Cyfeirir at incwm ymddeol hyblyg yn aml fel tynnu pensiwn i lawr, neu dynnu mynediad hyblyg i lawr ac mae'n ffordd o dynnu arian o'ch cronfa bensiwn i fyw arno ar ôl ymddeol. Gall roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran sut a phryd y byddwch yn derbyn eich pensiwn. Fel arfer gallwch gymryd hyd at 25% o'r gronfa fel cyfandaliad di-dreth (o fewn y lwfansau di-dreth). Mae gweddill y gronfa yn parhau i gael ei fuddsoddi, gan roi'r potensial iddo dyfu mewn buddsoddiad. Yna gallwch benderfynu a ydych eisiau incwm rheolaidd, neu symiau yn ôl yr angen. Gall gwerth eich cronfa a fuddsoddwyd ostwng yn ogystal â mynd i fyny, sy'n golygu nad yw'r incwm wedi'i warantu a gallech redeg allan o arian.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae tynnu pensiwn i lawr yn gweithio - Rheolau tynnu pensiwn i lawr
- Newid eich meddwl
- Faint o incwm i’w gymryd
- Sut i fuddsoddi eich cronfa bensiwn
- Siopa o gwmpas
- A ydych yn talu treth ar tynnu pensiwn i lawr?
- Rhyddhad treth ar gynilo pensiwn yn y dyfodol
- Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn symud i dynnu i lawr?
- Ailgylchu pensiynau
- Budd-daliadau a dyledion sy’n dibynnu ar brawf modd
- Buddion marwolaeth
- A yw tynnu pensiwn yn well na blwydd-dal?
- Pa dynnu i lawr oedd ar gael cyn mis Ebrill 2015?
- Eich dewisiadau incwm ymddeol eraill
Sut mae tynnu pensiwn i lawr yn gweithio - Rheolau tynnu pensiwn i lawr
Efallai y gallwch sefydlu trefniant tynnu i lawr â'ch darparwr presennol, neu efallai y bydd angen i chi drosglwyddo i ddarparwr newydd er mwyn defnyddio'ch cronfa bensiwn yn hyblyg. Hyd yn oed os yw’ch darparwr presennol yn cynnig yr opsiwn hwn, dylech barhau i ymholi gyda darparwyr eraill i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y gorau o’ch arian pensiwn.
Cyn i chi drosglwyddo, gwiriwch nad ydych yn colli unrhyw warantau gwerthfawr neu'n gorfod talu taliadau.
Fel arfer gallwch ddewis cymryd hyd at 25% o’ch cronfa bensiwn fel un cyfandaliad di-dreth pan fyddwch yn symyd ychydig neu’ch holl cronfa bensiwn i tynnu i lawr.
Bydd y symiau y byddwch yn eu tynnu'n ôl ar ôl cymryd eich cyfandaliad di-dreth o 25% yn drethadwy fel enillion yn y flwyddyn dreth y byddwch yn eu cymryd.
Bydd rhaid i chi benderfynu ble i fuddsoddi'r 75% o'ch cronfa bensiwn y byddwch yn ei symud i mewn i dynnu i lawr.
Dylech ddewis cronfeydd sy'n cyfateb i'r arian a gynlluniwyd gennych a'ch agwedd at risg. Mae'n bwysig meddwl am eich dewisiadau buddsoddi a phryd efallai hoffech dynnu arian. Cofiwch, nid yw'r incwm hwn wedi'i warantu oherwydd gall buddsoddiadau ostwng yn ogystal ag i fyny. Os cymerwch ormod o arian yn rhy fuan gallech redeg allan o arian.
Gallwch hefyd symud eich cronfa bensiwn yn raddol i dynnu incwm i lawr. Gallwch gymryd hyd at 25% o bob swm rydych yn ei symud o'ch cronfa yn ddi-dreth a rhoi'r gweddill mewn tynnu i lawr pensiwn. Weithiau gelwir hyn yn tynnu i lawr yn raddol neu'n rhannol.
Newid eich meddwl
Gallwch ar unrhyw adeg ddefnyddio'r cyfan neu'r rhan o'r arian yn eich cronfa tynnu pensiwn i lawr i brynu incwm gwarantedig (blwydd-dal) neu fath arall o gynnyrch incwm ymddeol a allai ddiwallu'ch anghenion.
Bydd yr hyn sydd ar gael yn y farchnad yn amrywio ar unrhyw adeg benodol. Felly efallai yr hoffech drafod eich opsiynau ag ymgynghorydd ariannol neu drefnu apwyntiad a Pension Wise
Faint o incwm i’w gymryd
Mae angen i chi gynllunio'n ofalus faint o incwm y gallwch fforddio ei gymryd o dan tynnu pensiwn i lawr, fel arall mae risg y byddwch yn rhedeg allan o arian.
Gallai hyn ddigwydd os:
- ydych yn byw yn hwy nag rydych wedi cynllunio ar ei gyfer
- ydych yn cymryd gormod allan yn rhy fuan
- nad yw'ch buddsoddiadau'n perfformio cystal ag y disgwyliwch, ac nid ydych yn addasu'r swm a gymerwch yn unol â hyn.
Gallwch ddefnyddio'n cyfrifiannell i'ch helpu i feddwl am faint o incwm i'w cymryd.
Sut i fuddsoddi eich cronfa bensiwn
Os dewiswch dynnu pensiwn i lawr, bydd angen i chi benderfynu sut i fuddsoddi'ch cronfa bensiwn. Ac mae'n bwysig adolygu'ch buddsoddiadau yn rheolaidd.
Bydd eich darparwr yn gofyn sut rydych am fuddsoddi'ch cronfa sy'n weddill pan fyddwch yn symud i mewn i dynnu i lawr pensiwn. Bydd angen i chi naill ai ddewis eich buddsoddiadau eich hun, sy'n cyd-fynd â'ch agwedd at risg ac amcanion am eich arian. Fel arall, bydd rhai darparwyr yn cynnig dewis i chi o opsiynau buddsoddi parod syml sy'n gysylltiedig â'ch cynlluniau ymddeol. Gelwir y rhain yn llwybrau buddsoddi. Gallant symleiddio'r penderfyniad o sut i fuddsoddi'ch cronfa bensiwn sy'n weddill ar ôl i chi gymryd eich cyfandaliad di-dreth.
Gallech hefyd ddefnyddio ymgynghorydd ariannol i'ch helpu i ddewis.
Fel â phob buddsoddiad, gall gwerth eich cronfa fynd i fyny neu i lawr.
Mae mwy o wybodaeth yn ein canllaw ar fuddsoddi mewn ymddeoliad
Mae hefyd yn bwysig deall pa daliadau sydd angen i chi eu talu, oherwydd gallant ddisbyddu'ch cronfa. Mae'r taliadau'n amrywio rhwng darparwyr; mae gan rai polisïau daliadau amrywiol.
Siopa o gwmpas
Mae'n gymhleth penderfynu ai tynnu pensiwn i lawn yw'r opsiwn iawn i chi.
Nid yw pob cynllun pensiwn neu ddarparwr yn cynnig tynnu pensiwn i lawr. Hyd yn oed os yw'ch un chi yn gwneud hynny, mae'n bwysig cymharu beth arall sydd ar y farchnad. Mae hyn oherwydd y gallai taliadau, y dewis o arian, y gefnogaeth a'r hyblygrwydd y maent yn eu cynnig amrywio o un darparwr i'r llall.
Gall fod yn anodd cymharu cynhyrchion eich hun oni bai eich bod yn fuddsoddwr profiadol.
Os ydych yn chwilio am gynhyrchion sy'n cynnig opsiynau buddsoddi parod syml, gallwch ddefnyddio ein teclyn cymharu llwybrau buddsoddi i'ch helpu i chwilio o gwmpas.
Defnyddiwch ein teclyn cymharu llwybrau buddsoddi
Neu efallai yr hoffech ddefnyddio cynghorydd ariannol rheoledig. Bydd cynghorwyr yn adolygu'ch anghenion a'ch amgylchiadau ac yn argymell y ffordd orau o ddefnyddio'ch pensiynau. Bydd hyn yn cynnwys pa gynhyrchion i'w defnyddio a faint o incwm i'w gymryd a phryd.
I gael help i ddarganfod un, chwiliwch ein cyfeiriadur ar Ddod o hyd i gynghorydd ymddeoliad
A ydych yn talu treth ar tynnu pensiwn i lawr?
Bydd unrhyw arian a gymerwch o'ch cronfa tynnu i lawr pensiwn uwchlaw'r cyfandaliad di-dreth yn cael ei drethu fel enillion yn y flwyddyn dreth y byddwch yn ei chymryd.
Er enghraifft, mae gennych gronfa o £80,000 ac rydych yn cymryd cyfandaliad di-dreth o £20,000. Mae hyn yn gadael £60,000 i chi ei fuddsoddi. Os cymerwch incwm o £3,000 y flwyddyn o'ch cronfa bensiwn, ac yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, byddwch yn talu treth o 20% ac felly byddwch yn cael £2,400.
Byddwch yn ymwybodol, os tynnwch arian mawr, y gallent eich gwthio i fand treth uwch. Efallai y gallwch leihau faint o dreth rydych yn ei thalu trwy ledaenu taliadau a/neu symud eich arian i mewn i dynnu i lawr dros nifer o flynyddoedd treth.
Os cymerwch gyfandaliad yn hytrach nag incwm rheolaidd, efallai y bydd eich darparwr yn ddidynnu treth frys o'ch taliadau.
Yn flaenorol, os oedd gwerth eich cynilion bensiwn yn fwy na £1,073,100, efallai y bydd tâl lwfans gydol oes ar unrhyw swm uwchben y terfyn. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, mae hyn yn cael ei ddisodli gan y lwfans cyfandaliad a chyfandaliad a lwfans budd-dal marwolaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans Oes ar gyfer cynilion pensiwn
Rhyddhad treth ar gynilo pensiwn yn y dyfodol
Os byddwch yn dewis tynnu pensiwn i lawr a chymryd incwm, ond yn parhau i gynilo i mewn i bensiwn, bydd y swm y gallwch ei dalu i mewn i bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio a dal i gael rhyddhad treth yn lleihau. Gelwir hyn yn lwfans blynyddol prynu arian neu MPAA.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y lwfans blynyddol
Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn symud i dynnu i lawr?
Os ydych yn bwriadu cymryd eich cyfandaliad di-dreth a gwneud cyfraniadau pellach i'r un pensiwn, rhaid i chi fod yn ymwybodol o:
- Y rheolau ‘ailgylchu pensiwn’. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i atal pobl rhag cael rhyddhad treth pellach ar gyfraniadau lle maent eisoes wedi elwa o ryddhad treth.
Gallai'r rheolau ailgylchu pensiwn effeithio arnoch chi os ydych yn bwriadu defnyddio peth neu'r cyfan o'ch cyfandaliad di-dreth i gynyddu cyfraniadau i bensiwn yn sylweddol.
- Y lwfans blynyddol prynu arian. Mae hyn yn cyfyngu swm y cyfraniadau i gronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy'n cael rhyddhad treth i £10,000.
Darganfyddwch fwy am ailgylchu pensiwn gan CThEM
Os ydych yn ystyried ail-fuddsoddi'ch cyfandaliad di-dreth i mewn i bensiwn, ystyriwch siarad ag ymgynghorydd ariannol. Gallant eich helpu i edrych ai rhoi'r arian yn ôl mewn pensiwn yw'r opsiwn gorau i chi a'ch helpu i osgoi unrhyw beryglon.
Ailgylchu pensiynau
Os ydych yn bwriadu cymryd eich cyfandaliad di-dreth a thalu hwnnw i’r un cronfa bensiwn neu un arall, mae rhaid i chi fod yn ymwybodol o reolau ‘ailgylchu pensiwn’.
Gallai fod yn ailgylchu pensiwn os ydych yn bwriadu defnyddio'r cyfandaliad di-dreth i dalu i mewn i bensiwn i gael rhyddhad treth.
Os bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu eich bod wedi torri rheolau ailgylchu pensiwn, efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar y cyfandaliad gwreiddiol di-dreth gwreiddiol. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os mai dim ond peth o'r arian rydych yn ei ailgylchu.
Os ydych yn ystyried ail-fuddsoddi'ch arian di-dreth mewn pensiwn, mae'n bwysig cael cyngor ariannol.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys cyfeiriadur i ddod o hyd i un, yn ein canllaw Dewis cynghorydd ariannol
Budd-daliadau a dyledion sy’n dibynnu ar brawf modd
Gall cymryd arian o'ch pensiwn effeithio ar eich cymhwysedd i gael budd-daliadau y wladwriaeth sy'n dibynnu ar brawf modd.
Darganfyddwch fwy am sut y gall budd-daliadau effeithio ar bensiynau yn GOV.UK
Fel rheol ni all cwmni neu berson rydych mewn dyled iddynt wneud cais yn erbyn eich pensiynau os nad ydych wedi dechrau cymryd arian oddi wrthynt eto. Mae hyn hefyd yn berthnasol i Ddyfarniadau Llys Sirol a Threfniadau Gwirfoddol Unigol. Ar ôl i chi dynnu arian o'ch pensiwn, fodd bynnag, efallai y bydd disgwyl i chi dalu.
Os oes angen i chi gael gwared ar ddyledion, mae'n bwysig cael cymorth arbenigol cyn cyrchu'ch pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Defnyddio'ch pensiwn i dalu dyledion
Buddion marwolaeth
Gallwch enwebu pwy yr hoffech i gael unrhyw arian ar ôl yn eich cronfa tynnu i lawr pan fyddwch farw:
- Os byddwch yn marw cyn 75 oed, bydd unrhyw arian sydd ar ôl yn eich cronfa tynnu i lawr yn trosglwyddo'n ddi-dreth i'ch buddiolwyr enwebedig, os caiff ei gymryd fel incwm. O 6 Ebrill 2024, fodd bynnag, bydd yn ddarostyngedig i'r cyfandaliad a'r lwfans budd-daliadau marwolaeth (LSBDA), os byddant yn ei gymryd fel cyfandaliad. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiwn.
- Rhaid i’r arian gael ei dalu o fewn dwy flynedd ar ôl i'r darparwr ddod yn ymwybodol o'ch marwolaeth. Os methir y terfyn dwy flynedd, bydd taliadau'n cael eu hychwanegu at incwm y buddiolwr a'u trethu fel enillion.
- Os byddwch farw ar ôl 75 oed a bod eich buddiolwr enwebedig yn cymryd yr arian fel incwm neu gyfandaliad, bydd yr arian yn cael ei ychwanegu at eu hincwm arall a'i drethu fel enillion.
Efallai y bydd buddiolwr yn gallu dewis parhau i dynnu i lawr o'r gronfa bensiwn, cymryd cyfandaliad un-tro neu brynu blwydd-dal. Gwiriwch yr hyn y mae darparwyr buddion marwolaeth yn ei gynnig.
A yw tynnu pensiwn yn well na blwydd-dal?
Mae pa opsiwn ymddeol sydd orau i chi – neu ba gyfuniad o opsiynau – yn dibynnu llawer ar eich sefyllfa, a pha ffynonellau incwm eraill rydych yn debygol o'u cael ar ôl ymddeol.
Siaradwch â chynghorydd ariannol a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar sail eich sefyllfa bersonol.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys cyfeiriadur i ddod o hyd i un, yn ein canllaw Dewis cynghorydd ariannol
Pa dynnu i lawr oedd ar gael cyn mis Ebrill 2015?
Cyn Ebrill 2015, roedd y rheolau tynnu pensiwn i lawr yn wahanol – gallech dynnu i lawr mewn un o ddwy ffordd: naill ai fersiwn wedi'i chapio neu fersiwn hyblyg.
Tynnu i lawr wedi’i gapio
Roedd y polisïau hyn ar gael cyn Ebrill 2015. Efallai y bydd gennych y math hwn o bolisi o hyd.
Mae’r swm y gallwch ei gymryd fel incwm wedi’i gapio ar 150% o’r gyfradd a bennir gan Adran Actiwari y Llywodraeth (GAD). Mae hyn wedi’i seilio’n fras ar yr incwm y gallai unigolyn iach o’r un oed ei gael o flwydd-dal oes.
Mae’n cael ei adolygu bob tair blynedd os ydych o dan 75 oed, ac yn flynyddol ar ôl hyn.
Ar ddyddiad yr adolygiad, cyfrifir uchafswm incwm newydd – yn seiliedig ar faint diwygiedig y gronfa a’r cyfraddau GAD diweddaraf – a’i osod ar gyfer y cyfnod nesaf.
Os gwnaethoch sefydlu trefniant tynnu i lawr wedi’i gapio cyn Ebrill 2015:
- Gallwch barhau i ddefnyddio’ch trefniant tynnu i lawr wedi’i gapio yn yr un modd. Er mwyn parhau i allu ei ddefnyddio yn yr un ffordd, bydd angen i chi gadw’ch incwm o fewn y cap. Os cymerwch incwm sy’n fwy na’r cap, byddwch wedi symud i dynnu i lawr mynediad hyblyg.
- Os byddwch yn aros mewn tynnu i lawr wedi’i gapio, ni fydd y lwfans blynyddol prynu arian (MPAA) o £10,000 yn effeithio arnoch a gallwch barhau i gyfrannu hyd at £60,000 y flwyddyn.
- Gallwch newid i mewn i bolisi tynnu i lawr newydd, fel y gallwch dynnu mwy na’r cap. Gwiriwch a yw’ch darparwr yn caniatáu hyn. Os nad ydyw, gallech drosglwyddo i bolisi newydd. Bydd y tynnu allan gyntaf yn sbarduno’r MPAA, felly bydd y gronfa gyfraniadau sy'n cael rhyddhad treth ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei chyfyngu i £10,000 bob blwyddyn dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tynnu i lawr wedi’i gapio
Tynnu i lawr hyblyg
Roedd y math hwn o bolisi tynnu i lawr ar gael cyn Ebrill 2015.
Roedd yn caniatáu i chi dynnu arian yn ddiderfyn o'ch cronfa os oedd gennych incwm gwarantedig o £12,000 y flwyddyn (cyn treth). Nid oedd ar gael i bawb ei ddefnyddio yn yr un ffordd ag y bu ar gael ers Ebrill 2015.
Trosir unrhyw drefniant tynnu i lawr hyblyg a sefydlwyd cyn Ebrill 2015 yn drefniant tynnu i lawr mynediad hyblyg ar ôl Ebrill 2015
Eich dewisiadau incwm ymddeol eraill
Un o nifer o opsiynau sydd ar gael i chi yw tynnu incwm i lawr ar gyfer cymryd eich pensiwn.
I gael trosolwg o'ch holl opsiynau, archebwch apwyntiad Pension Wise.