Cynllunio ymddeol: paratoi ar gyfer rhestr wirio ymddeol

Mae'n dda dechrau meddwl am eich opsiynau ymddeol, a'r dewisiadau y bydd angen i chi eu gwneud, tua dwy flynedd cyn i chi roi'r gorau i weithio. Gall ein rhestr wirio eich helpu i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer ymddeoliad

Cam 1 – gweithiwch allan faint o incwm allech chi fod ei angen mewn ymddeoliad

Mae'n debyg y bydd angen i chi ddod i arfer â phatrwm gwahanol o incwm a gwariant pan fyddwch yn ymddeol. Mae hyn oherwydd eich bod yn debygol o fod â llai o arian i fyw arno.

I baratoi'ch hun ar gyfer y newidiadau hyn, ac i'ch helpu i gynllunio ymlaen llaw, mae'n syniad da llunio cyllideb. Wrth lunio cyllideb ar gyfer ymddeoliad, gall helpu i rannu'ch gwariant posib yn y dyfodol yn ddau gategori:

  • Gwariant hanfodol - dyma arian rydych ei angen i gwmpasu'ch anghenion byw sylfaenol, fel gwresogi a bwyta. Mae'n debygol o gynnwys pethau fel costau tai, biliau cyfleustodau, bwyd a theithio o ddydd i ddydd.
  • Incwm nad yw'n hanfodol neu ‘ddewisol’ - arian yw hwn ar gyfer y pethau rydych yn hoffi eu gwneud o ddydd i ddydd a thu hwnt. Byddai fel arfer yn cynnwys pethau fel bwyta allan, gwyliau a hamdden.

Gyda syniad da o'ch anghenion gwariant ar ôl ymddeol, byddwch yn gallu cyfrifo'r incwm rydych yn debygol o orfod ei wario.

Cam 2 – gweithiwch allan eich incwm tebygol mewn ymddeoliad

Mae bellach yn amser gweithio allan faint rydych yn debygol o'i gael ar ôl ymddeol. Mae'n syniad da gwneud hyn tua dwy flynedd cyn i chi ymddeol.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  1. Cael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych wedi cael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth yn ddiweddar, mae’n syniad da cael un. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch, yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yn hyn. Gallwch wneud hyn ar wefan GOV.UK
  2. Darganfyddwch faint allech ei gael o’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio (os oes gennych y math yma o bensiwn). Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn am ddyfynbris ymddeol.
  3. Darganfod faint sydd gennych yn eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Dylid anfon datganiad atoch yn flynyddol yn dangos faint sydd yn eich cronfa. Gofynnwch i'ch darparwr am wybodaeth am eich opsiynau ymddeol.
  4. Ychwanegu at eu gilydd y cynilion a'r buddsoddiadau y gallech eu defnyddio ar gyfer eich ymddeoliad. Mae pensiwn yn ffordd dda o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad. Ond efallai y bydd gennych gynilion neu fuddsoddiadau eraill y gallech eu defnyddio i hybu'ch incwm pan fyddwch yn ymddeol.
  5. Olrhain unrhyw bensiynau coll. Os ydych wedi colli trywydd unrhyw hen bensiynau, mae'r llywodraeth yn rhedeg gwasanaeth am ddim i'w holrhain. Darganfyddwch fwy ar wefan y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn

Cam 3 – aseswch eich opsiynau incwm

Yn dibynnu ar y math o bensiynau sydd gennych, efallai y bydd angen i chi benderfynu sut i gymryd eich arian. 

Pensiynau buddion wedi’u diffinio

Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, fel rheol bydd yn dechrau talu incwm gwarantedig i chi o'ch oedran ymddeol arferol o dan y cynllun. Yn aml bydd hyn yn 60 neu'n 65 oed, ond gwiriwch â'ch cynllun.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich cyflog a'r amser y buoch yn gweithio i'ch cwmni.

Efallai y bydd cyfandaliad yn cael ei dalu yn ogystal â'ch pensiwn, neu efallai y bydd yn rhaid i chi ildio rhywfaint o incwm i gymryd cyfandaliad.

Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch wedi cronni cronfa o arian y gallwch fel arfer ddechrau ei gymryd o 55 oed.

Mae yna sawl ffordd y gallwch ddefnyddio'r arian yn eich pensiwn i ddarparu incwm neu gyfandaliad i chi ar ôl ymddeol. Gall gwahanol opsiynau ddarparu gwahanol symiau o incwm.

Pan fyddwch yn ystyried y gwahanol opsiynau sydd ar gael, gall helpu i feddwl yn ôl i'ch anghenion incwm.

Er enghraifft, yn gyffredinol mae'n gwneud synnwyr ceisio sicrhau bod eich holl anghenion incwm hanfodol yn dod o dan incwm gwarantedig. Gallai hyn gynnwys incwm o'ch Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn buddion wedi’u diffinio neu flwydd-dal. 

Incwm arall

Efallai y bydd gennych hefyd ffynonellau incwm eraill y gallwch eu defnyddio ar ôl ymddeol, ar wahân i'ch pensiynau. Mae'r incwm hwn yn debygol o amrywio dros amser ac efallai na fydd wedi'i warantu am oes.

Gallai'r incwm hwn ddod o:

  • gwaith rhan-amser
  • cronfa bensiwn rydych wedi'i fuddsoddi ac yn gallu tynnu incwm hyblyg neu gyfandaliad ohono
  • cynilion a buddsoddiadau - mae swm y llog neu'r incwm rydych yn ei ennill yn debygol o amrywio yn dibynnu ar gyfraddau llog a pherfformiad eich buddsoddiadau
  • Eiddo - gallai hyn fod yn incwm rhent o unrhyw eiddo rydych yn berchen arno. Neu efallai y byddwch yn bwriadu gwerthu'r eiddo a chodi arian i ychwanegu at eich incwm
  • Eich cartref - efallai y byddwch yn rhentu ystafell i letywr, yn bwriadu lleihau maint a defnyddio unrhyw arian a godir i ychwanegu at eich incwm, neu werthu peth o'r ecwiti yn eich cartref yn gyfnewid am lwmp swm neu incwm.

Pan fyddwch wedi gweithio allan faint o arian y byddwch ei angen, a'r ffynonellau incwm y bydd gennych ar ôl ymddeol, bydd gennych syniad cliriach o bryd y gallwch fforddio ymddeol.

Cam pedwar - gwiriwch eich safle a lluniwch gynllun ymddeol

Nawr rydych yn gwybod:

  • faint o incwm y gallech fod ei angen ar ôl ymddeol ac wedi nodi faint y gallech ei gael o'ch gwahanol bensiynau, a
  • pryd y gallent ddechrau talu incwm a/neu gyfandaliad i chi.

Gallwch geisio gwneud cynllun ar gyfer eich ymddeoliad. Dyma rai pethau i'w hystyried wrth lunio cynllun.

A ydych eisiau ymddeol ar bwynt penodol neu a ydych yn edrych i leihau eich oriau ac ymddeol yn fwy graddol?

Nid oes rhaid i chi roi'r gorau i weithio i gymryd eich pensiwn. Ond, fel arfer, mae rhaid i chi fod yn 55 oed o leiaf. Efallai y gallwch ei gymryd yn gynharach os ydych mewn iechyd gwael.

Os yw'n bensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio, fel arfer mae gennych lawer o hyblygrwydd o ran pryd y byddwch yn dechrau cymryd arian. Ond nid yw hynny'n wir bob amser, felly mae'n well gwirio gyda'ch darparwr pensiwn. Mae hefyd yn werth gwirio a fyddai unrhyw daliadau ychwanegol y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt os byddwch yn oedi cyn cymryd arian.

Os yw'n bensiwn buddion wedi’u diffinio, mae'r cynllun fel arfer yn gosod dyddiad ymddeol arferol - o'r adeg y byddwch yn gallu cymryd incwm.

Weithiau mae'n bosibl ei gymryd yn gynharach neu'n hwyrach na hyn. Er os cymerwch ef yn gynharach, efallai y cewch incwm is, gan y bydd yn cael ei dalu am gyfnod hwy. Gwiriwch yr opsiynau gyda gweinyddwr eich cynllun

Amcangyfrifwch faint o dreth y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu

Gallai'r incwm sydd gennych ar gael i'w wario fod yn is na'r swm a dderbyniwch oherwydd y dreth y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu arni.

I gael help i gyfrifo faint o dreth y gallai fod rhaid i chi ei thalu, darllenwch ein canllaw treth pan fyddwch wedi ymddeol.

Gan ddibynnu ar pryd a sut rydych am ymddeol, a fydd gennych unrhyw fylchau yn eich anghenion incwm neu gyfandaliad?

Os yw'n ymddangos bod bylchau gennych, efallai y bydd angen i chi ystyried newid eich cynlluniau. Er enghraifft, gweithio am fwy o amser, cynilo mwy neu o bosibl gymryd rhywfaint o arian o un neu nifer o'ch pensiynau yn gynharach.

Mae angen i chi gofio pa mor hir y gallai fod angen yr incwm arnoch, a allai fod yn 20 mlynedd neu fwy. Os ydych yn defnyddio gormod o'ch arian yn gynnar yn eich ymddeoliad, efallai na fydd gennych ddigon yn nes ymlaen mewn bywyd.

Gallwch ddechrau cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond ni allwch ei gymryd yn gynt.

Gallwch oedi cyn cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth a chael swm uwch pan fyddwch yn dechrau.

A fydd gennych dyledion o hyd nad ydych wedi'u talu pan fyddwch yn ymddeol?

Ceisiwch gychwyn eich ymddeoliad mor rhydd o ddyled â phosib.

Mae'ch incwm yn debygol o ostwng pan fyddwch yn ymddeol, felly bydd unrhyw ad-daliadau sefydlog yn cymryd cyfran fwy ohono.

  • Ychwanegwch faint sy'n ddyledus gennych - ar eich cerdyn credyd, unrhyw fenthyciadau personol a'ch morgais (os oes gennych un).
  • Gwiriwch y gyfradd llog rydych yn ei thalu ar bob dyled.
  • Os oes gennych arian i'w sbario, talwch y ddyled sy'n codi'r gyfradd llog uchaf yn gyntaf. Dyma'r ffordd fwyaf effeithlon i glirio'ch dyledion.

Mae llawer o bobl yn defnyddio eu lwmp swm pensiwn arian parod di-dreth i glirio dyledion, fel eu morgais neu fenthyciadau.

Fodd bynnag, os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio - efallai y bydd angen i chi ildio pensiwn i gymryd cyfandaliad. Sicrhewch eich bod yn gwirio mai hwn yw'r opsiwn gorau i chi.

Os nad ydych yn siŵr, efallai yr hoffech gael help ac arweiniad gennym neu gael cyngor ariannol rheoledig.

Cam 5 – beth i’w wneud nesaf

Cael cyngor a penderfynu ar eich dewis

I ddeall y dewisiadau ar gyfer defnyddio'ch cronfa bensiwn, defnyddiwch Pension Wise - y gwasanaeth diduedd am ddim a gefnogir gan y llywodraeth (gweler uchod).

Gallwch hefyd siarad ag ymgynghorydd ariannol.

Gwiriwch fod lle rydych yn buddsoddi'ch pensiynau yn iawn i chi

Mae peth neu'r cyfan o'ch arian yn debygol o gael ei fuddsoddi mewn cronfeydd os oes gennych chi bensiwn:

  • personol
  • rhanddeiliad, neu
  • weithle cyfraniadau wedi’u diffinio.

Mae'n syniad da gwirio bod lle mae'ch pensiynau'n cael eu buddsoddi yn cwrdd â'ch anghenion orau wrth i chi symud yn agos at ymddeoliad. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu defnyddio rhywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn i gael incwm gwarantedig, mae fel arfer yn gwneud synnwyr i'ch arian symud yn raddol i fuddsoddiadau risg is.

A ydych yn bwriadu defnyddio peth o'ch holl bensiwn i gael incwm ymddeol hyblyg. Yna mae'n gwneud synnwyr cadw'ch arian mewn buddsoddiadau mwy cytbwys. Mae hyn oherwydd er y gall buddsoddiadau risg is helpu i amddiffyn faint o arian sydd gennych, os na chewch lawer o dwf mewn buddsoddiad, efallai na fydd eich arian yn para cyhyd.

Bydd rhai cronfeydd pensiwn yn newid y ffordd y mae'ch arian yn cael ei fuddsoddi'n awtomatig, ond nid yw pob un yn gwneud hynny.

Gallwch siarad â'ch darparwr pensiwn i ddarganfod sut mae'ch arian yn cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd a beth yw eich opsiynau.

Fodd bynnag, gallai fod yn syniad da cael cyngor ariannol am yr opsiwn gorau i chi.

Ystyriwch ffyrdd o gynyddu eich pensiwn

A ydych bron â ymddeol ac mae'r swm rydych yn debygol o ymddeol arno yn llai na'r hyn roeddech wedi'i obeithio? Mae yna bethau y gallwch eu gwneud o hyd cyn i chi ymddeol.

Dwy ffordd o gynyddu eich cronfa bensiwn yw:

  • talu mwy i mewn iddo, a
  • rhowch y dyddiad y byddwch yn dechrau cymryd arian ohono yn ôl.

Mae hyn yn caniatáu i chi gynyddu'r swm y bydd gennych i ymddeol arno a lleihau'r swm sydd ei angen oherwydd bod gennych ymddeoliad cyffredinol byrrach.

Gallwch hefyd wirio am fylchau yn eich Pensiwn y Wladwriaeth a gwneud cyfraniadau gwirfoddol i helpu i'w llenwi.

Gallech hefyd ystyried defnyddio rhyddhau arian (ecwiti) o'ch tŷ i gynyddu eich incwm. Mae hyn yn golygu eich bod yn derbyn benthyciad nawr, sy'n cael ei dalu'n ddiweddarach pan werthir eich cartref os byddwch yn symud i mewn gyda pherthnasau neu i ofal, neu ar eich marwolaeth.

Ffordd lai pellgyrhaeddol o gynhyrchu incwm o'ch cartref yw cymryd lletywr os oes gennych le.

O dan gynllun Rhentu Ystafell y llywodraeth, ni chodir unrhyw dreth ar y £7,500 cyntaf y flwyddyn rydych yn ei ennill o letywr.

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael rhai budd-daliadau ychwanegol gan y Wladwriaeth pan fyddwch yn ymddeol, neu efallai y bydd eich budd-daliadau presennol yn cael eu heffeithio.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.