Gall plant, yn union fel oedolion, fod yn darged sgamiau ar-lein. Ond, gall plant fod yn arbennig o fregus oherwydd eu bod yn debygol o fod â llai o wybodaeth am sut mae sgam yn edrych.
Pam mae angen i ni egluro sgamiau i blant
Nid yw atal plant rhag mynd ar-lein neu ddefnyddio eu ffonau yn eu hamddiffyn rhag sgamiau yn y tymor hir. Mae angen iddynt ddysgu am y risgiau a meithrin eu gwybodaeth, fel pan fyddant yn oedolion, ac yn delio â symiau mawr o arian, bydd ganddynt ddealltwriaeth dda o sut mae sgam yn edrych a sut i osgoi un.
Yr allwedd i ddysgu plant yw dysgu am sgamiau ar-lein eich hun fel y gallwch ddangos iddynt beth i edrych amdano a chael gwell dealltwriaeth o sut i'w hamddiffyn.
Amddiffyn plant rhag sgamiau
Mae llawer y gallwch ei wneud i amddiffyn eich plentyn rhag sgamiau ar-lein. Gallwch wneud yn siŵr bod y dechnoleg rydych chi'n ei defnyddio yn fwy diogel trwy osod rheolaethau rhieni ar eu ffôn symudol ac unrhyw ddyfeisiau sydd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd. Eglurwch i’ch plant pam eich bod yn gwneud hyn er mwyn iddynt allu deall y risgiau. Mae hefyd yn syniad da cadw'ch cyfrineiriau'n ddiogel rhag eich plant fel na allant ddiystyru'r rheolaethau rhieni.
Beth yw pryniannau mewn-app
Mae pryniannau mewn-app neu fewn gêm yn gadael i chi brynu cynhyrchion neu wasanaethau o'r tu mewn i gêm neu ap. Gallai hyn fod yn rhan o’r gêm, er enghraifft, ‘croen’, ‘arf’ neu ‘ddawns’ newydd.
Heb unrhyw amddiffyniad ar waith, gall eich plentyn brynu'r rhain gan ddefnyddio manylion eich cerdyn. Gellir gwneud y pryniannau hyn trwy wasanaethau sy'n storio manylion eich cerdyn, megis, Google Play, iTunes, neu Apple Store. Oherwydd y gallwch dalu gan ddefnyddio manylion cardiau wedi'u storio, efallai na fydd eich plentyn hyd yn oed yn gweld hyn fel taliad, ac efallai nad ydych chi'n ymwybodol ei fod yn digwydd.
Beth yw swyno trwy dwyll
Swyno trwy dwyll yw pan fydd rhywun yn esgus bod yn rhywun arall ar-lein. Mae plant yn cwympo am y sgam hwn, fel oedolion, a gellir eu twyllo i roi manylion banc neu fanylion mewngofnodi cyfrif eu rhieni i ffwrdd.
Amddiffyn plant rhag dwyn hunaniaeth
Gall dwyn hunaniaeth ddigwydd i blant yn ogystal ag oedolion. Os yw plant yn rhoi eu manylion personol i ffwrdd, megis eu henw, dyddiad geni a chyfeiriad, gellid o bosibl ddefnyddio hyn i agor cyfrifon banc. Gallai hyn ddylanwadu ar eu hadroddiadau credyd yn y dyfodol.
Gallwch helpu'ch plentyn i osgoi dwyn hunaniaeth trwy ddweud wrthynt am beidio byth rannu eu manylion personol ag unrhyw un neu ddefnyddio eu manylion personol i fewngofnodi neu gyrchu gwefan neu gêm.
Cadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein
Gallwch ddarganfod mwy am gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein ar NSPCCYn agor mewn ffenestr newydd