Mae plant sy’n well gydag arian yn dueddol o fod wedi dysgu’r sgiliau hyn gan eu rhieni neu warchodwyr. Mae rhoi cyfle i’ch plentyn i wario a chynilo o oed cynnar yn eu galluogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau da am arian nawr ac yn y dyfodol.

Fel rhiant neu warchodwr, chi yw’r dylanwad pwysicaf ar agwedd eich plentyn tuag at arian. A gallwch eu helpu i ddysgu’r sgiliau hanfodol y byddant yn eu defnyddio i reoli arian trwy gydol eu bywydau.
Byddwn yn dangos i chi sut i helpu plant 3 i 11 oed i ddeall:
- o ble mae arian yn dod ac am beth rydych yn ei ddefnyddio
- ut i wneud penderfyniadau da a dysgu o’u camgymeriadau
- manteision cynilo
- sut i wneud penderfyniadau ynghylch beth i’w brynu gyda’r arian sydd ganddynt
- y gwahaniaeth rhwng pethau rydych eu heisiau a hanfodion.
Nid yw cefnogi eich plentyn i adeiladu perthynas iachus ag arian yn digwydd dros nos. Bydd siarad yn agored ac ymarfer mewn bywyd go iawn yn helpu eich plentyn i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
Gall siarad â phlant am arian bod yn anodd
Mae’n haws nag yr ydych yn ei feddwl
Y newyddion da yw nid oes angen i chi reoli eich arian eich hun yn berffaith i ddysgu arferion da i’ch plant. Mae ond angen i chi benderfynu ar yr hyn rydych am ei ddysgu a’u cadw’n syml.
Ychydig ac yn aml yw'r dull gorau. Mae gwneud gweithgareddau hwyl gyda'ch gilydd hefyd yn eu helpu i ddysgu trwy brofiadau bywyd go iawn. Bydd gwneud y sgyrsiau a'r gweithgareddau hyn yn rhan o fywyd bob dydd yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar eich plant.
Dechreuwch pan fydd eich plentyn yn dal yn ifanc
Gall ein harferion ynghylch arian ddechrau ffurfio o tua saith oed. Mae hyn yn cynnwys a ydych yn gwario arian ar unwaith neu'n hoffi cynilo. Mae plant yn dysgu nid yn unig o'r hyn rydych yn ei ddweud wrthynt ond o'r hyn maent yn eich gweld chi'n ei wneud, felly mae dechrau yn gynnar yn helpu i adeiladu arferion da.
Nid oes unrhyw reswm i beidio â siarad â'ch plant am arian mor ifanc â thair oed.
Bydd hyn yn eu helpu:
- Cael yr ymarfer sydd ei angen arnynt - nid yw dysgu sut i reoli arian yn digwydd dros nos. Mae angen i blant adeiladu eu gwybodaeth dros amser. Maent yn dysgu trwy gymryd llawer o gamau bach a chael cyfleoedd i ddefnyddio arian mewn bywyd go iawn.
- Dysgu o’u camgymeriadau - mae hwn yn eu helpu i ddeall canlyniadau'r penderfyniadau maent yn eu gwneud. Er enghraifft, os ydynt yn gwario’u harian i gyd ar losin a methu fforddio tegan newydd, maent yn dysgu rhesymau i gynilo ond mewn sefyllfa lle mae’r cosbau’n ddifrifol.
- Osgoi trafferthion arian yn y dyfodol - os ydych ond yn dechrau rheoli arian pan rydych yn oedolyn, mae’r penderfyniadau sydd angen i chi eu gwneud fel arfer yn cynnwys symiau fwy o arian felly gall canlyniadau unrhyw gamgymeriadau fod yn fwy difrifol.
Mae gennych chi’r dylanwad mwyaf ar agwedd eich plentyn tuag at arian
Rydych chi'n chwarae'r rôl bwysicaf wrth helpu'ch plentyn i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli arian. Os ydynt yn eich gweld chi'n gwneud penderfyniadau arian, maent yn fwy tebygol o ddod atoch gyda'u cwestiynau.
Bydd eich plentyn hefyd yn cael ei ddylanwadu gan bobl eraill yn eu bywydau a allai ddelio ag arian mewn ffordd wahanol i chi, er enghraifft, neiniau a theidiau neu ffrindiau yn yr ysgol. Neu efallai y byddant yn gweld hysbysebion neu gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol a allai ddylanwadu ar eu hagwedd tuag at arian. Mae hwn yn gyfle gwych i annog eich plentyn i feddwl pam mae pobl yn gwneud gwahanol benderfyniadau am arian.
Mae ychydig o baratoi yn mynd yn bell
Gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau sgwrs am arian, felly mae’n werth meddwl am yr hyn rydych eisiau ei ddysgu i’ch plentyn. Nid oes rhaid i hwn fod yn gymhleth – gallwch ddewis y pwyntiau sylfaenol hoffech eu cyfleu a’r gwerthoedd neu’r agweddau tuag at arian rydych yn meddwl sy’n bwysig i’w rhannu.
Mae hefyd yn werth nodi'r hyn sy'n bwysig i'ch teulu ar hyn o bryd - mae'n llawer mwy diddorol i blant gymryd rhan mewn penderfyniadau arian sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Er enghraifft, os ydych yn cynilo ar gyfer gwyliau, fe allech ddangos iddynt rai o'r pethau rydych yn eu gwneud i gynilo fel osgoi mynd am brydau bwyd allan neu deithiau i'r sinema.