Wrth i chi ddechrau ar y broses o ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, efallai y byddwch yn gallu trefnu rhywfaint ohono rhyngoch chi a'ch cyn-bartner neu efallai bydd angen cyfreithiwr arnoch. Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor rhwydd gallwch chi a'ch cyn-bartner siarad am arian.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Penderfynu faint o gymorth proffesiynol sydd ei angen arnoch
- A fydd rhannu eich arian yn hawdd?
- Rhoi trefn ar eich ysgariad neu ddiddymiad eich hun
- Arwyddion y gall rhannu’ch arian fod yn waith cymhleth
- Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi ag ysgariad neu ddiddymiad
- Ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
- Cytundebau gwahanu yn hytrach nag ysgariad neu ddiddymiad
- Eich cam nesaf
Penderfynu faint o gymorth proffesiynol sydd ei angen arnoch
Wrth benderfynu faint o gymorth sydd ei angen arnoch, mae nifer o ddewisiadau ar gael i chi :
- Gallwch drefnu’r cyfan eich hun neu drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein cost isel.
- Gallwch drefnu un neu ddau o sesiynau cynghori â chyfreithiwr, ond delio â’r ffurflenni a’r gwaith papur eich hun.
- Gallwch ddefnyddio cyfryngwr – person diduedd – i roi cymorth i chi a’ch cyn bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) ddod i gytundeb.
Gallwch ddefnyddio cyfreithiwr i'ch cynorthwyo drwy gydol y broses. Os bydd gennych lawer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a galwadau ffôn, ac yn enwedig os cymerir misoedd lawer i chi gytuno, gallai’r gwaith o gyrraedd setliad ariannol fod yn ddrud iawn. Os yn bosibl, ceisiwch osgoi ffraeo â’ch cyn bartner drwy gyfreithiwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu ffioedd cyfreithiol wrth ysgaru neu ddiddymu
Os ydych yn ystyried trefnu popeth eich hun neu ddefnyddio gwasanaeth ar-lein, edrychwch ar ein canllaw i Ysgariad neu ddiddymiad DIY
Os ydych yn teimlo bod angen cyngor cyfreithiol arnoch ond na allwch ei fforddio, gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
A fydd rhannu eich arian yn hawdd?
Nid oes rheol syml ynglŷn â pha amgylchiadau fyddai’n well ar gyfer setlo’ch ysgariad neu ddiddymiad eich hun a pha bryd fyddai’n fwy buddiol i chi geisio cymorth proffesiynol
Mae nifer o wahaniadau’n troi’n chwerw neu’n hirfaith gan na all gyplau gytuno ar sut i rannu’r arian. Ac os felly, efallai y dylech geisio ychydig o gymorth proffesiynol.
Mae dod i gytundeb ynglŷn â’ch arian yn debygol o fod yn haws os:
- yw’r ddau ohonoch yn cytuno i’r ysgariad neu’r diddymiad
- nad oes gennych blant neu mae’r plant wedi tyfu ac nid ydynt yn dibynnu arnoch yn ariannol
- nad yw un ohonoch yn ddibynnol ar y llall yn ariannol
- ydych yn cytuno ar sut y dylid rhannu’ch eiddo a’ch pensiynau neu gallwch drafod y gwahanol ddewisiadau yn gyfeillgar â’ch gilydd.
Rhoi trefn ar eich ysgariad neu ddiddymiad eich hun
Yng Nghymru a Lloegr
Gallwch ddewis trefnu'ch ysgariad neu ddiddymiad eich hun neu gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein cost isel.
Mae nifer cynyddol o bobl yn gwneud hyn, er mae’r mwyafrif yn parhau i ddefnyddio cyfreithiwr, cyfryngwr neu unigolyn proffesiynol arall i gael cymorth neu gyngor.
Yn yr Alban
Gosodir y dewis o wneud y cyfan eich hun allan yn gyfreithiol a’i alw’n ysgariad neu’n ddiddymiad ‘syml’. Ond ni all pob cwpl ddefnyddio’r weithdrefn hon .
Er enghraifft, ni allwch ei defnyddio os:
- oes gennych blant dan 16 oed; neu
- ydych yn gwneud hawliad ariannol yn erbyn eich cynbartner – fel am gyfran o’r tŷ neu bensiwn .
Yng Ngogledd Iwerddon
Pan fyddwch yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil mae rhaid i chi fynd o flaen barnwr yn bersonol mewn un ai llys sirol neu’r Uchel Lys.
Ond gallwch ymddangos yn y llys fel ‘deisebydd personol’ heb orfod defnyddio cyfreithiwr.
Mantais trefnu'ch ysgariad neu ddiddymiad eich hun yw fod hyn yn rhatach ac mae gennych reolaeth lwyr dros yr hyn sydd angen ei wneud .
Ond, os na allwch chi a’ch cyn bartner gytuno ar sut i rannu pethau’n gyfeillgar, efallai nad hwn yw’r dewis gorau
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ysgariad neu ddiddymiad DIY (ei wneud eich hun)
Os ydych yn teimlo bod angen cyngor cyfreithiol arnoch ond na allwch ei fforddio, gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Arwyddion y gall rhannu’ch arian fod yn waith cymhleth
Os yw eich sefyllfa ariannol yn gymhleth, gallai’r gwaith o ddod i gytundeb a rhannu’ch arian gymryd peth amser. Ac mae’n debygol y byddwch angen cymorth proffesiynol.
Gwiriwch i weld a oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi. Po fwyaf ohonynt sydd, po fwyaf cymhleth fydd eich gwahaniad yn debygol o fod.
- Rydych chi (neu chi'ch dau) yn berchen ar fusnes.
- Mae un ohonoch yn ddibynnol ar y llall yn ariannol.
- Mae un ohonoch yn anghytuno â’r ysgariad neu’r diddymiad.
- Mae gennych blant sy’n parhau i ddibynnu arnoch yn ariannol.
- Rydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil ers dros bum mlynedd.
- Mae gan un ohonoch gyflwr meddygol neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i ennill incwm.
- Mae un ohonoch wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn magu’ch plant, sydd wedi effeithio ar allu’r unigolyn i ennill incwm.
- Mae gan un ohonoch fwy o asedau na’r llall – er enghraifft, mae’r tŷ yn enw un partner, neu wedi cronni pensiwn llawer mwy na’r llall.
Edrychwch ar ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad neu ddiddymiad
Os yw'n edrych fel bod angen cyngor cyfreithiol arnoch ond na allwch ei fforddio, gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi ag ysgariad neu ddiddymiad
Pan fyddwch yn trafod â'ch cyn-bartner, ceisiwch ddilyn yr awgrymiadau hyn.
Pethau i'w gwneud
- Ceisiwch gytuno â’ch cyn bartner ynglŷn â phwy fydd yn talu biliau yn y tymor byr.
- Ceisiwch gytuno ar gymaint o bethau â phosibl â’ch cyn bartner – bydd hyn yn arbed amser ac arian.
- Cofiwch y gall yr hyn yr ystyriwch yn drefniant ‘teg’ a sut y rhennir eich arian yn gyfreithiol fod yn ddau beth cwbl wahanol.
Pethau i’w hosgoi
- Peidiwch â gwneud pethau fel rhedeg dyledion ar gyfrifon ar y cyd, rhewi cyfrif heb ddweud wrthynt neu beidio â gwneud taliadau rydych wedi cytuno iddynt.
- Peidiwch â gwneud penderfyniad a fydd yn gwneud i chi deimlo’n well yn y tymor byr, a all fod yn niweidiol i chi – a’ch cyn bartner – yn yr hirdymor.
- Peidiwch ag anwybyddu biliau neu lythyrau gan eich banc neu gwmni y mae gennych ddyledion i’w talu iddynt. Y cynharaf y byddwch yn cysylltu â hwy, neu’n gofyn i elusen gynghori am gymorth, y mwyaf o opsiynau fydd o bosibl ar gael i chi.
Os oes gennych broblemau dyled, gwelwch ein canllaw Sut i ddelio â dyledion sy'n achosi problem ar ôl gwahanu
Ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
Mae’r gyfraith ynghylch ysgariad a diddymiad yn amrywio ledled y DU .
Gan ddibynnu ymhle y cafodd y naill ohonoch eich geni ac ymhle y buoch yn byw yn y gorffennol, efallai y byddwch yn gallu ysgaru neu ddiddymu’ch partneriaeth sifil mewn rhan wahanol o’r DU i’r un yr rydych yn byw ynddi ar hyn o bryd.
Efallai y byddwch yn gallu ysgaru neu ddiddymu’ch partneriaeth sifil mewn gwlad arall y tu allan i’r DU os cawsoch chi neu’ch cyn bartner eich geni yno neu y buoch yn byw yno.
Os credwch fod hynny’n briodol yn eich achos chi, dylech siarad â chyfreithiwr sy’n arbenigo mewn ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Canllaw i ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
Os ydych am siarad â chyfreithiwr ond na allwch ei fforddio, gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Cytundebau gwahanu yn hytrach nag ysgariad neu ddiddymiad
Mae cytundeb gwahanu yn ddefnyddiol os nad ydych wedi penderfynu eto a ydych am gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, neu os na allwch wneud hynny eto.
Mae’n gytundeb sydd, fel arfer, yn nodi’r trefniadau ariannol y byddwch yn eu trefnu tra byddwch wedi gwahanu.