Os ydych am dalu â cherdyn, ond nad ydych eisiau cerdyn debyd neu gredyd, efallai mai cerdyn banc rhagdaledig fyddai'r opsiwn cywir. Mae yna lawer i ddewis ohonynt, a gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl ifanc a phobl ar eu gwyliau. Nid oes gwiriad credyd i basio a gallwch ond gwario neu dynnu’r swm rydych wedi rhoi ar y cerdyn.
Beth yw cardiau rhagdaledig?
Mae cerdyn rhagdaledig fel ffôn symudol talu wrth fynd - rydych yn ychwanegu arian iddo ymlaen llaw.
Rydych yn ei ddefnyddio fel unrhyw gerdyn talu arall, mewn siopau neu ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o gardiau rhagdaledig yn gweithio mewn peiriannau arian parod hefyd. Mae’r rhan fwyaf o fanwerthwyr yn ei dderbyn, ond nid yw pob un felly sicrhewch fod gennych ffordd arall i dalu. A byddwch yn ymwybodol na allwch eu defnyddio ar gyfer trafodion sydd angen blaendal diogelwch neu ei gyn-awdurdodi, fel cwmni llogi car, trefnu gwesty a rhai gorsafoedd petrol.
Y gwahaniaeth yw nad yw'r cerdyn wedi'i gysylltu â chyfrif banc. Gallwch dderbyn eich cyflog neu’ch budd-daliadau yn uniongyrchol i’ch cerdyn rhagdaledig, neu lwytho arian parod iddo mewn lleoliadau rhagdalu sy’n cymryd rhan.
Gallwch wario dim ond yr arian rydych yn ei roi arno, felly nid oes ffordd o fynd i orddrafft na phentyrru dyled. Ni fydd eich taliadau yn cael ei nodi ar eich adroddiad credyd, a ni fydd y ffordd yr ydych yn defnyddio’ch cerdyn yn effeithio ar eich sgôr credyd.
Gallwch ddewis y swm o arian rydych am lwytho i’r cerdyn, ond gall fod terfynau dyddiol, wythnosol, neu gyfan i’r swm gallwch ychwanegu. Gall y terfynau yma cael eu hepgor pan rydych yn derbyn taliad uniongyrchol o gronfeydd i’r cerdyn. Gall cardiau fod am ddefnydd undro, fel cardiau anrheg, neu ail-lwythedig.
Taliadau a ffioedd
Nid oes unrhyw ddau gerdyn rhagdaledig yr un peth o ran ffioedd, felly dylech wirio bob amser cyn dewis.
Gall y ffioedd gynnwys:
- ffioedd ymgeisio
- ffioedd atodol
- ffioedd misol
- ffioedd adnewyddu bob tair blynedd - efallai bydd rhai yn codi tâl i roi cerdyn newydd pan fydd yn cyrraedd y dyddiad dod i ben.
- ffioedd peiriannau tynnu arian yn y DU a thramor
- ffioedd trafodion (er enghraifft, 3% o werth pob pryniant)
- ffioedd anweithgarwch – codir tâl arnoch os nad ydych wedi defnyddio’ch cerdyn am gyfnod penodol o amser.
- ffioedd i symud arian heb ei wario yn ôl o’r cerdyn
Chwiliwch am gardiau sydd â'r ffioedd isaf am sut y byddwch chi'n ei ddefnyddio. Felly os ydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i fod yn defnyddio'r cerdyn ar gyfer gwariant, edrychwch am gerdyn heb ffioedd trafodion ar y pryniannau hynny.
Pam defnyddio cerdyn rhagdaledig?
Mae cardiau rhagdaledig yn ffordd dda o sicrhau eich bod yn cadw at gyllideb. Gallant fod yn syniad da os ydych yn chwilio am:
- ffordd i roi lwfans i'ch plant: pan fydd yr arian yn dod i ben, gallwch ddewis ychwanegu i’r cerdyn, yn union fel ffôn talu wrth fynd.
- dewis arall yn lle gwiriadau teithwyr: rydych yn llwytho cerdyn teithio rhagdaledig ag arian cyn i chi fynd a byddwch yn gallu ei wario tra byddwch i ffwrdd.
- rhywbeth yn wahanol i gael cyfrif banc: os ydych yn cael trafferth i gael cyfrif banc neu rydych wedi cael eich gwrthod am fath arall o gerdyn, gallai cyfrif banc sylfaenol fod yn ateb gwell.
Sut mae’ch arian yn cael ei ddiogelu ar gardiau rhagdaledig
Mae'r arian a roddir ar eich cerdyn rhagdaledig yn cael ei ddosbarthu fel arian electronig, neu e-arian. Mae hyn yn golygu na fydd yn cael ei ddiogelu rhag y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i'r wal.
Fodd bynnag, mae'n ofynnol i bob darparwr cerdyn rhagdaledig ddal eich arian parod mewn cyfrif banc wedi'i neilltuo o'u harian gweithredu eu hunain. Felly, ar yr amod bod y cwmni cardiau rhagdaledig wedi dilyn y rheolau, pe bai’n mynd i’r wal, bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu lle cedwir eich arian yn dal i gadw’ch arian parod a byddwch yn gallu ei gael yn ôl yn y pen draw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gwyno i'ch banc, benthyciwr neu ddarparwr cerdyn.
Mae hyn yn golygu bod angen i chi fod yn ofalus i beidio â storio llawer o arian ar eich cerdyn. Rhowch y swm sydd ei angen arnoch i'w wario ar unwaith, a chadwch weddill eich arian yn y cyfrif banc cywir.
Os ydych yn colli eich cerdyn rhagdaledig, cysylltwch â’r darparwr mor fuan â phosib er mwyn iddynt rwystro’r cerdyn, efallai y byddent yn codi tâl am gerdyn newydd.
Os ydych yn defnyddio eich cerdyn rhagdaledig i brynu nwyddau sydd yn y pen draw yn ddiffygiol, nid oedd gwasanaeth wedi'i ddarparu, neu mae cwmni yn mynd i;r wal ac nad ydych yn derbyn yr hyn rydych wedi talu amdano, efallai y gallwch wneud cais am ad-daliad o dan y cynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd
Dewis cerdyn rhagdaledig
Gallwch gymharu cardiau rhagdaledig gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau, megis MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd, mond gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un gan nad oes ganddynt i gyd yr un cynigion.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i’r cynigion gorau ar wefannau cymharu prisiau
Dim yn meddwl bod cerdyn rhagdaledig yn iawn i chi?
Edrychwch ar eich opsiynau eraill: