Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Problemau a newidiadau pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Problemau a newidiadau pensiwn

Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?

Fel arfer, gellir talu eich arian pensiwn i rywun arall pan fyddwch yn marw, yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am fuddion marwolaeth pensiwn, gan gynnwys sut mae'r arian yn cael ei drethu a sut i enwebu rhywun i etifeddu eich pensiwn.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth sy'n digwydd i'm Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl fy marwolaeth?
  • Beth sy’n digwydd i’m pensiynau preifat ar ôl i mi farw?
  • Pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio ar ôl marwolaeth
  • Pensiynau buddion wedi'u diffinio ar ôl marwolaeth
  • Sut fydd fy mhensiwn etifeddol yn cael ei drethu?
  • Sut ydw i'n enwebu rhywun i etifeddu fy mhensiwn?

Beth sy'n digwydd i'm Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl fy marwolaeth?

Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn trosglwyddo i unrhyw un arall os byddwch yn marw cyn cyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych eisoes wedi hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn marw, fel arfer bydd yn stopio cael ei dalu. 

Ond, mewn rhai achosion, efallai y bydd eich partner priod neu sifil yn gallu etifeddu rhywfaint o'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch ddefnyddio'r teclyn Pensiwn y Wladwriaeth a'ch partnerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i wirio a yw hyn yn berthnasol i chi.

Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd i’m pensiynau preifat ar ôl i mi farw?

Mae'r hyn sy'n digwydd i'ch pensiwn preifat ar ôl i chi farw yn dibynnu a yw'n:

  • bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
  • pensiwn buddion wedi'i ddiffinio – a elwir yn aml yn gynllun cyfartaledd gyrfa neu gyflog terfynol.

Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i'ch darparwr pensiwn. 

Nol i’r brig

Pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio ar ôl marwolaeth

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'i ddiffinio, byddwch yn adeiladu cronfa o arian i chi ei ddefnyddio ar ôl ymddeol. 

Pan fyddwch chi'n marw, gellir trosglwyddo'ch cronfa bensiwn fel arfer i'ch buddiolwyr – un neu fwy o bobl neu sefydliadau y gallwch ddewis i dderbyn yr arian.

Os ydych eisoes wedi cymryd rhywfaint o arian o'ch pensiwn, bydd eich buddiolwyr fel arfer yn cael beth bynnag sydd ar ôl. 

Fel arfer, gall eich buddiolwyr ddewis beth i'w wneud gyda'r arian

Fel arfer, gall eich buddiolwyr ddewis:

  • cymryd eich pensiwn cyfan fel cyfandaliad
  • trosi eich pensiwn yn incwm gwarantedig trwy brynu blwydd-dal.

Efallai y byddant hefyd yn gallu defnyddio tynnu pensiwn i lawr i adael y pensiwn wedi'i fuddsoddi a chymryd incwm sut a phryd y mae ei angen arnynt.   

Bydd yr opsiynau sydd ar gael yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn ar fuddion marwolaeth.

Os nad yw'ch darparwr pensiwn presennol yn caniatáu opsiwn sy'n gweithio orau i'ch buddiolwyr, gallech ystyried trosglwyddo'r arian i ddarparwr gwahanol.

Mae incwm o flwydd-dal yn aml yn stopio pan fyddwch chi'n marw

Os ydych wedi defnyddio'ch arian pensiwn i brynu blwydd-dal gydol oes, byddwch yn derbyn incwm gwarantedig nes i chi farw. 

Mae'r incwm hwn fel arfer yn stopio ac ni fydd yn trosglwyddo i unrhyw un arall, oni bai eich bod wedi dewis opsiynau penodol pan fyddwch chi'n sefydlu'r blwydd-dal, fel:

  • cyfnod gwarant – lle bydd y blwydd-dal yn talu am gyfnod gofynnol, gan gynnwys i'ch buddiolwyr os byddwch yn marw cyn iddo ddod i ben.
  • sail bywyd ar y cyd – lle bydd eich buddiolwr yn parhau i dderbyn cyfran o'r incwm yr oeddech chi'n ei dderbyn.  
  • diogelu gwerth – lle y gallai cyfandaliad gael ei dalu i'ch buddiolwyr os yw'ch blwydd-dal yn costio mwy nag yr oedd wedi'i dalu pan fuoch chi farw.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am eich opsiynau blwydd-dal.

Nol i’r brig

Pensiynau buddion wedi'u diffinio ar ôl marwolaeth

Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, byddwch yn cael incwm ymddeol rheolaidd a gwarantedig. 

Mae hyn yn golygu nad oes cronfa o arian pensiwn i'w adael i rywun ar ôl i chi farw. Yn lle hynny, mae eich cynllun pensiwn yn penderfynu beth sy'n cael ei dalu i'ch buddiolwyr, a elwir yn fuddion marwolaeth. 

Gallwch wirio rheolau eich cynllun pensiwn neu ofyn i weinyddwr eich cynllun am y buddion marwolaeth maen nhw'n eu cynnig, ond mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys:

  • pensiwn dibynnydd – canran o'ch pensiwn a addawyd a delir fel incwm i'ch partner neu blant hyd at 23 oed, neu mewn un taliad os yw'r gwerth yn llai na £30,000 (a elwir yn fuddion marwolaeth cyfandaliad cyfnewidiad bychan)
  • cyfandaliad marwolaeth mewn gwasanaeth – yn aml lluosrif o'ch cyflog os ydych chi'n dal i weithio i'r cyflogwr y mae'r pensiwn yn gysylltiedig ag ef pan fyddwch chi’n marw.

Os byddwch yn marw cyn cymryd eich pensiwn, efallai y bydd eich buddiolwyr yn derbyn ad-daliad o'r cyfraniadau rydych chi wedi'u talu yn lle hynny, ynghyd â llog.  

Os ydych chi eisoes yn derbyn incwm o'ch pensiwn, gwiriwch a oes ganddo gyfnod gwarant. Dyma'r cyfnod byrraf y bydd yn talu incwm, hyd yn oed os byddwch chi'n marw cyn iddo ddod i ben.

Yn yr achos hwn, byddai'ch buddiolwyr yn derbyn cyfandaliad o'r taliadau gwarantedig y dylech fod wedi'u derbyn. Gelwir hyn yn gyfandaliad diogelu pensiwn.

Nol i’r brig

Sut fydd fy mhensiwn etifeddol yn cael ei drethu?

Mae unrhyw arian sy'n cael ei etifeddu o'ch pensiwn fel arfer yn cael ei ychwanegu at enillion eich buddiolwyr i gyfrifo faint o Dreth Incwm y mae angen iddynt ei dalu. Bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn tynnu hyn o unrhyw daliadau y maent yn eu gwneud.

Ond, ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio, ni thelir Treth Incwm fel arfer os byddwch chi'n marw cyn 75 oed ac mae eich buddiolwyr:

  • yn derbyn incwm o blwydd-dal a sefydlwyd ar ôl 6 Ebrill 2015
  • cymryd arian o gronfa tynnu i lawr, ar yr amod eich bod wedi cael mynediad i'ch pensiwn am y tro cyntaf ar ôl 6 Ebrill 2015
  • heb gymryd cyfandaliadau sy'n uwch na'r cyfandaliad a'r lwfans budd-dal marwolaeth (LSDBA).

Mae'r LSDBA yn £1,073,100 i'r rhan fwyaf o bobl ac mae'n cyfrif yr holl symiau di-dreth a gymerwyd o'ch pensiynau, cyn ac ar ôl eich marwolaeth. 

Mae hyn yn golygu y bydd yr LSDBA yn is os byddwch chi'n cymryd arian parod di-dreth o'ch pensiwn cyn i chi farw, gan gynnwys cyfandaliad salwch difrifol.  

Gallai hefyd fod yn uwch os gwnaethoch wneud cais am ddiogelwch cyn 6 Ebrill 2025. Gallwch wirio a oes gennych lwfans oes wedi’i diogeluYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Efallai y bydd eich buddiolwyr yn talu Treth Etifeddiant

Hyd at fis Ebrill 2027, ni fydd unrhyw arian sydd gennych yn eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn marw – neu unrhyw fuddion marwolaeth y mae eich cynllun yn addo eu talu – fel arfer yn cael ei gyfrif wrth gyfrifo Treth Etifeddiant. 

Mae hyn oherwydd bod gan y rhan fwyaf o ddarparwyr pensiwn neu ymddiriedolwyr yr hawl i ddewis pwy sy'n derbyn eich pensiwn ar ôl i chi farw, a elwir yn ymarfer disgresiwn. Byddant fel arfer yn dewis y rhai a restrir ar eich ffurflen mynegi dymuniad, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.

Y dewis arall yw os yw eich cynllun yn defnyddio 'cyfarwyddyd', lle mae'n rhaid iddynt dalu unrhyw fuddion marwolaeth i'r bobl rydych chi'n eu henwebu – dylai rheolau eich cynllun restru hyn. Yn yr achos hwn, byddai'r arian yn cael ei gyfrif at ddibenion Treth Etifeddiant. 

O fis Ebrill 2027 ymlaen, efallai y bydd unrhyw arian sydd ar ôl yn eich pensiwn neu mewn buddion marwolaeth yn cael ei gyfrif wrth gyfrifo Treth Etifeddiant.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am Dreth Etifeddiant yn y DU.

Nol i’r brig

Sut ydw i'n enwebu rhywun i etifeddu fy mhensiwn?

Fel arfer, gallwch ddweud wrth eich darparwr pensiwn neu ymddiriedolwyr pwy hoffech dderbyn eich pensiwn ar ôl i chi farw, yn aml trwy lenwi ffurflen mynegi dymuniad.

Cofiwch ei ddiweddaru, yn enwedig os yw pethau'n newid yn eich bywyd fel priodi, ysgaru, cael plant neu os bydd rhywun rydych chi wedi'i restru yn marw.

Os gwnaethoch brynu incwm gwarantedig gyda'ch cronfa bensiwn (a elwir yn flwydd-dal), dim ond i'r bobl a enwyd gennych pan wnaethoch ei sefydlu y mae unrhyw incwm neu gyfandaliad yn daladwy.

Os ydych chi'n poeni y gallai trosglwyddo eich pensiwn effeithio ar fudd-daliadau prawf modd eich buddiolwr, mae'n werth siarad ag ymgynghorydd ymddeol.

Eich darparwr pensiwn fel arfer sydd â'r penderfyniad terfynol

Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr pensiwn yn dilyn eich dymuniadau, ond fel arfer mae ganddynt yr hawl i wneud y penderfyniad terfynol.

Efallai y bydd angen i rai buddion marwolaeth hefyd ddilyn rheolau eraill. Er enghraifft, fel arfer dim ond i'ch partner neu blant hyd at 23 oed y gellir talu pensiwn dibynnydd.

Gwiriwch bob amser beth fyddai'n digwydd os nad ydych chi'n enwebu rhywun. Er enghraifft, os oes gennych bensiwn gweithle llywodraeth NestYn agor mewn ffenestr newydd, bydd gwerth eich cronfa fel arfer yn rhan o'ch ystâd os na fyddwch yn cwblhau ffurflen mynegi dymuniad.

Menyw yn gwisgo clustffonau wrth eistedd ar draeth niwlog

Gweld eich holl bensiynau mewn un lle

Byddwch ymhlith y cyntaf i gael darlun clir o’ch pensiynau a gweld faint y gallech ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

Cofrestrwch
Logo Llywodraeth EF
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Problemau a newidiadau pensiwn

Help gydag ymholiadau pensiwn cyffredin

  • Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll
  • A allaf ddefnyddio fy mhensiwn i ad-dalu dyledion?
  • Oes rhaid i mi ad-dalu gordaliadau pensiwn?
  • Beth sy’n digwydd i fy mhensiynau pan fyddaf yn marw?
  • Sut i rannu pensiynau wrth ysgaru neu ddiddymu
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Help gydag ymholiadau pensiwn cyffredin

  • Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll
  • A allaf ddefnyddio fy mhensiwn i ad-dalu dyledion?
  • Oes rhaid i mi ad-dalu gordaliadau pensiwn?
  • Beth sy’n digwydd i fy mhensiynau pan fyddaf yn marw?
  • Sut i rannu pensiynau wrth ysgaru neu ddiddymu
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012