Gallwch adael arian yn eich cronfa bensiwn a chymryd cyfandaliadau ohono pan fyddwch eisiau - nes bod eich arian yn rhedeg allan neu i chi ddewis opsiwn arall. Gelwir hyn hefyd yn ‘Gyfandaliad Pensiwn Cronfeydd Di-grisial’ (UFPLS).
Beth sydd yn y canllaw hwn:
- Sut y mae cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau yn gweithio?
- Pethau i’w hystyried
- Treth y byddwch yn ei thalu
- Parhau i dalu i mewn
- Budd-daliadau a dyledion sy'n dibynnu ar brawf modd
- Beth sy'n digwydd pan fyddwch farw?
- Eich opsiynau incwm ymddeol eraill
- Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn cymryd cyfandaliadau?
- Camau nesaf
Sut y mae cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau yn gweithio?
Gallwch gymryd arian o’ch cronfa bensiwn pan fyddwch ei angen, hyd neu iddo rhedeg allan. Eich penderfyniad chi yw i gymryd faint rydych ei eisiau a phryd mae ei angen arnoch.
Bob tro y byddwch yn tynnu arian mae 25% fel arfer yn ddi-dreth. Mae’r gweddill yn cael ei ychwanegu at weddill eich incwm ac mae’n drethadwy.
Mae'r gronfa bensiwn sy'n weddill yn aros wedi'i fuddsoddi. Mae hyn yn golygu nad yw gwerth eich cronfa bensiwn na chyfandaliadau a dynnir yn y dyfodol yn cael eu gwarantu.
Mae cadw'ch cronfa bensiwn wedi'i buddsoddi yn creu'r potensial ar gyfer twf, ond gall buddsoddiadau fynd i fyny neu i lawr.
Prif fantais yr opsiwn hwn yw y gallwch ledaenu'r arian rydych yn ei gymryd dros nifer o flynyddoedd. Gall hyn helpu i leihau cyfanswm y dreth rydych yn ei thalu.
Hefyd, mae'r gronfa sy’n weddill yn aros wedi'i buddsoddi mewn amgylchedd treth-effeithlon - gan fod y twf ar gronfeydd pensiwn yn ddi-dreth.
Byddwch yn ymwybodol y gallai fod ffi bob tro y byddwch yn tynnu cyfandaliad. Hefyd, gallai fod cyfyngiadau ar faint o dynnu arian y gallwch ei wneud bob blwyddyn.
Nid yw pob darparwr yn cynnig yr opsiwn hwn. Os nad yw'ch darparwr presennol yn ei gynnig, gallwch drosglwyddo'ch cronfa i ddarparwr arall. Ond efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i drosglwyddo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trosglwyddo eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Pethau i’w hystyried
Ni fydd cymryd un neu fwy o gyfandaliadau yn darparu incwm ymddeol rheolaidd i chi neu i unrhyw ddibynyddion ar ôl i chi farw.
Mae angen i chi gynllunio faint o arian y gallwch fforddio ei gymryd â'r opsiwn hwn. Fel arall, mae risg y byddwch yn rhedeg allan o arian. Gallai hyn ddigwydd os:
- ydych yn byw yn fwy nag rydych wedi cynllunio ar ei gyfer - mae'r rhan fwyaf o bobl yn tan amcangyfrif pa mor hir fydd eu hymddeoliad
- ydych yn cymryd gormod allan yn y blynyddoedd cynnar
- nad yw'ch buddsoddiadau sydd ar ôl yn perfformio cystal ag y disgwyliwch, ac nid ydych yn addasu'r swm a gymerwch yn unol â hynny.
Bydd angen i chi ystyried sut i fuddsoddi'r arian sydd ar ôl yn eich cronfa bensiwn. Mae'n bwysig adolygu'ch buddsoddiadau yn rheolaidd.
Efallai hoffech ddefnyddio cynghorydd ariannol i'ch helpu i benderfynu pa gronfeydd i fuddsoddi'ch cronfa bensiwn ynddynt.
I gael help i ddod o hyd i ymgynghorydd, chwiliwch yn ein cyfeirlyfr Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad
Os ydych yn chwilio am gynhyrchion sy'n cynnig opsiynau buddsoddi parod syml, gallwch ddefnyddio ein Teclyn cymharu llwybrau buddsoddi tynnu i lawr pensiwn i'ch helpu i chwilio o gwmpas.
Mae'n bwysig deall pa ffioedd y gellir eu codi arnoch, oherwydd gallant leihau'ch cronfa. Mae'r ffioedd yn amrywio rhwng darparwyr, ac mae rhai polisïau'n cynnwys taliadau lluosog.
Pan gymerwch unrhyw arian o'ch cronfa bensiwn, mae unrhyw dwf yn ei werth yn drethadwy, heblaw eich bod yn ei symud i fuddsoddiad treth-effeithlon arall, lle y bydd yn tyfu o fewn y gronfa yn ddi-dreth. Mae tynnu pensiwn i lawr yn ffordd arall o gymryd arian o’ch cronfa bensiwn. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw incwm ymddeol hyblyg (tynnu i lawr pensiwn).
Oeddech chi’n gwybod?
Gwiriwch a oes gan eich cronfa unrhyw nodweddion arbennig a allai olygu eich bod yn cael bargen well, e.e. cyfradd blwydd-dal gwarantedig.
Os nad ydych wedi cymryd eich holl arian parod di-dreth erbyn 75 oed, gellid trethu’r rhan hon os oes arian parod di-dreth na defnyddiwyd yn eich cronfa bensiwn pan fyddwch farw. Gwelwch ‘Beth sy’n digwydd pan fyddwch farw’ isod i gael mwy o wybodaeth.
Gallai cymryd eich pensiwn mewn cyfandaliadau leihau eich hawl i fudd-daliadau’r Wladwriaeth â phrawf modd nawr neu yn y dyfodol. I ddarganfod sut y gall incwm neu gynilion effeithio ar fudd-daliadau, gwelwch ein canllawiau Budd-daliadau mewn ymddeoliad a Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor.
Ni allwch ddefnyddio'r opsiwn talu hwn os oes gennych amddiffyniad sylfaenol neu uwch, neu os oes gennych hawl i gyfandaliad di-dreth sy'n fwy na 25%.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar dreth ar ôl ymddeol
Siopa o gwmpas
Gwiriwch fod eich darparwr yn cynnig y dewis o gymryd cyfandaliadau.
Bydd rhai darparwyr yn cyfyngu faint y gallwch ei dynnu allan, a pha mor aml y gallwch dynnu arian allan.
Bydd ffioedd hefyd yn amrywio - efallai y bydd rhai darparwyr yn codi ffi bob tro y byddwch yn tynnu arian allan.
Mae'n bwysig edrych o gwmpas i sicrhau eich bod yn cael gwerth am arian a chynnyrch sy'n addas i'ch anghenion chi.
Gall fod yn anodd i chi gymharu cynhyrchion. Felly, gallwch gael help gan gynghorydd ariannol rheoledig. Gwaith y cynghorydd yw argymell y cynnyrch sydd fwyaf addas i'ch anghenion a'ch amgylchiadau.
I gael help ddod o hyd i ymgynghorydd, chwiliwch yn ein cyfeirlyfr Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad
Os ydych yn chwilio am gynhyrchion sy'n cynnig opsiynau buddsoddi parod syml, gallwch ddefnyddio ein teclyn cymharu llwybrau buddsoddi tynnu i lawr pensiwn i'ch helpu i chwilio o gwmpas.
Treth y byddwch yn ei thalu
Mae' r rheolau ar gyfer cymryd eich pensiwn fel nifer o cyfandaliadau yn golygu fod tri chwarter (75%) o bob cyfandaliad a gymerir yn cyfrif fel incwm trethadwy.
Ychwanegir hyn at weddill eich incwm. Yn dibynnu ar faint yw cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth, gallech gael eich gwthio i fand treth uwch.
Felly, os cymerwch lawer o gyfandaliadau mawr, neu hyd yn oed un cyfandaliad, gallech dalu cyfradd dreth uwch nag rydych fel arfer yn ei wneud.
Os lledaenwch y cyfandaliadau dros fwy nag un flwyddyn dreth, efallai y byddwch yn talu llai o dreth arnynt.
Er enghraifft, mae eich cronfa yn £60,000. Rydych yn cymryd £4,000 bob blwyddyn – mae £1,000 yn ddi-dreth ac mae £3,000 yn drethadwy. Rydych yn gweithio'n rhan-amser ac yn ennill £12,070 y flwyddyn. Cyfanswm eich enillion a'r arian trethadwy rydych wedi'i gymryd o'ch cronfa yw £15,070. Mae hyn yn uwch na'r Lwfans Personol safonol o £12,570. Felly rydych yn talu £500 mewn treth (£478.38 yn Yr Alban).
Fel rheol, bydd eich darparwr yn tynnu treth frys o'r taliad cyfandaliad cyntaf. Mae hyn yn golygu y gallech dalu gormod o dreth pan ddechreuwch dynnu'ch arian allan yn gyntaf a gorfod hawlio'r arian yn ôl. Neu efallai y bydd arnoch fwy o dreth os oes gennych ffynonellau incwm eraill.
Darganfyddwch fwy am sut i hawlio treth yn ôl yn ein canllaw ar dreth ar ôl ymddeol
Efallai y bydd taliadau neu gyfyngiadau treth ychwanegol yn berthnasol os beth fyddwch yn ei dynnu allan o’ch pensiwn yn fwy na'r lwfans cyfandaliad. I'r rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn cyfyngu ar faint o arian parod di-dreth y gallwch ei dynnu allan i gyfanswm o £268,275.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau
Parhau i dalu i mewn
Pan rydych yn cymryd cyfandaliad o’ch cronfa, mae faint gallwch barhau i gynilo am ymddeoliad yn cael ei effeithio.
Y Lwfans Blynyddol Prynu Arian yw £10,000.
Os ydych am barhau i adeiladu'ch cronfa bensiwn, efallai na fydd yr opsiwn hwn yn addas.
Darganfyddwch fwy am y lwfans blynyddol a'r Lwfans Blynyddol Prynu Arian yn ein canllaw Rhyddhad treth a’ch pensiwn
Budd-daliadau a dyledion sy'n dibynnu ar brawf modd
Gall cymryd arian o'ch pensiwn effeithio ar eich cymhwysedd i gael budd-daliadau y wladwriaeth sy'n dibynnu ar brawf modd.
Darganfyddwch fwy am sut y gall budd-daliadau effeithio ar bensiynau yn GOV.UK
Fel rheol ni all busnes neu berson rydych mewn dyled iddynt wneud cais yn erbyn eich pensiynau os nad ydych wedi dechrau cymryd arian oddi wrthynt eto. Mae hyn hefyd yn berthnasol i Ddyfarniadau Llys Sirol a Threfniadau Gwirfoddol Unigol. Ar ôl i chi dynnu arian o'ch pensiwn, fodd bynnag, efallai y bydd disgwyl i chi dalu.
Os oes angen i chi gael gwared ar ddyledion, mae'n bwysig cael cymorth arbenigol cyn cyrchu'ch pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Defnyddio'ch pensiwn i dalu dyledion
Beth sy'n digwydd pan fyddwch farw?
Os byddwch farw cyn 75 oed
Bydd unrhyw arian sy'n weddill yn eich cronfa bensiwn fel arfer yn trosglwyddo'n ddi-dreth i'ch buddiolwr enwebedig, yn destun i reolau lwfans cyfandaliad a buddion marwolaeth. Mae hyn yn wir os yw’n cael ei dalu o fewn dwy flynedd i'r darparwr ddod yn ymwybodol o'ch marwolaeth. Os methir y terfyn dwy flynedd, bydd yn cael ei ychwanegu at incwm arall eich buddiolwr a'i drethu yn y ffordd arferol.
Os byddwch farw ar ôl 75 oed
Bydd unrhyw arian sy'n weddill yn eich cronfa bensiwn rydych yn ei drosglwyddo - naill ai fel cyfandaliad neu incwm - yn cael ei ychwanegu at incwm arall eich buddiolwr a'i drethu yn y ffordd arferol.
Treth Etifeddiant
Bydd unrhyw arian rydych wedi'i dynnu o'ch cronfa pensiwn ac heb ei wario yn cyfrif fel rhan o'ch ystad at ddibenion Treth Etifeddiant.
Y Lwfans Cyfandaliad a Buddion Marwolaeth (LSDBA)
Gallai taliadau treth fod yn berthnasol os yw gwerth yr holl gyfandaliadau di-dreth a gymerwyd yn ystod eich oes, ynghyd ag unrhyw gyfandaliad pensiwn sy'n dod yn daladwy ar ôl marwolaeth, yn fwy na'r LSDBA (£1,073,100 ar gyfer y mwyafrif).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau
Eich opsiynau incwm ymddeol eraill
Dim ond un opsiwn ar gyfer defnyddio'ch cronfa pensiwn i ddarparu incwm ymddeol yw cymryd cyfandaliadau.
Oherwydd y risg o redeg allan o arian, mae'n bwysig meddwl yn ofalus cyn defnyddio'r dull hwn i ariannu'ch incwm ymddeol.
Sgamiau
Gwyliwch rhag sgamiau pensiwn lle maent yn cysylltu â chi'n annisgwyl am fuddsoddiad neu gyfle busnes nad ydych wedi siarad â hwy amdano o'r blaen. Gallech golli'ch holl arian ac wynebu treth o hyd at 55% a ffioedd ychwanegol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i adnabod sgamiau pensiwn
Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn cymryd cyfandaliadau?
Os ydych chi'n bwriadu cymryd eich cyfandaliadau di-dreth a gwneud cyfraniadau i mewn i bensiwn, rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r Lwfans Blynyddol Prynu Arian. Mae hyn yn cyfyngu'r rhyddhad treth ar gyfraniadau i gronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio i £10,000.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw’r Lwfans Blynyddol Prynu Arian?
Os ydych yn ystyried ail-fuddsoddi eich cyfandaliad di-dreth i bensiwn, ystyriwch siarad ag ymgynghorydd ariannol yn gyntaf. Mae hyn oherwydd y gallai'r rheolau ailgylchu pensiwn effeithio arnoch.
Gallant eich helpu i edrych ar os mai rhoi arian yn ôl i mewn i bensiwn yw’r opsiwn gorau i chi a’ch helpu i osgoi unrhyw beryglon.
Darganfyddwch fwy am ailgylchu pensiynau o CThEFYn agor mewn ffenestr newydd