Mae'n talu i siopa o gwmpas
Yn ôl adroddiad 2019 Which?, gall siopa o gwmpas am flwydd-dal gynyddu incwm ymddeol unigolyn hyd at 20%.
Efallai bod eich darparwr pensiwn wedi darparu dolen i ni. Mae hyn oherwydd bod y rheolydd ar gyfer gwasanaethau ariannol - yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol - yn gofyn i holl ddarparwyr pensiynau helpu cwsmeriaid i nodi'n hawdd os byddai'n bosibl iddynt gael cynnig gwell trwy edrych rhywle arall. Yma gallwch gymharu cynnyrch sy'n darparu incwm gwarantedig - naill ai am oes neu am gyfnod penodol.
Os ydych yn ystyried prynu blwydd-dal, byddech yn well i geisio cyngor ariannol proffesiynol neu ddefnyddio brocer. Pa bynnag lwybr a ddilynwch, gan gynnwys mynd yn uniongyrchol, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ac yn aml gall llawer o ymgynghorwyr annibynnol a broceriaid marchnad agored gael cyfraddau ychydig yn well neu gynnig ffioedd is na mynd yn uniongyrchol eich hun. Heb sôn gallant helpu gyda'r holl waith papur. Gweler ein canllaw ar siopa o gwmpas. (Yn agor mewn ffenestr newydd)
Gwyliwch y fideo hwn o bobl yn sôn am eu profiadau wrth brynu cynnyrch â gwarant incwm. (Lawrlwythwch y Trawsgrifiad fideo) link downloads a PDF
Awgrymiadau cyn mynd i chwilio
Os yw eich darparwr pensiynau presennol yn cynnig Cyfradd Blwydd-dal wedi ei Gwarantu bydd yn anodd cael dim i'w churo – cofiwch holi ac yna cymharwch y dyfynbrisiau.
Prynu incwm gwarantedig (blwydd-dal) yw un ymysg amryw o opsiynau sydd gennych chi ar gyfer defnyddio'ch cronfa bensiwn. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau ar gyfer defnyddio eich cronfa bensiwn.
Unwaith y byddwch wedi prynu blwydd-dal ni allwch newid eich meddwl – dylech gael cymorth neu gyngor cyn ymrwymo. Dysgwch ragor yn y camau nesaf ar ddiwedd yr offeryn hwn.
Dolenni defnyddiol
Ein haddewid i chi
- Cawsom ein sefydlu gan y llywodraeth ac felly mae ein tablau a'n canlyniadau yn ddiduedd
- Nid ydym yn derbyn unrhyw gymhelliad na chomisiwn
- Ni fyddwn yn cysylltu â chi nag yn rhannu eich manylion