Pan gyrhaeddwch yr oedran roeddech yn disgwyl ymddeol, nid oes rhaid i chi gael mynediad i'ch pensiwn. Gallech benderfynu ei adael heb ei gyffwrdd a chymryd ymddeoliad hwyr. Mae gwahanol reolau yn berthnasol yn dibynnu a oes gennych gynllun cyfraniad wedi’u diffinio neu gynllun buddion wedi’u diffinio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw fy oedran ymddeol?
- Oedi eich pensiwn
- Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffino – sut mae oedi’n gweithio
- Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio – pethau i’w hystyried
- Pensiynau buddion wedi’u diffinio – sut mae oedi’n gweithio
- Pensiwn buddion wedi’u diffinio – pethau i’w hystyried
- Opsiynau os na allwch oedi eich pensiwn
- Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch farw?
- Cyfandaliad a lwfans budd-dal marwolaeth
- Pensiwn y Wladwriaeth – sut mae oedi’n gweithio
Beth yw fy oedran ymddeol?
Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn gweithle yn gosod oedran y mae disgwyl i bobl ddechrau cymryd eu buddion. Cyfeirir at hyn fel oedran ymddeol arferol. Mae'n aml yn 60 neu 65 oed.
Os oes gennych bensiwn personol, byddwch fel arfer yn dewis y dyddiad y byddwch yn credu y byddwch am ddechrau cymryd buddion pan fyddwch yn ei sefydlu. Cyfeirir at hyn fel y dyddiad ymddeol a ddewiswyd gennych.
Nid oes rhaid i chi gael mynediad i'ch pensiwn pan gyrhaeddwch yr oedran hwn. Gallech benderfynu ei adael heb ei gyffwrdd a chymryd ymddeoliad hwyr.
Oedi eich pensiwn
Os oes gennych ddigon o incwm yn barod i fyw arno, efallai y gallwch oedi cyn cymryd incwm o'ch pensiwn. Er enghraifft, naill ai oherwydd eich bod yn parhau i weithio neu fod gennych incwm arall o gynilion neu fuddsoddiadau.
Mae gwahanol reolau yn berthnasol yn dibynnu a yw'ch pensiwn yn gyfraniad wedi’u diffino neu'n fuddion wedi’u diffinio.
Darganfyddwch fwy am y pensiynau hyn yn ein canllawiau, Cynlluniau cyfraniadau wedi'u diffinio a Chynlluniau buddion wedi'u diffinio (cyflog terfynol)
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffino – sut mae oedi’n gweithio
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio byddwch wedi cronni cronfa pensiwn i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint wnaethoch chi a/neu eich cyflogwr cyfrannu a faint mae’n tyfu.
Gelwir hyn hefyd yn ‘cynlluniau prynu arian’. Efallai eich bod wedi cronni un neu fwy o gronfeydd yn bersonol neu drwy’r gweithle.
Nid oes brys i ddechrau cymryd arian o’ch pensiwn os nad ydych angen gwneud hynny.
Ond mae’n syniad da i wirio a oes gan eich polisi unrhyw nodweddion arbennig sy’n golygu bod cyfyngiadau’n berthnasol. Dylech wirio hefyd a allech golli unrhyw warantau incwm neu fonysau buddsoddiadau os byddwch yn ei gymryd yn hwyrach.
Gall eich cronfa bensiwn barhau i dyfu yn ddi-dreth nes byddwch ei angen. Gall hyn o bosibl roi mwy o incwm i chi pan fyddwch yn dechrau tynnu arian allan.
Os ydych am gronni'ch cronfa bensiwn yn fwy, gallwch barhau i gael gostyngiaf treth ar:
- gynilion pensiwn o hyd at £60,000 y flwyddyn, neu
- 100% o'ch enillion os ydych yn ennill llai na £60,000, tan 75 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio – pethau i’w hystyried
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio â'ch darparwr a oes unrhyw gyfyngiadau neu daliadau am newid eich dyddiad ymddeol. A'r broses a'r dyddiad cau ar gyfer dweud wrthynt.
Hefyd, gwiriwch nad ydych yn colli unrhyw warantau. Er enghraifft, cyfradd blwydd-dal gwarantedig (GAR), trwy ohirio'ch dyddiad ymddeol.
Gall gwerth potiau pensiwn godi neu ostwng. Os penderfynwch oedi cyn cymryd arian o'ch pensiwn, cofiwch adolygu ble mae'ch cronfa yn cael ei fuddsoddi. Bydd hyn yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'ch newid dyddiad ymddeol.
Po hwyaf y byddwch yn oedi, po uchaf fydd eich incwm ymddeol posibl. Ond gallai hyn effeithio ar eich bil treth yn y dyfodol a'ch hawl i fudd-daliadau'r wladwriaeth.
Yn lle gohirio cael mynediad i'ch pensiwn, efallai y gallwch drefnu i ymddeol yn raddol. Byddech yn gwneud hyn trwy leihau eich oriau gwaith a thynnu rhan o'ch pensiwn.
Darganfyddwch fwy am effaith incwm a chynilion ar fudd-daliadau'r Wladwriaeth yn ein canllaw Budd-daliadau mewn ymddeoliad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Deall beth yw Pension Wise a sut i’w ddefnyddio
Pensiynau buddion wedi’u diffinio – sut mae oedi’n gweithio
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio bydd hwn yn talu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio am eich cyflogwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio’n cynnwys cynlluniau ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’. Yn gyffredinol, dim ond ar gyfer cynlluniau’r sector cyhoeddus neu bensiynau gweithle hŷn y mae’r rhain ar gael.
Efallai y gallwch adael eich buddion yn y cynllun ar ôl oedran ymddeol arferol ac oedi cyn eu cymryd.
Ond byddwch yn ymwybodol y gallai cynlluniau buddion wedi’u diffinio fod ag uchafswm oedran y mae rhaid i chi gymryd eich buddion erbyn. Mae hyn fel arfer yn 75 oed.
Os penderfynwch ymddeol yn hwyr, gallai eich cynllun gynyddu'r incwm pensiwn a gewch gan y bydd yn cael ei dalu am gyfnod byrrach.
Bydd rhai cynlluniau yn gwneud ôl-daliadau o'r swm y byddech wedi'i dderbyn rhwng eich dyddiad ymddeol arferol a'r un diweddarach. Ond byddwch yn ymwybodol efallai na fydd rhai darparwyr yn gwneud hyn.
Y peth gorau yw gwirio â'r gweinyddwyr - oherwydd efallai na fyddai unrhyw fudd o ohirio taliadau.
Pensiwn buddion wedi’u diffinio – pethau i’w hystyried
A oes gennych incwm arall pan fydd eich pensiwn buddion wedi’u diffinio i fod i ddechrau talu incwm i chi, ac nad ydych angen yr incwm ychwanegol ar hyn o bryd? Yna gallai ei oedi arbed treth i chi - yn enwedig os yw'n eich gwthio i mewn i fraced treth uwch.
Mae gohirio cymryd yr incwm yn golygu y byddwch o bosibl yn colli allan ar incwm dros y cyfnod. Felly mae'n werth ystyried pa mor hir y gallai ei gymryd i ad-dalu'r incwm nad ydych wedi'i dderbyn dros y cyfnod.
Opsiynau os na allwch oedi eich pensiwn
A ydych am oedi cyn cymryd incwm o’ch pensiwn, ond nid oes gan eich cynllun neu ddarparwr yr opsiwn hwn? Yna efallai y bydd yn bosibl symud eich pensiwn i ddarparwr arall sy'n caniatáu hyn.
Cofiwch gael arweiniad neu gyngor, a chwilio o siopa o gwmpas cyn symud eich pensiwn.
Dysgwch fwy yn ein canllawiau Trosglwyddo eich pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio a Throsglwyddo eich pensiynau buddion wedi’u diffinio.
Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch farw?
Os byddwch farw ac mae gennych arian mewn pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio o hyd, fel arfer gall yr arian sy’n weddill gael ei dalu i’ch buddiolwyr.
Mae sawl opsiwn gwahanol am sut y gallai gael ei dalu ac mae’r sefyllfa dreth yn dibynnu ar eich oedran pan fyddwch farw.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, bydd unrhyw arian a delir i’ch buddiolwyr fel yr amlinellir yn rheolau’r cynllun.
Gwiriwch â’ch gweinyddwr pensiwn i ddarganfod yr hyn gall eich buddiolwyr fod â hawl iddo pan fyddwch farw, gan fod rheolau pob cynllun yn wahanol.
Gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw Pensiynau ar ôl marwolaeth
Cyfandaliad a lwfans budd-dal marwolaeth
Ers 6 Ebrill 2024, mae'r cyfandaliad a lwfans budd-dal marwolaeth (LSDBA) yn cyfyngu cyfanswm yr arian y gallwch ei gymryd yn ddi-dreth tra byddwch yn fyw ac ar farwolaeth i £1,073,100, i'r rhan fwyaf o bobl. Mae hyn wedi disodli'r lwfans oes (LTA).
Pan fydd person yn marw, bydd unrhyw arian sy'n weddill yn y cynllun pensiwn yn cael ei brofi yn erbyn yr LSDBA.
Darganfyddwch fwy am lwfans gydol oes yn ein canllaw Lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau
Pensiwn y Wladwriaeth – sut mae oedi’n gweithio
Pan gyrhaeddwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, nid oes rhaid i chi hawlio'ch Pensiwn y Wladwriaeth ar unwaith. Eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw'r oedran cynharaf y gallwch ddechrau derbyn eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gwiriwch eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK.
Gallwch oedi (gohirio) ei hawlio. Yn gyfnewid, pan fyddwch yn penderfynu cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth - os ydych wedi gohirio ei hawlio am o leiaf naw wythnos - gallech gynyddu'r taliadau a gewch pan fyddwch yn penderfynu ei hawlio.
Byddwch yn ymwybodol bod gwahanol delerau’n berthnasol, gan ddibynnu pryd rydych yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu 1% am bob naw wythnos y byddwch yn gohirio'r hawliad. Mae hyn yn cyfateb i ychydig yn llai na 5.8% ar gyfer pob blwyddyn lawn y byddwch chi'n gohirio ei hawlio.
Mae'r Pensiwn y Wladwriaeth newydd, ac unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, yn ddau incwm trethadwy.
Os gwnaethoch ohirio'ch Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, byddwch yn parhau i gael eich trin o dan yr hen reolau. Mae hyn yn golygu y bydd gennych hawl o hyd i gymryd lwmp swm neu bensiwn uwch.