Symud i gartref llai o faint ar ôl ymddeol

A ddylech chi symud i gartref llai o faint i dalu am eich ymddeoliad?

Os ydych yn berchen ar dŷ sy’n fwy na sydd ei angen arnoch, gallai gwerthu a symud i eiddo llai o faint neu ratach fod yn un ffordd o godi arian ychwanegol ar gyfer eich ymddeoliad.

Gallai symud i gartref llai o faint fod yn un o’r pethau cyntaf fyddwch chi’n meddwl amdano pan fyddwch eisiau cynyddu faint o arian fydd gennych yn ystod eich ymddeoliad. Fodd bynnag, mae opsiynau eraill sy’n werth ystyried cyn i chi ymrwymo i werthu’ch cartref. Gallai rhyddau ecwiti eich cartref neu weithio’n hirach hefyd gynyddu faint o arian fydd gennych i’w wario yn ystod eich ymddeoliad.

Mae bob amser yn syniad da i ofyn am gyngor cyn gwneud penderfyniadau ariannol mawr.

Dewch o hyd i ymgynghorydd ymddeoliad wedi’i reoleiddio gan ddefnyddio’n cyfeiriadur.

Ydych chi eisiau rhentu neu brynu cartref llai o faint?

Prynu

Mae prynu tŷ yn ymrwymiad hir-dymor hyd yn oed pan fyddwch o oed ymddeol. Os nad ydych yn siŵr am eich penderfyniad, mae treulio ychydig o amser yn yr ardal cyn i chi brynu yn gallu rhoi’r cyfle i chi weld a yw lleoliad neu fath o eiddo newydd yn iawn i chi.

Mae hefyd costau ychwanegol i’w hystyried wrth brynu yn hytrach na rhentu, er enghraifft:

  • treth stamp
  • costau morgais
  • costau symud
  • costau asiant eiddo, cyfreithiwr a syrfëwr.

Mae’r costau hyn yn gallu cronni i fod yn llawer uwch nag y byddech yn ei ddisgwyl, yn aml yn rhedeg i’r degau o filoedd o bunnoedd. Bydd angen i chi sicrhau y bydd yr hyn a gewch wrth werthu’ch cartref presennol yn ddigon i dalu’r costau hyn a’ch costau byw parhaus.

Rhentu

Gallai rhentu fod naill ai’n rhatach neu’n ddrytach yn y pen draw, gan ddibynnu ar yr ardal rydych yn byw ynddi a’r eiddo rhent ei hun. Gallech chi arbed arian trwy beidio gorfod talu am gostau cynnal a chadw’ch cartref mwyach.

Mae rhentu’n llai diogel na pherchen ar eich cartref, fodd bynnag. Gallai eich landlord benderfynu gwerthu’r eiddo neu gynyddu’r rhent a ni fyddwch ar yr ysgol eiddo.

Manteision symud i gartref llai o faint

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n symud i gartref llai o faint yn gwneud hynny er mwyn cynyddu’u hincwm yn ystod eu hymddeoliad.

Mae biliau rhatach a chostau cynnal a chadw is i gartrefi llai fel arfer hefyd.

Mae symud i gartref llai o faint yn gallu bod o fantais i’ch ffordd o fyw hefyd – gallech chi symud yn agosach at eich teulu a ffrindiau, neu i ardal rydych yn ei hoffi. Os yw eich cartref presennol werth mwy na’r treuliau rydych wedi’u cyfrifo, gallech gael cronfa ychwanegol i wario ar yr hyn rydych yn ei hoffi.

Mae hefyd yn gyfle i fyw mewn math gwahanol o gartref a fydd yn gallu caniatau i chi barhau’n annibynnol am hirach. Er enghraifft, byngalo, eiddo ymddeol neu dai gwarchod.

Mae’r mathau hyn o gartrefi hefyd yn gallu bod:

  • yn haws i’w cynnal a’u cadw
  • yn fwy hygyrch, er enghraifft trwy gael mynedfa heb risiau
  • yn ffordd o gael help neu ofal ychwanegol wrth i chi fynd yn hŷn
  • yn agosach at deulu a ffrindiau

Anfanteision symud i gartref llai o faint

Gallai symud i gartref llai o faint olygu y bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i rai o’r pethau rydych yn eu cymryd yn ganiataol yn eich cartref cyfredol.

Gallai eich cartref newydd fod:

  • yn llai o faint, gyda llai o le i bobl aros dros nos neu ar gyfer eich eiddo
  • ymhellach i ffwrdd o’r siopau, y feddygfa a chyfleusterau hamdden. Os ydych yn meddwl y bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i yrru yn y dyfodol, mae hefyd werth ystytied sut y byddwch yn ymweld â phobl a mynd i’r siopau.
  • ymhellach oddi wrth deulu a ffrindiau

Mae pobl hefyd yn dueddol o oramcangyfrif gwerth eu tŷ ac nid ydynt yn sylweddoli faint o gost sydd i symud. Efallai na fyddwch yn codi cymaint ag ydych yn meddwl wrth symud i gartref llai o faint. Bydd cyfrifo’r costau’n gallu dangos i chi ai hyn yw’r opsiwn cywir i chi.

Cyfrifo’r gost

Darganfyddwch faint gallai eich eiddo cyfredol fod werth. Defnyddiwch ganllaw prisio eiddo ar-lein megis ZooplaYn agor mewn ffenestr newydd a gwiriwch faint mae eiddo tebyg yn eich ardal wedi gwerthu amdanynt ar RightmoveYn agor mewn ffenestr newydd

Mae’n werth cael tri asiant eiddo gwahanol i roi pris. Gallwch weld a yw’r prisiau hyn yr un peth â’r rhai rydych wedi’u hymchwilio iddynt. Os yw’r asiant eiddo’n dod yn ôl â phris gwahanol i’r rhai rydych wedi dod o hyd iddynt ar-lein, gofynnwch iddo esbonio pam.

Ymchwiliwch i gost yr eiddo llai rydych chi eisiau prynu a chyfrifwch y gost o symud. Gofynnwch am ddyfynbrisiau ar gyfer y costau hyn i gael rhif realistig.

Symud i gartref yn llai a threth etifeddiant

Mae hefyd werth edrych ar sut y bydd symud i gartref llai yn effeithio ar unrhyw dreth etifeddiant ar eich ystâd. Bydd hyn yn effeithio ar y treth y bydd eich buddiolwyr, megis eich plant, yn gorfod ei dalu pan fyddwch yn marw.

Mae’r trothwy ar gyfer etifeddiant di-dreth yn £350,000 ar hyn o bryd ond gallai godi os ydych yn gadael eich cartref i’ch plant neu eich wyrion gan ddefnyddio’r Haen cyfradd sero preswyl (RNRB).

Mae hefyd ‘ychwanegiad symud i gartref llai’ y gallwch ei ychwanegu at yr RNRB os ydych yn poeni na fydd eich plant neu eich wyrion yn gallu cymryd mantais o’r lwfans di-dreth cyfan.

Camau nesaf

Mae symud i gartref llai ond yn un ffordd o sicrhau bod eich incwm yn ystod ymddeoliad yn ddigon i dalu am eich costau bob dydd.

Y peth gorau yw i drafod eich opsiynau i gyd gydag ymgynghorwr ariannol a fydd yn gallu gwneud cyfrifiadau manwl gywir a thrafod eich holl opsiynau ar gyfer symud i gartref llai.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a’n gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn ei wneud.
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.