Teithiau siopa gyda phlant

Mae cymryd plant i siopa yn ffordd wych i ddysgu iddynt y sgiliau a fydd yn ei helpu i reoli ei arian ar ei hunain pan fyddant yn hŷn. 

Gallant ddysgu:

  • Sut i gadw arian yn ddiogel
  • Ffyrdd i dorri costau
  • Sut i ymwrthod prynu pethau ychwanegol nad oes eu hangen arnoch. 
Bachgen ifanc yn edrych ar ffrwythau mewn bag wedi’i wneud o linyn

Cynllunio ymlaen llaw

Mae teithiau siopa yn darparu llawer o gyfleoedd bywyd go iawn i’ch plentyn i ddysgu am werth arian. Ond mewn gwirionedd, gall achosi straen.

Mae yna lawer i’w jyglo - o’u cadw rhag crwydro i ffwrdd a chofio beth sydd angen i chi ei brynu er mwyn osgoi gwario gormod.

Gall cynllunio ymlaen llaw eich helpu i ddysgu ychydig o sgiliau rheoli arian syml iddynt unwaith y byddwch yn siopa, heb hefyd gorfod delio â phethau sy’n tynnu sylw nad oeddech wedi eu cynllunio ar eu cyfer.

Cadw at y cynllun

Pan fyddwch yn cyrraedd y siopau, atgoffwch nhw am y rhestr a dangoswch iddynt beth rydych chi'n ei brynu gyntaf.

Wrth i chi fynd o gwmpas esboniwch sut mae'r siop wedi'i gosod i'ch cael chi i brynu mwy.

Dangoswch iddynt y tactegau y mae'r archfarchnadoedd yn eu defnyddio i'ch cael chi i brynu pethau nad ydynt ar eich rhestr:

  • Mae hanfodion wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y siop - mae'n rhaid i chi gerdded heibio llawer o demtasiynau i’w gyrraedd.
  • Mae brandiau rhatach i lawr yn isel gyda'r cynhyrchion drutaf ar lefel y llygad.
  • Mae cynhyrchion plant ar eu lefel.
  • Mae ffrwythau a llysiau yn aml wrth y fynedfa gan fod archfarchnadoedd yn gwneud elw mawr ar y rhain.

Dysgu sut i wneud i’ch arian fynd ymhellach

Gallwch ddangos i blant sut i wneud penderfyniadau gwell a'u helpu i deimlo eu bod yn cymryd rhan trwy ofyn iddynt ddod o hyd i bethau ar y rhestr siopa. Anogwch nhw i:

  • Wirio prisiau a dod o hyd i’r eitemau rhataf – mae hwn yn gyfle da i siarad am ba eitemau rydych chi’n hoffi gwario llai arnynt a pha bethau rydych yn meddwl sy’n werth talu mwy amdanynt.
  • Dod o hyd i gynhyrchion sydd wedi’u hanelu at blant – gofynnwch iddynt egluro pam eu bod yn ei hoffi (mae hwn yn ffordd wych o siarad am sut mae marchnata yn annog pobl i wario mwy).
  • Sylwi ar gynigion arbennig – gallwch egluro mai dim ond bargen dda ydyw os oes ei angen arnoch.

Wrth y ddesg dalu

Siopa ar-lein

Pan fyddwch chi'n siopa ar -lein, hyd yn oed os na all plant eich gweld chi'n defnyddio arian parod, gallwch egluro eich bod yn gwneud yr un pethau ac yn gwneud yr un penderfyniadau ag y byddech pe byddech chi yn y siopau. Siaradwch â nhw am yr hyn rydych yn ei wneud, wrth i chi ei wneud.

Gallwch:

  • Ofyn eich plentyn i gymharu prisiau a siarad am ba un sydd gyda’r gwerth am arian gwell.
  • Sylwi ar gynigion arbennig gyda’ch gilydd ond dim ond ei brynu os ydych chi ei angen.
  • Cliciwch heibio’r bargeinion a chynhyrchion ychwanegol sy’n cael eu hysbysebu ar ôl i chi orffen eich siopa. Eglurwch mai dyma sut mae’r siop yn eich cael i brynu y pethau ychwanegol nad ydych eu hangen arnoch.

Mae siopa ar-lein hefyd yn rhoi’r cyfle i chi esbonio sut i gadw’ch arian digidol yn ddiogel. Gallwch ddangos y ddesg dalu ar-lein iddynt ac esbonio na ydych byth yn rhannu manylion eich cerdyn gydag unrhyw un - mae angen cadw'r wybodaeth ar eich cardiau'n ddiogel, yn union fel arian go iawn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.