedd er mwyn eich helpu i gyrraedd cytundeb. Er enghraifft, os nad ydych chi â’ch cyn bartner yn gallu cytuno am:
- unrhyw ddyledion sydd gennych
- y tŷ roeddech yn byw ynddo
- sut i rannu’r hyn sy’n perthyn i chi, neu
- trefniadau ynghylch eich plant.
Mae sawl ffordd i ddelio â gwahanu:
- Gallwch drefnu’r gwahaniad eich hun yn gyfan gwbl.
- Os ydych o’r farn y gallech hawlio yn erbyn eich cyn bartner neu fod eich cyn bartner am hawlio yn eich erbyn chi, gallwch siarad â chyfreithiwr i gael gwybod beth allwch ei wneud am y peth.
- Gallwch ddefnyddio cyfryngwr i’ch helpu chi a’ch cyn bartner ddod i gytundeb.
Os defnyddiwch gyfreithiwr ar gyfer nifer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a galwadau ffôn – ac yn enwedig os bydd eich achos yn mynd i’r llys – gallai swm y costau cyfreithiol fod yn uchel iawn.
Os ydych chi’n meddwl bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch ond na allwch ei fforddio, mae cymorth ar gael os ydych chi’n gymwys. Gweler ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu.
Cytuno ar faterion ariannol
Gall roi trefn ar y materion ariannol a rennir cymryd peth amser ac efallai na fydd yn broses syml. Ond gall fod yn haws os dilynwch y camau canlynol:
- Rhestrwch bopeth sy'n eiddo i chi – eich cartref, cynilion, car ac eitemau cartref. Fel rheol, mae pethau yn eich enw yn eiddo i chi a phethau yn enw eich cyn-bartner yn eiddo iddyn nhw. Ond nid yw bob amser mor syml â hynny, yn enwedig gyda chartref neu asedau mawr eraill. Mewn rhai achosion, efallai y bydd eich cyn-bartner yn gallu hawlio cyfran yn seiliedig ar yr hyn a gytunwyd rhyngoch chi neu'r hyn a dalodd y ddau ohonoch tuag ato.
- Nodwch yr holl ddyledion. Gydag unrhyw fenthyciad ar y cyd, cerdyn credyd neu orddrafft, rydych chi'ch dau yn gyfrifol am y ddyled gyfan. Os ydych chi'n cael trafferth gyda thaliadau, defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim a chyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu yn agos at ble rydych chi'n byw.
- Cyfrifwch y gwerth. Os nad ydych yn gwybod beth yw gwerth eich eiddo, efallai y bydd angen help arbenigwyr arnoch. Er enghraifft, darganfyddwch beth yw gwerth eich eiddo trwy siarad â gwerthwr eiddo lleol neu edrychwch ar-lein ar wefannau eiddo.
- Cytunwch ar sut i rannu eich meddiannau, gan gynnwys pwy fydd yn talu biliau a benthyciadau. Os na allwch gytuno, edrychwch ar ein canllaw Trefnu cyfrifon banc ar y cyd, yswiriant, biliau a chyllid arall â’ch cyn bartner.
Os na allwch benderfynu ar beth i’w wneud â’ch cartref, bydd yr hyn y gallwch ei wneud - yn rhannol - yn dibynnu ble yn y DU rydych yn byw. Dewch o hyd i fwy yn ein canllaw Rhannu'r cartref teuluol a'r morgais wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw. Os ydych yn rhentu, bydd eich hawliau’n dibynnu fel arfer ar enw pwy sydd ar y denantiaeth. Darganfydddwch fwy yn ein canllaw Rhannu'r cartref teuluol a'r morgais wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw - Cytunwch ar sut y byddwch yn cefnogi’ch plant, os oes plant gennych. Fel rhieni, disgwylir i chi’ch dau dalu tuag at gostau eich plant. Mae cynhaliaeth plant ar wahân i bwy sy'n berchen ar y cartref neu asedau eraill. Dewch o hyd i fwy yn ein canllaw Sut i drefnu cynhaliaeth plant.
Mae’n syniad da i ysgrifennu dogfen (llunio cytundeb) sy’n egluro sut y penderfynoch rannu popeth.
Rydych chi'ch dau'n fwy tebygol o lynu at gytundeb os yw’n un ysgrifenedig, a dylai hynny leihau’r posibilrwydd o ddryswch yn ddiweddarach.
Ystyriwch gael cyngor cyfreithiol, yn enwedig pan fydd eich cartref neu symiau mawr o arian dan sylw. Gall wneud i'ch cytundeb weithio'n well i bawb.
Defnyddiwch ein cyfrifianellau i gychwyn arni
Gall ein Cyfrifiannell ysgariad ac arian eich helpu i weld ble rydych chi’n sefyll, hyd yn oed os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Gallwch ei ddefnyddio i weithio allan beth rydych chi’n berchen arno, yr hyn sy’n ddyledus gennych a sut gallwch chi rannu arian ac asedau a rennir cyn i chi ddechrau unrhyw negodi gyda’ch cyn-bartner.
Pryd y gallech fod angen cymorth cyfreithiol neu broffesiynol
Mae rhai cyplau yn ei chael yn amhosibl cytuno ar sut i rannu’r arian, neu gallant gytuno ar rai pethau ond nid pethau eraill.
Os yw hynny’n wir am eich sefyllfa, gallech elwa o ddefnyddio rhywun diduedd i'ch helpu i ddod i gytundeb - er enghraifft, cyfryngwr.
Dewis arall yw cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.
Gallech fod angen cymorth proffesiynol os:
- gwnaethoch gymryd benthyciad ar gyfer eich cyn barter ac ni all ef neu hi ei dalu’n ôl neu nid yw’n dymuno gwneud hynny
- nid ydych yn berchen ar y cartref ond dymunwch wneud hawliad ariannol yn erbyn eich cyn bartner
- mae gennych chi a’ch cyn bartner fusnes ar y cyd ac ni allwch gytuno ar sut i’w rannu
- rydych chi a’ch cyn bartner yn berchen ar eich cartref ond ni allwch gytuno ar sut i’w rannu
- mae gennych chi a’ch cyn bartner forgais ar y cyd ac ni allwch gytuno ar bwy ddylai dalu beth, neu
- gwnaethoch chi a’ch cyn bartner lunio ‘cytundeb cyd-fyw’ a eglurodd sut y byddwch yn rhannu’ch arian, ond mae ef neu hi wedi mynd yn groes i’w air erbyn hyn.
Gwneud hawliad yn y llys
A yw eich cyn bartner yn gwrthod negodi neu’n anwybyddu’ch hawliau cyfreithiol? Os felly, efallai y bydd angen i chi fynd i’r llys i wneud hawliad yn eu herbyn.
Cymru a Lloegr
Efallai y byddwch yn medru hawlio 'diddordeb buddiol' yn eich cartref neu eiddo arall os yw’ch cyn bartner yn berchen arno ac roedd gennych gytundeb neu ddisgwyliad y byddwch yn rhannu gwerth yr eiddo petaech yn gwahanu.
Mae'n dibynnu ar bethau fel yr hyn y cytunwyd arno gan y ddau ohonoch, ac a wnaethoch gyfrannu at y blaendal, y morgais, neu welliannau mawr i'r cartref. Nid yw talu biliau bob dydd yn unig yn ddigon i roi cyfran o'r eiddo i chi.
Yr Alban
Efallai y byddwch yn gallu gwneud hawliad ariannol yn erbyn eich cyn-bartner os ydych chi wedi bod dan ‘anfantais economaidd’ – neu os ydyn nhw wedi cael ‘mantais economaidd’ – oherwydd y berthynas. Enghreifftiau fyddai os gwnaethoch chi roi’r gorau i weithio i ofalu am blant fel y gallai gyrfa eich cyn-bartner barhau, neu os gwnaethoch chi wario arian ar welliannau i eiddo eich cyn-bartner.
Ni allwch hawlio am daliadau parhaus, ond efallai y byddwch yn gallu gwneud hawliad am gyfandaliad.
Os gwnewch hawliad, rhaid iddo fod o fewn 12 mis i wahanu â’ch cyn-bartner.
Gogledd Iwerddon
Os gwnaethoch chi symud i gartref eich cyn-bartner a'i fod yn berchen arno, efallai y byddwch chi'n gallu hawlio 'buddiant llesiannol' yn yr eiddo – sy'n golygu cyfran o'i werth – os oedd gennych chi'ch dau gytundeb neu ddisgwyliad y byddech chi'n rhannu ei werth pe byddech chi'n gwahanu.
Costau gweithredu yn y llys
Gall y rheolau ynglŷn â pha bryd y gallwch wneud hawliad fod yn gymhleth, felly mae’n beth doeth siarad â chyfreithiwr sy’n arbenigo mewn anghydfodau rhwng cyplau sy’n cyd-fyw ac sy’n gwahanu.
Cofiwch serch hynny y gall dwyn achos llys yn erbyn eich cyn bartner fod yn gostus yn ariannol ac yn emosiynol.
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr:
- Yng Nghymru a Lloegr: ar wefan Resolution (mae ei aelodau wedi ymrwymo i leihau gwrthdaro yn ystod y cyfnod o wahanu) neu ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Yng Ngogledd Iwerddon: ar wefan Cymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon
- Yn yr Alban: ar wefan Cymdeithas Cyfraith Teulu neu ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr yn yr Alban
Os teimlwch fod angen help cyfreithiol arnoch ond ni allwch ei fforddio, edrychwch ar ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Eich cam nesaf
Mae'n werth cael golwg ar ein canllaw Rhannu buddsoddiadau a chynilion pan fyddwch yn gwahanu os oeddech yn cyd-fyw.