Roedd tynnu i lawr wedi’i gapio yn ffordd o gymryd incwm o’ch cronfa bensiwn ble roedd yr arian yn eich cronfa wedi ei fuddsoddi mewn cronfeydd a fyddai’n talu incwm i chi. Nid yw ar gael mwyach, ond gallwch barhau i’w ddefnyddio os ydych yn parhau mewn tynnu i lawr wedi’i gapio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw tynnu i lawr wedi’i gapio?
- Mae tynnu i lawr wedi’i gapio wedi cau i ymgeiswyr newydd
- Os oes gennych dynnu i lawr wedi’i gapio eisoes
- Sut mae tynnu i lawr wedi’i gapio yn gweithio?
- Rhyddhad treth ar gynilion pensiwn – rheolau newydd ar gyfer tynnu i lawr wedi’i gapio o Ebrill 2015
- Pethau i’w hystyried
- Buddion tynnu i lawr wedi’i gapio
- Eich dewisiadau incwm ymddeol eraill
Beth yw tynnu i lawr wedi’i gapio?
Roedd tynnu i lawr wedi’i gapio yn ffordd o gymryd incwm o’ch cronfa bensiwn ble roedd yr arian yn eich cronfa wedi ei fuddsoddi mewn cronfeydd a fyddai’n talu incwm i chi o’r pot pensiwn. Roedd terfyn incwm, neu ‘cap’ ar y swm y gallech chi ei dynnu allan bob blwyddyn. Nid yw ar gael mwyach ond gallwch barhau i’w ddefnyddio os ydych yn parhau mewn tynnu i lawr wedi’i gapio
Mae tynnu i lawr wedi’i gapio wedi cau i ymgeiswyr newydd
Mae Tynnu i lawr wedi’i gapio yn fath o gynnyrch incwm tynnu i lawr oedd ar gael cyn 6 Ebrill 2015.
Os oes gennych dynnu i lawr wedi’i gapio eisoes
Os ydych chi eisoes yn defnyddio tynnu i lawr wedi’i gapio, bydd yn parhau dan ei reolau presennol.
Ond os ydych wedi rhagori ar neu fynd dros y ‘cap’:
- bydd eich tynnu i lawr wedi'i gapio yn trosi i dynnu i lawr mynediad hyblyg, a
- mae’r gostyngiad treth allwch chi ei gael ar gynilion pensiwn yn y dyfodol wedi lleihau
Ond gallwch symud pensiynau ychwanegol i mewn i dynnu i lawr wedi'i gapio os yw'ch darparwr yn caniatáu hyn.
Darganfyddwch fwy am dynnu i lawr mynediad hyblyg, a'r gwahaniaeth rhwng tynnu i lawr wedi’i gapio a thynnu i lawr hyblyg, yn ein canllaw Beth yw incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr)
Sut mae tynnu i lawr wedi’i gapio yn gweithio?
Gyda thynnu i lawr wedi’i gapio, mae’ch cronfa bensiwn -wedi i chi gymryd eich swm di-dreth - yn cael ei fuddsoddi mewn cronfeydd a gynlluniwyd i dalu incwm i chi.
Mae’r incwm hwn yn drethadwy a gall godi neu ostwng yn seiliedig ar berfformiad y gronfa. Nid yw’n warantedig am oes.
Mae’r swm y gallwch ei gymryd fel incwm â chap o 150% o’r incwm o’r raddfa a bennir gan GAD (Adran Actiwarïaid y Llywodraeth). Yn fras, mae’r raddfa tynnu i lawr wedi’i gapio yn seiliedig ar incwm person iach o’r un oed ei dderbyn o flwydd-dal gydol oes.
Mae’n cael ei adolygu bob tair blynedd os ydych chi dan 75 ac yn flynyddol wedi hyn.
Ar y dyddiad adolygu, cyfrifir incwm uchafswm newydd – yn seiliedig ar faint y gronfa ddiwygiedig a’r cyfraddau GAD pennaf – a’u gosod ar gyfer y cyfnod nesaf.
Os byddwch chi'n symud potiau pensiwn ychwanegol i mewn i dynnu i lawr wedi'i gapio, bydd yr incwm yn cael ei adolygu a bydd uchafswm newydd yn cael ei gyfrif
Rhyddhad treth ar gynilion pensiwn – rheolau newydd ar gyfer tynnu i lawr wedi’i gapio o Ebrill 2015
Ar yr amod bod eich incwm a dynnir allan yn aros o fewn y ‘cap’ tynnu i lawr, mae swm y cynilion pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio y gallwch gael rhyddhad treth arnynt bob blwyddyn drwy ddefnyddio tynnu i lawr wedi’i gapio yn £60,000. Gelwir hyn yn ‘Lwfans Blynyddol’.
Fodd bynnag, os ydych chi’n tynnu mwy o incwm allan nag y caniateir gan y ‘cap’ tynnu i lawr, yna fe’ch ystyrir wrth fynd ymlaen i fod mewn ‘Tynnu i lawr mynediad hyblyg’ ac mae’r swm o ryddhad treth ar gynilion pensiwn allwch chi ei gael wedi ei leihau i’r lefel Lwfans Blynyddol Prynu Arian (MPAA).
Yn 2022-23 mae’r MPAA yn £10,000.
Ni allwch newid eich meddwl a mynd yn ôl i dynnu i lawr wedi’i gapio unwaith y byddwch wedi rhagori ar y cap.
Pethau i’w hystyried
Ydych chi neu’ch dibynnydd eisiau cadw eich Lwfans Blynyddol llawn? Yna byddwch yn ymwybodol - hyd yn oed os nad ydych yn mynd y tu hwnt i'r cap o dan eich tynnu i lawr capio presennol gallwch ei wneud mewn ffyrdd eraill.
Mae hynny’n golygu os ydych chi’n cael mynediad i ran arall o hyblygrwydd eich cronfa bensiwn - naill ai trwy ddefnyddio tynnu pensiwn i lawr neu trwy gymryd rhywfaint neu’r cyfan ohono fel arian parod neu trwy gymryd incwm o ‘flwydd-dal hyblyg’ - yna byddwch yn dal i ysgogi’r Lwfans Blynyddol Prynu Arian ar gyfer yr holl gynilion pensiwn cyfraniad diffiniedig. Mae hyn oni bai eich bod yn tynnu pot bach o £10,000 neu lai yn ôl.
Gallwch ddewis trosi eich trefniant tynnu i lawr wedi’i gapio i dynnu pensiwn i lawr trwy hysbysu eich cynllun -yn hytrach na thrwy ragori ar y cap.
Yn yr achos hwn, dim ond pan gymerir eich taliad incwm cyntaf o'r trefniant tynnu i lawr mynediad hyblyg y caiff y Lwfans Blynyddol Prynu Arian ei sbarduno.
Ni fydd y Lwfans Blynyddol Prynu Arian yn berthnasol i ddibynnydd sy’n trosi trefniant tynnu i lawr wedi’i gapio ei ddibynnydd i dynnu pensiwn i lawr dibynnydd.
Dim ond pe byddai’n ceisio mynediad at bot pensiwn arall wedi ei brisio ar tua £10,000 neu fwy yn hyblyg fyddai’n cael ei ysgogi.
Buddion tynnu i lawr wedi’i gapio
Gallwch enwebu pwy ydych yn dymuno i gael unrhyw arian sydd dros ben yn eich cronfa tynnu i lawr pan fyddwch yn marw.
- Os byddwch farw cyn eich bod yn 75 oed, bydd unrhyw arian sydd ar ôl yn eich pensiwn tynnu i lawr wedi'i gapio yn pasio yn ddi-dreth i'ch buddiolwr enwebedig. Mae rhaid talu'r arian cyn pen dwy flynedd ar ôl i'r darparwr ddod yn ymwybodol o'ch marwolaeth, neu ei symud i drefniant arall i'w dalu fel incwm neu gyfandaliadau yn y dyfodol. Os methir y terfyn dwy flynedd, bydd unrhyw arian a delir ar ôl yr amser hwn, yn cael ei ychwanegu at incwm arall eich buddiolwr a'i drethu fel enillion.
- Os byddwch yn marw ar ôl 75 oed: os bydd eich buddiolwr enwebedig yn cymryd yr arian fel incwm neu gyfandaliad bydd yn cael ei ychwanegu i’w hincwm a’i drethu fel enillion.