Un o’r rhesymau mwyaf pam y gallech chi a rhywun arall ffraeo am arian yw os nad ydych yn gytûn am eich nodau. Efallai y mae un ohonoch yn hoff o wario a’r llall yn gynilwr. Neu efallai eich bod yn wynebu problemau ariannol yn wahanol. Y peth pwysicaf yw siarad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Rhannu’ch nodau
Profwyd bod rhannu’ch nodau a’ch gwerthoedd ynglŷn ag arian gyda’ch gilydd yn gwella boddhad ariannol.
Felly, sut allwch chi ddeall eich nodau ac agweddau tuag at arian yn well? Y ffordd orau yw siarad â’ch gilydd.
Isod ceir rhai nodau ac agweddau tuag at arian sydd yn werth eu trafod. Efallai nad ydych chi neu’r person arall yn hyderus am reoli ei arian, er enghraifft? Yna, bydd yn eich helpu i ddechrau sgwrs.
Beth yw eich agwedd tuag at arian?
- A yw’n well gennych fyw am heddiw? A pham hynny?
- A ydych chi’n hyderus wrth reoli arian? A pham hynny?
- A ydych chi’n meddwl ei bod yn bwysig cadw trywydd ar incwm a gwariant? Pam/pam ddim?
- A ydych chi’n mwynhau chwilio am y fargen orau fel bod eich arian yn para, neu a ydych chi’n prynu pethau’n reddfol?
- A ydych chi’n fodlon cael trafodaethau am arian?
- Ydych chi'n teimlo ei bod hi'n bwysig torri'n ôl ar bethau nad ydynt yn hanfodol pan fydd bywyd yn newid?
- Ydych chi’n gofyn am gymorth gyda’ch arian?
- Beth yw eich agwedd tuag at wario, cynilo a benthyca arian?
- Sut gwnaeth eich teulu reoli eu harian pan oeddech yn tyfu i fyny?
Beth yw eich nodau ariannol?
- Beth yw eich nodau a’ch dyheadau tymor byr a thymor hir?
- Beth sy’n eich atal rhag eu cyflawni?
- Oes yna unrhyw broblemau nawr y dylech fynd i’r afael â nhw? Fel dyledion neu ofn mynd i ddyled, gofidiau neu bryderon am eich swydd neu iechyd?
- Hyd yn oed os yw nodau tymor hir yn ymddangos yn amhosib i’w gwireddu, beth yw’r camau bychain cychwynnol y dylech eu cymryd i’w cyflawni? Er enghraifft, llunio cyllideb, chwilio am ffyrdd i dorri’n ôl neu arbed arian, neilltuo ychydig mwy i mewn i’ch pensiwn.
Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i weithio allan faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a sut rydych yn ei wario.
Os ydych chi'n ystyried rhoi ychydig yn fwy yn eich pensiwn, gweler ein hadran Pensiynau ac ymddeoliad
Gall fod o fudd i chi gadw peth neu’r cwestiynau hyn i gyd ar gyfer trafodaethau pellach. Gallant roi rhywfaint o ffocws i chi a’ch helpu chi i symud ymlaen â’ch nodau ariannol.
Maent hefyd yn ffordd wych i edrych ar beth sy’n debyg a gwahanol rhwng pobl. A ble gallai’r tebygrwydd a gwahaniaethau hynny weithio neu achosi problemau.
Gallech hyd yn oed ychwanegu mwy o gwestiynau sy’n bwysig i chi.
Sut i siarad am arian
Os ydych angen siarad gyda rhywun am arian ond ddim yn siŵr sut fydd pethau’n mynd, bydd ein canllaw Sut i siarad am arian (Opens in a new window) (PDF/A, 481KB) yn ddefnyddiol.
Mae’n cynnwys awgrymiadau ar sut i ddechrau sgwrs, beth i’w wneud os ydych chi’n amau y bydd y sgwrs yn un anodd a sut i ddelio ag ymatebion negyddol.