Efallai nad ydych fel arfer yn siarad â’ch ffrindiau am arian, ond mae’n bwysig i allu cael sgwrs amdano. P’un a oes angen i chi dorri costau pan rydych yn cwrdd neu am rannu eich cynlluniau neu bryderon gyda nhw, dylai eich bod yn gallu siarad amdano â’ch ffrindiau.
Dweud wrth eich ffrindiau na allwch chi fforddio mynd allan
Mae eich ffrindiau yn ffrindiau waeth faint o arian yr ydych yn ei ennill neu faint o arian sydd gennych chi i’w wario.
Mae’n annhebygol iawn y byddant yn rhoi’r gorau i dreulio amser gyda chi gan na allwch chi ymuno â nhw mewn gweithgareddau costus.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn gwybod faint o arian sydd gennych i’w wario, neu eich bod dan bwysau i gadw i fyny. Ni fydd ganddynt unrhyw syniad o’ch sefyllfa os na ddywedwch chi wrthyn nhw.
Dyma rai awgrymiadau a allai helpu:
- Os ydych chi'n cynilo am rywbeth, eglurwch mai dyma pam rydych chi'n chwilio am ffyrdd i gadw costau'n isel.
- Cymryd rheolaeth ar gyfarfodydd a threfnu i gwrdd a gwneud gweithgareddau rhad neu am ddim, a all fod yn gymaint o hwyl â rhai drud. A dim ond cymryd y swm o arian y gallwch chi fforddio ei wario.
- Gofynnwch i’ch ffrindiau a fyddai un ohonynt yn fodlon bod yn ‘gyfaill cynilo’ - sef rhywun sy’n rhoi help i chi gyrraedd eich nodau cynilo.
- Dywedwch wrthynt ar gyfer beth rydych yn cynilo amdano a faint sydd ei angen arnoch. Yna gall eich ffrind gael sgyrsiau rheolaidd gyda chi i wirio’ch cynnydd a’ch cefnogi ar hyd y daith. Beth am gyfnewid cefnogaeth hyd yn oed - pa help allech chi ei roi iddynt?
Sut i ddelio â ffrind sy’n gofyn i gael benthyca arian
Os bydd ffrind yn gofyn i gael benthyca arian, gall fod yn anodd iawn dweud na. Nid ydych yn dymuno eu colli fel ffrind yn sgil ffrae am arian, ond wedi dweud hynny, maent yn annwyl i chi ac rydych yn dymuno eu helpu.
Gall benthyca arian i ffrind roi straen ar berthynas. Mae hyn yn enwedig petaech yn ei chael hi’n anodd gofyn iddynt am yr arian sy'n ddyledus neu petaech mewn trafferthion pe na fyddech yn cael yr arian yn ôl. Os felly, gwell peidio â benthyca’r arian.
Mae’n bwysig i beidio â theimlo’n euog ynglŷn â gwrthod benthyca arian i ffrind. Gallwch roi cymorth iddo mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, dywedwch wrthynt am y canllawiau sydd gennym ar ein gwefan, fel Sut mae cael credyd am y tro cyntaf ar canllawiau eraill o dan Rheoli arian yn dda yn ein hadran Cyllidebu.
Gallwch roi cefnogaeth iddynt hefyd drwy ddweud na – wedi’r cwbl, nid yw mynd i ddyled a allai ddifetha perthynas yn debygol o helpu’ch ffrind.
Os ydych yn ystyried rhoi benthyg arian, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hunan:
A allaf ei fforddio
Edrychwch ar eich cyllideb eich hun i sicrhau nad ydych am roi eich hun mewn trafferthion ariannol yn gyntaf. Allwch chi fforddio peidio â chael yr arian yn ôl? Er mwyn eich helpu i weithio hyn allan, gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd ei ddefnyddio.
A allant ei fforddio?
Os na fyddant yn medru talu’r arian yn ôl i chi’n llawn, rydych mewn perygl o greu cryn dipyn o broblemau i chi’ch hunan. Os na allant brofi y gallant dalu’r arian yn ôl i chi, peidiwch â rhoi benthyg yr arian iddynt. Gallwch hyd yn oed awgrymu y gallant ddarllen am y manteision ar anfanteision yn ein canllaw Benthyg arian gan neu fenthyca i ffrindiau neu bobl rydych yn eu hadnabod.
Pa mor ffurfiol fydd y trefniant hwn?
Mae’n syniad da i gael unrhyw gytundebau wedi’u hysgrifennu, gan nodi yn glir faint fydd yn cael ei ad-dalu a phryd.
Mae hefyd yn bwysig cadw cofnod o bryd mae ad-daliadau yn cael eu gwneud, fel bod y ddau ohonoch yn gwybod yn union faint sy’n dal i fod yn ddyledus.
Mae cael cytundeb ffurfiol mewn lle yn gallu eich amddiffyn. Mae’n anodd meddwl amdano, ond os bu farw eich benthyciwr heb i’r ddyled gael ei thalu – bydd angen tystiolaeth arnoch i hawlio o’u hystâd.
Os ydy swm mawr o arian ynghlwm, mae’n bwysig i chwilio am gyngor arbenigwr o gyfreithiwr neu gyfrifydd i wneud y cytundeb yn fwy ffurfiol.
Cael arian a fenthycwyd yn ôl
Gall gofyn i ffrindiau dalu’r arian sy’n ddyledus yn ôl i chi achosi gryn straen. Mae’n waeth fyth os gwyddoch nad oes gan eich ffrind lawer o arian ac y byddant yn ei chael hi’n anodd talu’r arian yn ôl i chi.
Os yw’r cyfeillgarwch o werth sylweddol i chi, mae’n bwysig peidio â chreu ffrae wrth ofyn am eich arian yn ôl.
Gallwch bob amser dybio bod ateb syml, sef bod y ffrind wedi anghofio, gan geisio ei atgoffa gydag ambell i awgrym cynnil.
Weithiau gall cynnal sgyrsiau am fenthyca arian fod ychydig yn haws os ydych yn eu gwneud drwy neges destun neu e-bost.
Golyga hynny hefyd bod popeth mewn ysgrifen ynglŷn â faint o arian a fenthycwyd a pha bryd y caiff ei dalu’n ôl.
Gall fod o fudd ychwanegu ychydig o frys er mwyn i’ch ffrind sylweddoli eich bod bellach angen yr arian yn ôl. Er enghraifft, gallai brawddegau fel ‘Mae’n ddrwg iawn gen i ofyn, ond dw i wir angen cael yr arian yn ôl erbyn XX gan fod angen i mi dalu XX yn ôl’.
Os na fydd yr holl drafodaethau’n llwyddo a chredwch na fyddwch yn medru cael eich arian yn ôl drwy sgwrsio’n unig, fel cam olaf gallech bob amser geisio cymorth cyfreithiol. Bydd hyn yn cynnwys hawlio’r arian yn ôl drwy’r llys.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Mae’n werth nodi nad oes modd cyflwyno cais yn rhad ac am ddim - ac mae’r ffioedd yn cychwyn o £35 os hawliwch hyd at £300.
Os ydych yn penderfynu mynd i’r llys hawliadau bychain, bydd gennych y dewis i ddefnyddio Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain yn gyntaf.
Mae hwn am ddim a bydd yn cael ei ddarparu gan y llys. Os nad ydy hwn yn gweithio, bydd yr achos yn cael ei gyflwyno am wrandawiad yn y llys.
Os ydy benthyca i ffrindiau wedi achosi trafferthion ariannol, efallai bod angen addasu eich cyllideb. I’ch helpu gyda hwn, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb.
Sut i siarad am arian
Os ydych chi angen siarad gyda rhywun am arian ond ddim yn siŵr sut fydd pethau’n mynd, bydd ein canllaw Siarad â ffrindiau am arian (Opens in a new window) (PDF/A, 381KB).
Mae’n cynnwys awgrymiadau ar sut i ddechrau sgwrs, beth i’w wneud os ydych yn meddwl y bydd y sgwrs yn un anodd, a sut ddelio ag ymateb negyddol.