Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am eich opsiynau ar gyfer tynnu arian o'ch pensiwn ar
wefan Pension Wise (Yn agor mewn ffenestr newydd)
neu gallwch
drefnu apwyntiad (Yn agor mewn ffenestr newydd)
i gael arweiniad diduedd am ddim ar eich opsiynau gan arbenigwr pensiwn dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Gyda phensiwn gallwch dynnu i lawr, chi sy’n penderfynu pryd i ddechrau cymryd arian a faint o incwm i’w gymryd. Gallwch ddefnyddio ein
cyfrifiannell tynnu pensiwn i lawr (Yn agor mewn ffenestr newydd)
i'ch helpu i amcangyfrif pa mor hir gallai eich pot pensiwn para yn dibynnu ar y lefel o incwm rydych am ei gymryd.
Fel rheol, gallwch ddewis cymryd hyd at 25% (chwarter) o'ch pot pensiwn fel cyfandaliad di-dreth. Efallai y bydd rhai pensiynau hyn yn gadael ichi gymryd mwy na 25%, felly mae'n werth gwirio gyda'ch darparwr pensiwn.
Darganfyddwch fwy am eich
hawl cyfandaliad di-dreth. (Yn agor mewn ffenestr newydd)
Os ydych chi'n ansicr ynghylch pa opsiwn incwm ymddeol sydd orau i chi, faint o incwm i'w gymryd neu sut i fuddsoddi'ch arian ar ôl i chi dynnu'ch cyfandaliad di-dreth yn ôl, yna gallai cael cyngor ariannol fod yn opsiwn da i chi.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio
cynghorydd ariannol. (Yn agor mewn ffenestr newydd)
Gallwch newid eich incwm a'ch buddsoddiadau — gan gynnwys newid llwybrau buddsoddi — ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd newid darparwyr cynnyrch neu ddewis opsiwn incwm ymddeol gwahanol fel incwm gwarantedig ar unrhyw adeg.
I gael atgoffa o'r hyn y dylech ei ystyried gweler ein
tudalen tynnu pensiwn i lawr. (Yn agor mewn ffenestr newydd)