Diogelu Pensiynau: sut mae trosglwyddiadau pensiynau’n cael eu diogelu rhag sgamiau

Mae trosglwyddo o un pensiwn i’r llall yn aml yn golygu ymdrin â llawer o arian a buddion. Mae hyn yn cynyddu’r posibilrwydd o dwyll. Mae Deddf Cynllun Pensiynau 2021 yn golygu bod amddiffyniadau newydd bellach i helpu’ch darparwr pensiwn i gadw'ch trosglwyddiadau yn ddiogel rhag sgamiau posibl.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn edrych i drosglwyddo?

Ers 2013 mae’n ofynnol i ddarparwyr pensiwn gynnal gwiriadau ar eich trosglwyddiad arfaethedig a dogfennu eu canfyddiadau.

Mewn rhai achosion, gallai hyn godi pryderon am y cynllun rydych yn edrych i drosglwyddo iddo. O dan yr hen reolau, gallai eich darparwr pensiwn ond eich gwneud yn ymwybodol o’u pryderon. Nawr fod bynnag, maent yn gallu atal y trosglwyddiad rhag mynd yn ei flaen.

Camau diogelu ychwanegol newydd: baneri coch ac oren

Mae deddfwriaeth newydd nawr yn caniatáu i ddarparwyr pensiwn fynegi eu pryderon am eich trosglwyddiad o dan ddau gategori, baneri coch neu baneri oren.

Baneri coch

Os yw’ch darparwr pensiwn yn nodi unrhyw fflagiau coch wrth gynnal y gwiriadau ychwanegol hyn, gallant nawr atal y trosglwyddiad rhag mynd yn ei flaen. Mae hyn yn diogelu’ch buddion pensiwn rhag cael eu colli.

Baneri oren

Os yw gwiriadau eich darparwr pensiwn wedi nodi baner oren, gallai hyn olygu eich bod mewn perygl o gael eich twyllo. Os felly, byddant yn eich cyfeirio am apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn â HelpwrArian. Mae’r apwyntiad hwn yn annibynnol, diduedd, am ddim i’w ddefnyddio a wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi dolen we i chi drefnu’r apwyntiad. Bydd angen i chi drefnu a chwblhau’r apwyntiad eich hun.

Apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn

Mae’r apwyntiad hwn yn rhoi cyfle i chi siarad ag arbenigwr am eich sefyllfa.

Cewch:

  • arweiniad i’ch helpu i nodi a ydych mewn perygl o gael eich sgamio
  • gwybodaeth am wiriadau ychwanegol y gallwch eu gwneud i’ch helpu i deimlo’n hyderus yn eich penderfyniadau, a
  • crynodeb o beryglon sgamiau pensiwn.

Bydd hyn yn gadael i chi ystyried a yw’r rhain yn berthnasol i'ch sefyllfa eich hun cyn i chi benderfynu a ddylid mynd ymlaen â'r trosglwyddiad.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.